Canlyniadau chwilio

1 - 12 of 15 for "Curig"

1 - 12 of 15 for "Curig"

  • CURIG (fl. 550?), sant Nawddsant Llangurig, plwyf mawr yn ne Arwystli ac efallai hefyd Eglwys Fair a Churig yn Sir Gaerfyrddin a Capel Curig yn Sir Gaernarfon. Adwaenid ef wrth y cyfenwau Curig Lwyd (sef y gwynfydedig) a Curig Farchog; yn ' Buchedd Curig ' (sydd yn waith diweddar) dygir ef i gysylltiad â Maelgwn Gwynedd. Yn amser Gerallt Gymro trysorid ei bawl bugeiliol - a addurniesid ag aur ac arian ac a oedd yn
  • GRIFFITH, DAFYDD (1841 - 1910), ysgolfeistr, ciwrad, dyddiadurwr Ganwyd ef yn y Bontnewydd, ger Caernarfon, daeth yn brentis athro plant yn ysgol yr Eglwys yno, ac yn 1860 cafodd fynediad i'r Coleg Normal yng Nghaernarfon. Rywfodd gadawodd y coleg heb dystysgrif swyddogol, ond drwy garedigrwydd y deon J. H. Cotton cafodd ofal ysgol Capel Curig 1861-75); y mae ei ddyddiaduron, 52 i gyd, y rhan fwyaf yn llyfrau hirion tebyg i lyfrau cyfrifon siop, yn arbennig o
  • IEUAN ap IEUAN ap MADOG (fl. 1547-87), copïydd llawysgrifau ). Cynhwysant gyfrifon trethiant yn Llangynwyd yn 1584, copïau o weddïau yn cynnwys 'Llurig Siarls,' 'Emyn Curig,' a manylion am hynafiaid y copïydd. Gyda hwy hefyd y mae ymrwymiad gan Ieuan ab Ieuan i dalu swm o arian i Antoni Powel, Llwydarth, yn 1587.
  • JONES, ALWYN RICE (1934 - 2007), Archesgob Cymru Ganwyd Alwyn Rice Jones ar 25 Mawrth 1934 yng Nghapel Curig, Sir Gaernarfon, unig blentyn John Griffith Jones, chwarelwr llechi, a'i wraig Annie. Bu farw ei fam a'i dad yn ifanc, gan ei adael yn amddifad yn bedair ar ddeg oed. Fe'i magwyd mewn cymuned Gymraeg, a'r Gymraeg oedd ei iaith gyntaf ar hyd ei oes. Mynychodd Ysgol Ramadeg Llanrwst ac enillodd ysgoloriaeth i astudio'r Gymraeg yng Ngholeg
  • JONES, GRIFFITH HUGH (Gutyn Arfon; 1849 - 1919), cerddor , aeth yn athro cynorthwyol i Ysgol Frutanaidd Aberystwyth. Yn 1869 symudodd i gadw ysgol elfennol Rhiwddolion, Betws-y-coed, a dechreuodd weithio yn egnïol gyda cherddoriaeth. Sefydlodd ddosbarthiadau solffa yng Nghapel Curig, Betws-y-coed, Penmachno, Ysbyty Ifan, Capel Garmon, a Dolwyddelan. Sefydlodd ac arweiniodd undeb corawl ym Metws-y-coed, a bu'n arweinydd y seindorf. Trefnodd 'operettas' i
  • JONES, IEUAN SAMUEL (1918 - 2004), gweinidog (Annibynwyr) gwahanol, fel emynydd, ac nid yn lleiaf felly fel arlunydd. Gwelwyd rhai o'i dirluniau yn rhai o siopau celf Abertawe. Bu arddangosfa o'i waith fis Mawrth 1998 yn festri Seion, Aberystwyth (catalog yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.) Nid anghofir ei bortreadau o'r Parchg. E. Curig Davies a Mr. Brinley Richards yn Nhy John Penri. Treuliodd naw mlynedd olaf ei fywyd yn Aberystwyth, ac yno yn Ysbyty Bronglais
