Canlyniadau chwilio

1 - 12 of 18 for "Bedo"

1 - 12 of 18 for "Bedo"

  • BEDO AEDDREN (fl. c. 1500), bardd Trigai yn Aeddren, ger Llangwm Dinmael, sir Ddinbych, a sonia ef ei hun am Langwm a Dinmael yn ei waith. Ceir amrywiaeth yn y llawysgrifau ynglŷn ag enw ei drigfan - Aerddrem, Aurdrem, Eurdrem, Oerddrym. Y mae'n debyg iddo hefyd ddal neu etifeddu ffarm Coed y Bedo, ger Aeddren. Dywaid rhai mai brodor o Lanfor, Meirionnydd, ydoedd. Yr oedd yntau, fel Bedo Brwynllys, yn ddilynydd i Dafydd ap Gwilym
  • BEDO BRWYNLLYS (fl. c. 1460), bardd o Frycheiniog
  • BEDO HAFESP (fl. 1568), bardd o sir Drefaldwyn
  • BEDO PHYLIP BACH (fl. 1480), bardd o sir Frycheiniog Awdur 11 o gywyddau. Awgrymwyd mai yr un yw ef a Bedo Brwynllys am fod y ddau yn hanfod o agos yr un ardal, ond un llawysgrif yn unig sydd yn mynegi ansicrwydd.
  • DAFYDD ab OWAIN (bu farw 1512), abad ac esgob ym Maenan a ddadfeiliasai, ac ailadeiladodd balas yr esgob yn Llanelwy. Dywedir hefyd iddo adeiladu yno bont o goed, yn y lle y codwyd pont faen yn 1630, ac mai Pont Dafydd Esgob y gelwid honno. Canodd y beirdd yn helaeth iddo gan ei foli am ysgolheictod mewn pob gwybodaeth. Gweler gweithiau Bedo Brwynllys, Dafydd Amharedudd ap Tudur, Gruffudd ap Llywelyn Fychan (2), Guto'r Glyn, Hywel Rheinallt
  • DAFYDD ap DAFYDD LLWYD (1549), bardd ac aelod o deulu bonheddig ), Sion Huws, Maes y Pandy, ger Talyllyn, a'r doctor [ David ] Powell, ymrysonau rhyngddo â Roger Cyffin a Lewys Dwnn, a cherddi crefyddol a moesol. Canodd Bedo Hafesb gywydd marwnad iddo (Bodewryd MS 1D (289). Ymddengys mai ei fab, John, biau'r englyn yn NLW MS 5270B (327).
  • DEE, JOHN (1527 - 1608), mesuronydd a seryddwr Ganwyd 13 Gorffennaf 1527, yn Llundain, mab Rowland Dee, boneddwr yng ngwasanaeth Harri VIII. Yr oedd yn ŵyr i Bedo Ddu o Nant-y-groes, Pyllalai (Pilleth), Maesyfed a chadwodd ei gysylltiad â'r ardal. Hanoedd y teulu o sir Faesyfed (gweler J. D. Rhys, Cambrobrytannicae Cymraecaeve Linguae Institutiones, 60); lluniodd Dee ei hun ach a amcanai ddangos ei fod o hil Rhodri Mawr. Er nad oes
  • HYWEL AERDDREN (neu AEDDREN neu AEDDREM) (fl. c. 1540-70?), bardd Ni wyddys unrhyw fanylion am ei fywyd. Yn ôl Llanstephan MS 15 (44) a Cwrtmawr MS 5B (i-ii) (441), yr oedd lle o'r enw Aeddren ym mhlwyf Llangwm, sir Ddinbych, lle y bu Bedo Aeddren yn byw. Efallai fod Hywel hefyd yn frodor o'r un man. Ni wyddys a oedd perthynas rhyngddo a Bedo. Ceir ychydig o'i gywyddau mewn llawysgrifau, ond ni ellir ei ddyddio'n fanwl oddi wrth y rheini.
  • HYWEL ap DAFYDD ap IEUAN ap RHYS (fl. c. 1450-80) Raglan, bardd un o'r ddau ymryson a ganwyd rhyngddo a Guto'r Glyn ei fod yn fardd teulu yn Rhaglan. Canwyd ymrysonau eraill rhyngddo a Bedo Brwynllys, a hefyd Gruffudd ap Dafydd Fychan a Llywelyn Goch y Dant. Dywedir gan Edward Jones (ar dystiolaeth Rhys Cain, y mae'n debyg) ei fod yn M.A., yn awdur hanes Prydain yn Lladin a hanes Cymru yn Gymraeg, a bod ei lawysgrifau yn dda a gwerthfawr. Ni ddaethpwyd o hyd
  • IEUAN ap BEDO GWYN (fl. c. 1530-90?), bardd a pherchennog stad
  • IEUAN BEDO GWYN - gweler IEUAN ap BEDO GWYN
  • IEUAN DEULWYN (fl. c. 1460), bardd Dafydd ab Einion o Lanllawddog a'i deulu, Siôn ap Dafydd o'r Llys Newydd, a Siôn Lewys a'i dad o Brysaddfed ym Môn. Canodd gywyddau crefyddol a serch, a hefyd gywydd ymryson i Bedo Brwynllys. Yr oedd Ieuan yn bleidydd poeth i wŷr York, ac un o'r pethau y mae'n ei ddannod i Bedo Brwynllys yw ei fod 'yn chwarae'r ffon ddwybig yn y mater hwn. Cedwir cywydd marwnad Hywel Rheinallt (neu Hywel ap D. ab Ieuan