Canlyniadau chwilio

1 - 12 of 233 for "Ioan"

1 - 12 of 233 for "Ioan"

  • ABDUL-HAMID, SHEIKH (1900 - 1944), pensaer ac arweinydd Mwslemaidd Rhyl yng ngogledd Cymru fel aelod o staff y Weinyddiaeth Weithfeydd (comisiwn amser rhyfel yn ôl pob tebyg). Cofleidiodd Abdul-Hamid y newid hwn yn ei amgylchiadau trwy chwarae rhan weithredol ym mywyd trefol y Rhyl, gan drefnu digwyddiadau elusennol dros y Groes Goch a Chronfa Carcharorion Rhyfel St Ioan. Roedd hefyd yn ymwelydd cyson â Chlwb Criced Bae Colwyn. Tra yn y Rhyl aeth ati i drefnu
  • AL-HAKIMI, ABDULLAH ALI (c. 1900 - 1954), arweinydd Moslemaidd Ioan Fedyddiwr Dinas Caerdydd (o bosibl y Moslem cyntaf i'w gynnwys mewn seremoni o'r fath ym Mhrydain), trefnu ciniawau gyda phwysigion megis Arglwydd Faer Caerdydd, croesawu ymwelwyr rhyngwladol (gan gynnwys teulu brenhinol Yemen), a pherthynas dda â newyddiadurwyr er mwyn sicrhau sylw cyson i gymuned Foslemaidd Caerdydd yn y cyfryngau. Ni welwyd arweinyddiaeth o'r fath eto ymhlith Moslemiaid Cymru
  • ALBAN DAVIES, JENKIN (1901 - 1968), gŵr busnes a dyngarwr Ganwyd 24 Mehefin 1901, yn Walthamstow, Llundain, mab hynaf David Alban Davies a Rachel (ganwyd Williams) ei wraig, y ddau o Geredigion. Addysgwyd ef yn ysgol Merchant Taylors, ac enillodd ysgoloriaeth i Goleg S. Ioan, Rhydychen, ond ni allai fforddio mynd yno. Aeth i Brifysgol Cornell, T.U.A., am ddwy flynedd yn efrydydd amaethyddiaeth a llaetheg a gweithiodd am gyfnod byr mewn cwmnïau
  • BASSETT, CHRISTOPHER (1753 - 1784), offeiriad Methodistaidd i'w goffadwriaeth gan John Williams, S. Athan, a William Williams, Pantycelyn. Cyhoeddodd David Jones, Langan, lyfryn ar achlysur ei farwolaeth, Llythyr oddi wrth Dafydd ab Ioan y Pererin at Ioan ab Gwilim y Prydydd … (Trefecca, 1784), yn rhoi hanes ei fywyd.
  • teulu BODWRDA Bodwrda, Hen deulu yn Sir Gaernarfon, yn disgyn o Drahaiarn Goch, arglwydd Cymydmaen. Mabwysiadwyd y cyfenw gan HUGH GWYN, siryf sir Gaernarfon, 1605 (mab John Wyn, siryf 1584). Aeth tri o ddeuddeg plentyn Hugh Gwyn Bodwrda i Goleg Sant Ioan, Caergrawnt, lle y dewiswyd brawd ei wraig, sef Owen Gwynn, yn bennaeth yn 1612. Aeth WILLIAM BODWRDA (1593 - 1660) yno yn 1612 (ar ôl graddio yn Rhydychen) a chymryd
  • BOWEN, EVAN RODERIC (1913 - 2001), gwleidydd Rhyddfrydol a chyfreithiwr , Aberteifi, Ysgol Ramadeg Aberteifi, Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth (lle y graddiodd yn LlB yn 1933), a Choleg Sant Ioan, Caergrawnt (lle y graddiodd yn BA ym 1935 ac yn MA yn 1940). Yn Aberystwyth ac yng Nghaergrawnt enillodd raddau dosbarth cyntaf yn y gyfraith. Daeth yn fargyfreithiwr a galwyd ef i'r bar yn y Deml Ganol ym 1937. Ymunodd â siambrau yng Nghaerdydd a gwasanaethodd ar gylchdaith De
