Canlyniadau chwilio

1 - 12 of 41 for "Rhodri"

1 - 12 of 41 for "Rhodri"

  • ANARAWD ap RHODRI (bu farw 916), tywysog Mab hynaf Rhodri Mawr. Pan laddwyd ei dad yn 878 gan wŷr Mercia daeth Anarawd yn bennaeth Môn a rhannau cyfagos Gwynedd. Efe, yn ddiau, oedd y gorchfygwr yn y frwydr ar lannau'r Conwy yn 881 - buddugoliaeth a gyfrifai'r Cymry yn arwydd o ddial Duw am Rodri. Ar y cyntaf ceisiodd Anarawd ei nerthu ei hun trwy ymuno â brenhiniaeth Ddanaidd York; ond ni fu'r ymuno o fawr fudd iddo a throes yn hytrach
  • ANIAN (bu farw 1306?), esgob Bangor gymedrolwr dros y tywysog o dan y cytundeb a wnaethpwyd ag iarll Gloucester yng Nghantref Selyf ym Mrycheiniog 27 Medi 1268; ymunodd ag esgob Llanelwy i drefnu dealltwriaeth rhwng Llywelyn a Dafydd ei frawd yn Aberriw yn 1269. Cyfamod arall y bu iddo ran ynddo oedd hwnnw a wnaethpwyd rhwng Llywelyn a'i frawd Rhodri fis Ebrill 1272. Ym mis Medi 1273 yr oedd gyda'r tywysog ac yn ei gyngor. Fodd bynnag, â
  • ANIAN (bu farw 1293), esgob Llanelwy flwyddyn yn Aberriw a hefyd yn y cyfamod rhwng Llywelyn a Rhodri a wnaethpwyd 12 Ebrill 1272 yng Nghaernarfon. Ar 30 Hydref 1272 ceir ef yn gennad Llywelyn at Harri III, a oedd bron ar ben ei yrfa, a chanmolir ef gan y brenin am iddo wneud ei waith mor dda. Ond yr oedd gelyniaeth gudd Llywelyn tuag at y brenin newydd yn peri newid yn Anian hefyd. Yn niwedd 1273 ysgrifennodd at Gregory X gan wneud
  • CAYO-EVANS, WILLIAM EDWARD JULIAN (1937 - 1995), actifydd gwleidyddol Comiwnyddol yn y Dwyrain Pell adeg ymgyrch a gâi ei adnabod fel Argyfwng Malaya. Wedi i'w dymor o wasanaeth cenedlaethol ddod i ben, treuliodd gyfnod yng Ngholeg Amaeth Cirencester cyn dychwelyd adref i ganolbwyntio ar fridio ceffylau Palomino ac Appaloosa ym Mridfa Glandenys. Priododd â Gillianne Mary Davies o Langeitho yn 1966, a bu un ferch a dau fab o'r briodas, Dalis (ganwyd 1966), Rhodri (ganwyd 1967
  • CHRISTINA i'w meibion Dafydd a Rhodri yn eu hymosodiad ar eu hanner-brawd Hywel yn 1170; ceir bardd anhysbys, gan chwarae ar ei henw, yn sôn mewn modd chwerw am ei hymddygiad anghristnogol. Cristin ydyw ffurf Gymreig ei henw; ffansi ' Iolo Morganwg ' sy'n gyfrifol am y ffurf ' Crisiant ' a geir yn ' Brut Gwent ' (The Myvyrian Archaiology of Wales, ii, 572).
  • CYNAN DINDAETHWY (bu farw 816), tywysog Yn ôl yr achau hynaf yr oedd yn fab Rhodri, ŵyr Cadwaladr (bu farw 664). A chofio, fodd bynnag, i Rodri (Rhodri Molwynog, fel rheol) farw yn 754 ac mai yn 813 y sonnir gyntaf am Gynan, rhaid ystyried yr ach yn wallus. Mewn cysylltiad ag ymgais â Hywel (brawd iddo, yn ôl Dr. David Powel) i'w gyfrif yn bennaeth Môn y daw enw Cynan i dudalennau hanes. Yn 814, Hywel a orfu; enillodd Cynan yr ynys yn
