Canlyniadau chwilio

1 - 5 of 5 for "Cynwyd"

1 - 5 of 5 for "Cynwyd"

  • EVANS, HUGH (1854 - 1934), awdur a chyhoeddwr llyfrau Ganwyd yn Ty'n Rhos, Cwm Main, Llangwm, 14 Medi 1854, mab Hugh Evans a Jane (Barnard). Priododd Jane, ferch David a Sarah Williams, Pant-y-Clai, Cynwyd. Ar ôl tymor byr yn ysgol Cerrig-y-drudion o dan ofal John Williams (a fuasai'n cadw siop lyfrau yn y Strand, Llundain) dechreuodd weithio fel wagner ar wahanol ffermydd. Aeth i Lerpwl yn 1875 lle bu'n gweithio am flwyddyn ynglŷn ag adeiladu capel
  • EVANS, THOMAS CHRISTOPHER (Cadrawd; 1846 - 1918), hynafiaethydd, hanesydd lleol, a chasglydd llên gwerin helaethaf o'i oes. Priododd Elizabeth Thomas o Gaerfyrddin, a ddaethai i Langynwyd yn ysgolfeistres, ac a ddaliodd y swydd am agos i 30 mlynedd, er iddi gael wyth o blant ei hun, heb golli ond un ohonynt yn ei fabandod. Yr oedd gan 'Cadrawd' ddiddordeb ym mhob agwedd o fywyd ei fro. Casglodd i'w gartref, sef 'Ty Cynwyd,' yn ymyl mynwent ei blwyf, bob math o hen ddodrefn, a hen offer ffarm a chrefft, a
  • EVANS, WILLIAM GARETH (1941 - 2000), hanesydd a darlithydd prifysgol mewn Addysg Ganwyd ef yng Nghynwyd, ger Corwen ar 14 Rhagfyr 1941, yn fab i William a Mary Evans. Addysgwyd ef yn ysgol elfennol Cynwyd, ac Ysgol Tŷ Tan Domen (Ysgol Ramadeg y Bechgyn yn y Bala), ysgol nodedig a fu'n feithrinfa i nifer o haneswyr blaenllaw gan gynnwys Yr Athro Syr Rees Davies (1938-2005). Aeth i Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, yn Hydref 1960 a graddiodd gydag anrhydedd uchel o fewn y
  • GRIFFITHS, DAVID REES (Amanwy; 1882 - 1953), bardd ac ysgrifwr ef yn ddiacon yn eglwys Annibynnol Gellimanwydd, a chyhoeddodd deyrnged i'w hen weinidog (Parch. Isaac Cynwyd Evans) dan y teitl Gweinidog fy ieuenctid (1945). Darlledodd lawer ar y radio o bryd i'w gilydd, a chymerodd ran flaenllaw yn y ffilm David, sy'n bortread o ramant ei fywyd. Cyhoeddwyd ei weithiau prydyddol - yn bryddestau, caneuon, sonedau ac emynau - dan y teitl Caneuon Amanwy (1956) a
  • ROBERTS, EDWARD STANTON (1878 - 1938), Athro ac ysgolhaig Ganwyd 11 Mawrth 1878, yn 'Edeyrnion', Cynwyd, Meirionnydd, yn fab i Robert a Martha Roberts. Crydd oedd ei dad, 'cofiadur pennaf yr ardaloedd' yn ôl Cwm Eithin Hugh Evans. Addysgwyd Stanton Roberts yn ysgol fwrdd Cynwyd lle bu wedyn yn ddisgybl-athro o 1892 i 1896. Enillodd ysgoloriaeth y Frenhines i'r Coleg Normal, Bangor, a bu yno o 1896 i 1898 gan ennill tystysgrif dosbarth cyntaf. Am ddeufis