Canlyniadau chwilio

889 - 900 of 3961 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

889 - 900 of 3961 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

  • EVANS, MEREDYDD (1919 - 2015), ymgyrchydd, cerddor, athronydd a chynhyrchydd teledu Ganwyd Merêd yn Nhop Pentre, Llanegryn, Sir Feironnydd, ar 9 Rhagfyr 1919, yr ieuengaf o blant Charlotte Evans (g. Pugh, 1881-1965) a'i gŵr Richard Evans (1867-1936), peiriannydd. Ganwyd iddynt un ar ddeg o blant, ond pump arall yn unig a oroesodd fabandod, sef: Elizabeth (1900-1990), John (Jac, 1904-1975), Francis (Frank, 1906-1977), William (Wil, 1910-1984) a David (Dei, 1913-1996). Yn fuan
  • EVANS, MORGAN (Cynllo Maesyfed, Cynllo Maelienydd; 1777? - 1843), offeiriad a phrydydd Ganwyd ym mhlwyf Llanrhystyd, Sir Aberteifi, o bosibl yn Rhyd-las, yn fab i David a Mary Evans (?). Addysgwyd ef yn ysgol Ystrad Meurig, a bu'n gurad Llanddeiniol yn yr un sir o 23 Medi 1804 hyd 22 Medi 1805 pan gafodd ficeriaeth Breideth a Chaslai yn Sir Benfro. Ar 4 Awst 1807 derbyniodd ficeriaeth Llangunllo, sir Faesyfed, ac o 15 Mehefin 1825 ymlaen daliai fywiolaethau Llanddewi'r Cwm a
  • EVANS, MORRIS EDDIE (1890 - 1984), cyfansoddwr Ganed Eddie Evans ar 5 Hydref 1890 yn Nhal-y-sarn, Dyffryn Nantlle, unig blentyn William Owen Evans a'i wraig Catherine A. Evans. Cadwai'r teulu siop groser Cloth Hall ac yn ddiweddarach Paris House yn Nhal-y-sarn, a derbyniodd y mab wersi harmoniwm a sol-ffa gan gerddorion lleol. Symudodd y teulu i Lerpwl yn 1904, lle cafodd Eddie hyfforddiant gan y cerddor a'r cyfansoddwr John Henry Roberts
  • EVANS, OWEN (1829 - 1920), gweinidog Annibynnol ac awdur Ganwyd 19 Tachwedd 1829 yn Penybontfawr, Sir Drefaldwyn. Hanai o deulu crefyddol iawn - yr oedd yn gâr i Ann Griffiths o ochr ei fam. Bu'n dilyn crefft ffatrïwr yn ifanc. Daeth yn aelod crefyddol yn Llanfyllin pan oedd yn 16 oed. Bu yn yr ysgol gyda ' Ieuan Gwynedd ' am ysbaid ac yn cadw ysgol yn yr un man yn ddiweddarach. Dechreuodd bregethu yn Llanfyllin, a bu'n gweinidogaethu yn Berea, Môn
  • EVANS, OWEN ELLIS (1920 - 2018), gweinidog Methodistaidd ac ysgolhaig beiblaidd Ganwyd Owen E. Evans ar 23 Rhagfyr 1920 yn y Bermo, yn fab i Owen Jones Evans (1887-1926), fferyllydd, a'i wraig Elizabeth Mary (g. Jones, 1887-1961), perchen gwesty bychan. Roedd ganddo un brawd hŷn, John William. Treuliodd bum mlynedd cyntaf ei oes yn Wimbledon, Llundain, ond bu'n rhaid i'r teulu symud yn ôl i'r Bermo yn haf 1926 oherwydd gwaeledd ei dad. Roedd yn gymeriad annwyl a charedig ac
  • EVANS, PHILIP (1645 - 1679), offeiriad o Gymdeithas yr Iesu, a merthyr Ganwyd yn Sir Fynwy. Ei dad oedd William Evans, a'i fam oedd Winifred Morgan, o bosibl o Lanfihangel Crucornau. Addysgwyd ef yn St. Omer ac ymaelododd â Chymdeithas yr Iesu ar 8 Medi 1665. Ordeiniwyd ef yn 1675, a'i ddanfon i genhadaeth yr Iesiwitiaid yn ne Cymru. Yn ôl y bradwr Edward Turberville ymwelodd â Chastell Powys; ond canolfan ei weithgarwch oedd sir ei enedigaeth a Morgannwg. Bu ar