  • DAFYDD ab OWAIN GWYNEDD (bu farw 1203) ; dechreuodd ryfela y flwyddyn honno gyda chyrch ar Degeingl lle y cafodd ysglyfaeth mawr. Rhoes marw ei dad ym mis Tachwedd 1170 gyfle newydd; ymosododd ef a'i frawd Rhodri ar eu hanner-brawd Hywel ab Owain mewn brwydr gerllaw Pentraeth ym Môn a'i ladd. Yn 1173 ymosododd ar hannerbrawd arall, Maelgwn ab Owain, a'i yrru ar ffo o Fôn i Iwerddon. Ei flwyddyn fwyaf lwyddiannus ydoedd 1174; troes allan ei holl
  • DAFYDD ap GRUFFYDD (bu farw 1283), tywysog Gwynedd - yn 14 oed yn ôl cyfraith Hywel Dda - rhwng 1247 a 1252. Ceir sôn amdano, sut bynnag, mor gynnar â 1241, pan gafodd Dafydd a brawd iau iddo, Rhodri, yn ôl cytundeb rhwng y brenin Harri III a Senena, eu cymryd yn wystlon i'r brenin. Cychwynnodd gyrfa wleidyddol Dafydd yn 1253 pan wysiwyd ef i dalu gwrogaeth i'r brenin Harri III. Gosodwyd cyweirnod yr yrfa honno yn 1255 pan ymunodd Dafydd ag Owain
  • DAVIES, CATHERINE GLYN (1926 - 2007), hanesydd athroniaeth ac ieithyddiaeth, a chyfieithydd ). Priodasant yn 1952 ac er mai yn Otley, swydd Gaerefrog, y magodd eu pedwar plentyn, Eleri, Rhodri, Catrin a Gwen, ceisiodd drosglwyddo iddynt eu treftadaeth Gymraeg. Gyda'i gŵr cyfieithodd nofel André Gide La Symphonie pastorale dan y teitl Y Deillion (1965). Wedi i'w gŵr ymddeol o'r gadair Sbaeneg yn Leeds yn 1986, symudasant i Blaenpant, hen ysgoldy ger Llangwyryfon, Ceredigion, lle y byddent yn arfer
  • DEE, JOHN (1527 - 1608), mesuronydd a seryddwr Ganwyd 13 Gorffennaf 1527, yn Llundain, mab Rowland Dee, boneddwr yng ngwasanaeth Harri VIII. Yr oedd yn ŵyr i Bedo Ddu o Nant-y-groes, Pyllalai (Pilleth), Maesyfed a chadwodd ei gysylltiad â'r ardal. Hanoedd y teulu o sir Faesyfed (gweler J. D. Rhys, Cambrobrytannicae Cymraecaeve Linguae Institutiones, 60); lluniodd Dee ei hun ach a amcanai ddangos ei fod o hil Rhodri Mawr. Er nad oes
  • ELIDIR SAIS (fl. niwedd y 12fed ganrif a hanner cyntaf y 13eg.), bardd (a nodyn ar ei ddilysrwydd yn y rhagymadrodd, xi). Nid ymddengys fod Elidir yn gefnogol i bolisi ymosodol Llywelyn Fawr. Cwyna farwolaeth Rhodri yn dost, a dywed nad oes neb bellach ar ôl i 'ystwng treiswyr.' Gwyddom hefyd i Ddafydd ab Owain Gwynedd orfod cilio i Loegr oblegid cynnydd ei nai, ac y mae Elidir yn ystyried hyn fel trais ail yn unig i gipio bedd Grist gan Syladin (The Myvyrian
  • GRUFFYDD ap LLYWELYN (bu farw 1244), tywysog gogledd Cymru Mawrth 1244. Bu iddo bedwar mab - Owain Goch, Llywelyn ' ein llyw olaf ', David III, a Rhodri - ac un ferch, Gwladus, a briododd Rhys ap Rhys Mechyll. Yn 1248 cludwyd ei weddillion i Gymru a'u gosod i orffwys yn Aberconwy.