  • BOWYER, GWILYM (1906 - 1965), gweinidog (A) a phrifathro coleg (Ioan Wyn Gruffudd) i'w gyhoeddiad, a phan ddeallodd y myfyrwyr hynny, bu tynnu coes y Prifathro wrth y bwrdd bwyd gan ei hysbysu gyrrwr mor beryglus oeddwn! Prin iawn oedd cynnyrch llenyddol Gwilym Bowyer, er ei fod yn gryn feistr ar arddull Gymraeg gyhyrog a bywiog. Cyhoeddodd Yr Eglwys wedi'r Rhyfel (Pamffledi Heddychwyr Cymru, 1944) ac Ym mha ystyr y mae'r Beibl yn wir? (1954) a rhyw 25 o
  • BRUCE, MORYS GEORGE LYNDHURST (4ydd Barwn Aberdâr), (1919 - 2005), gwleidydd a dyn chwaraeon fel 'cyd-Gymro'; yr oedd yn falch iawn i'w gyfrif ei hun yn Gymro a gwnaeth gyfraniadau amrywiol i fywyd cyhoeddus Cymru. Yr oedd yn aelod gweithgar o Urdd Sant Ioan o Gaersalem yng Nghymru, bu, fel ei dad, yn gweithredu fel Prior i Gymru o 1958 hyd 1988. Yr oedd gweithgarwch dros ieuenctid yn draddodiad yn y teulu a bu Arglwydd Aberdâr yn Llywydd ar YMCA Cymru. Ynghyd ag ychydig o Gymry blaenllaw
  • BULMER-THOMAS, IVOR (1905 - 1993), gwleidydd Llafur yn wreiddiol a Cheidwadol yn ddiweddarach, ac awdur Ganed ef yng Nghwmbrân ar 30 Tachwedd 1905 i deulu arbennig o dlawd, yn fab i Alfred Ernest Thomas (1876-1918), tynnwr briciau lleol, a'i wraig Zipporah Jones (a fu farw ym 1954), morwyn tŷ. Ychwanegodd 'Bulmer' (enw morwynol ei ail wraig) at ei gyfenw drwy weithred newid enw gyfreithiol ym 1952. Addysgwyd ef yn Ysgol Jones Gorllewin Mynwy, Pontypŵl, Coleg Sant Ioan, Rhydychen (lle'r oedd yn dal
  • BURTON, IAN HAMILTON (Archimandriad Barnabas) (1915 - 1996), offeiriad Uniongred yn eiddgar a dilyn rhaglen lem y fuchedd fynachaidd. Wedi iddo benderfynu mynd yn offeiriad, gadawodd Burton Cowley o'i anfodd yn 1934 a dychwelodd i Bennal. Er mwyn ymgymhwyso i gael mynediad i Goleg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan, roedd angen ychwanegu mathemateg i'w dystysgrif ysgol, a llwyddodd i wneud hynny trwy astudio yng Ngholeg St Ioan, Ystrad Meurig, gan breswylio gwta filltir o
  • CHAMBERS, WILLIAM (1774 - 1855), diwydiannwr a gwr cyhoeddus canlyniad daeth y stad i feddiant William Chambers, 18 Rhagfyr 1824. Bu Syr Thomas Stepney farw yn ddietifedd, 19 Medi 1825. Ni cheir unrhyw esboniad ar yr ewyllys hon, arwahan i'r traddodiad teuluol fod Syr John Stepney wedi cweryla â'i frawd ac â'i chwiorydd. Ganwyd William Chambers yn Llundain, ac addysgwyd ef yng Ngholeg S. Ioan, Caergrawnt (cofrestrwyd ef 1792; B.A., 1795; M.A., 1800). Pan ddaeth
  • CHARLES, JAMES (1846 - 1920), gweinidog Annibynnol a diwinydd ddiddordeb pennaf. Cyhoeddodd Emanuel (1890), Esboniad ar Lyfr Amos (1900), Esboniad ar Epistol I Ioan (1900), Iawn a Thadolaeth (1905), Agoriad i Ddiwinyddyddiaeth y Testament Newydd (1915). Yn 1924 cyhoeddwyd Y Cysegr Sancteiddiolaf, yn cynnwys cofiant byr iddo, ynghyd â nifer o'i ysgrifau, gan y Parch. T. Jones. Ymgeisiodd yn ei lyfrau gysoni mynegiadau gwyddonol ei gyfnod â safbwynt uniongrededd