  • JONES, JOHN (1796 - 1857), pregethwr amlwg a grymus neilltuol, a gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd Ganwyd 1 Mawrth 1796, yn Nhanycastell, Dolwyddelan, yn fab i John ac Elen Jones, a brawd David Jones, Treborth. Collodd ei dad pan yn 12 oed. Dylanwadodd diwygiad Beddgelert (1819) arno ac ymunodd â chrefyddwyr yn Llangernyw; bu'n gweithio ar y ffordd fawr rhwng Capel Curig a Llyn Ogwen ac wedyn mewn chwarel yn Nhrefriw. Dechreuodd bregethu yn 1821; ni bu mewn ysgol o gwbl, eithr cafodd ychydig
  • JONES, ROBERT (1745 - 1829), athro, pregethwr, ac awdur Ganwyd 13 Ionawr 1745, mab John a Margaret Williams o'r Suntur, Llanystumdwy. Dysgwyd darllen iddo gan ei fam, a bu yn un o ysgolion cylchynol Griffith Jones a gedwid gan Thomas Gough. Llwyddodd Robert Jones i berswadio Madam Bevan i ailagor yr ysgolion cylchynnol yng Ngwynedd, a bu ef yn athro yn Llangybi (1766), Beddgelert (1767), Capel Curig (1768), Rhuddlan (1769), Brynsiencyn (1770
  • LEWIS, DAVID JOHN (Lewis Tymbl; 1879 - 1947), gweinidog (A), pregethwr a darlithiwr poblogaidd , na chael ei gyfyngu i sgript. Dyna paham y gwrthodai bregethu ar y radio ar ôl un tro. Ef oedd cadeirydd Undeb yr Annibynwyr am 1945-46, a thraddododd ei anerchiad ' Bwrw'r draul ', yn Ebenezer, Abertawe ym Mehefin 1945. Cyhoeddwyd hwnnw yng nghofiant Ieuan Davies, a hefyd un o'i bregethau yn Llef y Gwyliedydd (gol. E. Curig Davies 1927). Ni ellid trosglwyddo'i bersonoliaeth fyw i bapur. Ni bu'n
  • NICHOLAS, WILLIAM RHYS (1914 - 1996), gweinidog ac emynydd gwasanaethu fel Llywydd y Myfyrwyr, cyn dychwelyd i Gaerfyrddin i wneud gradd mewn diwinyddiaeth. Ordeiniwyd ef yn weinidog ar 7 Tachwedd 1945 yn Llwyn-yr-hwrdd cyn ei benodi yn gynorthwy-ydd i Ysgrifennydd Cyffredinol yr Annibynwyr, E. Curig Davies. Yn ystod ei gyfnod yno gwasanaethodd fel ysgrifennydd i'r pwyllgor a oedd yn paratoi argraffiad newydd Y Caniedydd, emyniadur yr Annibynwyr Cymraeg, a
  • OWEN, ROBERT LLUGWY (1836 - 1906), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, athro, ac awdur Ganwyd ym Metws-y-coed ym mis Hydref 1836, yn fab i Joseph Owen. O Ysgol Frutanaidd Llanrwst aeth yn 14 oed i weithio mewn chwarel yn Ffestiniog. Dechreuodd bregethu (yng Nghapel Curig) yn 1857; aeth i ysgol 'Eben Fardd' yng Nghlynnog ac oddi yno i ysgol yn Nulyn - bu'n athro cynorthwyol yn honno. Bu yng Ngholeg y Bala o 1860 hyd 1863, ac ymaelododd ym Mhrifysgol Llundain. Galwyd ef yn 1863 i
  • PARRY, Syr THOMAS (1904 - 1985), ysgolhaig, Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Prifathro Prifysgol, bardd weithiau Ifor Williams, ei gyn-athro arall a Phennaeth ei Adran. Yr un flwyddyn, ar y cyd ag E. Curig Davies, golygodd Gwybod, llyfr y bachgen a'r eneth. Yn 1942 lluniodd y degfed o “Bamffledi Heddychwyr Cymru” (Tystiolaeth y Tadau), y flwyddyn ganlynol cyhoeddodd lyfryn ar Eisteddfod y Cymry, a chyd-olygodd gyda Chynan Cofion Cymru at ei phlant ar wasgar, 1941-44. Am 'gwpl o flynyddoedd' yn y 'cyfnod