  • EVANS, RHYS (1835 - 1917), cerddor Ganwyd 24 Mehefin 1835 mewn ffermdy yn Cross Inn, Rhydaman, Sir Gaerfyrddin. Teiliwr ydoedd wrth ei alwedigaeth. Cafodd ei wersi cyntaf mewn cerddoriaeth gan William Penry. Yn 17 oed aeth i Abertawe; ymunodd â dosbarth cerddorol yno, a dysgodd ddarllen cerddoriaeth yn rhwydd. Symudodd i fyw i Gwmafon, ac wedi hynny i Gaerdydd, ac ymunodd â chorau Rhys Lewis a Mr. Righton a berfformiai
  • EVANS, RICHARD HUMPHREYS (1904 - 1995), gweinidog MC ac athro diwinyddol Ganwyd 8 Ebrill 1904 yng Nghaergybi ac fe'i addysgwyd yn Ysgol Sir y dref honno. Graddiodd yng Ngholeg y Brifysgol, Bangor, yn 1927 gydag anrhydedd mewn Lladin; ac ar ôl cychwyn ar gwrs y B.D. ym Mangor symudodd i'r Coleg Diwinyddol Unedig yn Aberystwyth yn 1929 gan gwblhau'r radd honno yn 1931. Parhaodd â'i addysg ddiwinyddol yn Rhydychen wedi ennill Ysgoloriaeth Arbennig Pierce a chofrestrodd
  • EVANS, RICHARD THOMAS (1892 - 1962), gweinidog a gweinyddwr (B) ac ad-drefnu, a bernir mai ei brif orchest oedd canoli gweithgareddau'r enwad dan yr unto yn y swyddfa newydd yn Nhŷ Ilston a agorwyd yn Abertawe yn 1940. Priododd 28 Mawrth 1921 yn Seion, Glanconwy, Maria Myfanwy (ganwyd 27 Mehefin 1893), merch William Wallace Thomas (1832 - 1904), brodor o Bentrefoelas a gweinidog (A) ym Maes-glas, ger Holywell, o 1873 hyd ei ymddeol i Lanconwy yn 1885. Ei
  • EVANS, ROBERT (Cybi; 1871 - 1956), bardd, llenor a llyfrwerthwr Ganwyd 27 Tachwedd 1871 yn Elusendy, Llangybi, Sir Gaernarfon, yn fab i Thomas a Mary (ganwyd Roberts) Evans (gwas fferm oedd y tad) a bu iddynt saith o blant. Addysgwyd ef yn ysgol y cyngor, Llangybi, ac wedi bod yn gweini ffermydd Eifionydd bu yn llythyrgludydd yn yr ardal am y rhan fwyaf o'i oes. Un o'i gyd-bostmyn oedd William Hugh Williams, ' Cae'r Go '. Yr oedd hefyd yn gwerthu 'llyfrau o
  • EVANS, ROBERT TROGWY (1824 - 1901), gweinidog gyda'r Annibynwyr Ganwyd ym mhlwyf Trefeglwys, sir Fôn. Fe'i trwyddedwyd i bregethu yn 1849 a chafodd ei addysg yng Ngholeg y Bala o dan Michael Jones (yr hynaf). Bu'n fugail eglwys Annibynnol Gymraeg yn Manchester; ordeiniwyd ef yno 12 Medi 1853. Wedi bod yno am bedair blynedd aeth yn weinidog ar eglwys yn Greenfield, Sir y Fflint. Ymfudodd i U.D.A. yn 1870; yno bu'n weinidog yn Remsen, talaith New York, gan
  • EVANS, SAMUEL (1777 - 1833), gweinidog gyda'r Annibynwyr Ganwyd yng Nghlydach gerllaw'r Fenni ym Mehefin 1777. Yn 18 oed (pan yn byw yn y Dre-hir ar odreon sir Henffordd) dechreuodd bregethu; bu wedyn yn cadw ysgol yng Nghwm-dŵr rhwng Trecastell a Llanymddyfri, ac yn pregethu yng Nghefn Arthen a'r eglwysi cylchynnol. Urddwyd ef yn weinidog Soar, Merthyr Tydfil, yn 1810, a bu yno hyd ei farwolaeth, 27 Mehefin 1833. Yr oedd yn ŵr o gryn allu; cyhoeddodd