Canlyniadau chwilio

1 - 12 of 30 for "Adda"

1 - 12 of 30 for "Adda"

  • GRUFFUDD ab ADDA ap DAFYDD (fl. 1340-1370), llenor ganrif sydd ar gael, sef ' Breuddwyd Gruffudd ab Adda ' (a argraffwyd gan ' Gweirydd ap Rhys ' yn ei Hanes Llenyddiaeth Gymreig a chan Penar Griffiths yn Rhyddiaith Gymreig), a ' Trwstaneiddrwydd Gruffudd ab Adda ap Dafydd ' (a argraffwyd yn Y Cydymaith Diddan, 1766). Yr oedd hefyd yn gerddor, ac argraffwyd ei ' Gainc Ruffudd ab Adda ' yn y The Myvyrian Archaiology of Wales. Yn yr ail arg. o D.G.G
  • DAVIES, TREVOR OWEN (1895 - 1966), gweinidog (MC) a phrifathro Coleg Trefeca Ganwyd 20 Tachwedd 1895 yng Nghae Adda, Llanwrin, Trefaldwyn, mab Owen Gruffydd Owen a Mary Winifred Davies, Cae Adda. Yr oedd ei dad yn frawd i Richard Owen, Mynydd Ednyfed (tad ' Dame ' Margaret LLOYD GEORGE). Addysgwyd ef yn ysgol y pentref, ysgol sir Machynlleth, Coleg y Brifysgol, Aberystwyth (lle graddiodd yn y clasuron) a Choleg Eglwys Crist, Rhydychen (lle graddiodd gydag anrhydedd mewn
  • RHYS GOCH GLYNDYFRDWY (fl. c. 1460), bardd yr uchelwyr cywydd arall a ganodd i feibion Ieuan Fychan ab Ieuan ab Adda a garcharwyd yng nghastell y Drewen gan Risiart Trefor. Canodd hefyd gywyddau gofyn a serch.
  • ROBERTS, JOHN BRYN (1843 - 1931), cyfreithiwr a gwleidydd Ganwyd 8 Ionawr 1843 (a'i fedyddio fel John Roberts) yn fab i Daniel ac Anne Roberts, Bryn Adda, Bangor, ac yn aelod o deulu eang Roberts o'r Castell, Llanddeiniolen, Sir Gaernarfon (gweler J. E. Griffith, Pedigrees, 381). Addysgwyd ef yn Cheltenham, gorffennodd ei hyfforddiant fel cyfreithiwr yn 1868, a gwnaed ef yn far-gyfreithiwr o Lincoln's Inn yn 1889. Etholwyd ef yn aelod seneddol
  • ADDA FRAS (1240? - 1320?), bardd a brudiwr o fri Yn ôl Dr. John Davies a Thomas Stephens, blodeuai tua 1240. Cyfeirir ato yn Peniarth MS 94 (26), a Llanstephan MS. 119 (82) fel gwr yn byw tua 1038, ac yn cydoesi â Goronwy Ddu o Fôn. Ond yn G. P. Jones, Anglesey Court Rolls, 1346, tt. 37 a 39, ceir sôn am 'the son of Adda Fras', a 'the suit of Goronwy Ddu, attorney for the community of the Township of Porthgir.' Yn Dafydd ap Gwilym a'i gyfoeswyr
  • JONES, RHYS GWESYN (1826 - 1901), gweinidog gyda'r Annibynwyr ac awdur Beirniad, Y Diwygiwr, etc. Ym mis Mai 1867 ymfudodd i U.D.A., i gymryd gofal dwy eglwys yn Utica, talaith Efrog Newydd; bu'n gweinidogaethu wedi hynny yn Petaluma, California (1879), a New York Mills (1883). Cyhoeddodd Y Byd cyn Adda (1858, ac argraffiadau eraill), Esboniwr y Datguddiad … (Utica, 1867), Courting, Marrying, and Living (amryw argraffiadau), Yr Eglwys Bur, 1860, Y Teulu Dedwydd (Merthyr
  • WILLIAMS, DAFYDD RHYS (Index; 1851 - 1931), llenor a newyddiadurwr . Ymysg yr amryw lyfrau a gyhoeddodd yr oedd Rhwng Gwg a Gwen, 1903, Am Dro i Erstalwm, 1905?, Llyfr y Pedair Dameg, 1907?, Llyfr Pawb, 1908?, Llyfr y Ddau Brawf, 1911?, Llyfr y Ddau Adda, 1919. Bu farw 4 Mawrth 1931 yn Cefn Coed y Cymer.
  • teulu VAUGHAN Trawsgoed, Crosswood, ach. Tybir mai'r cyntaf i ymsefydlu yn y Trawsgoed oedd ADDA AP LLEWELYN FYCHAN (c. 1200); y mae'r casgliadau achau yn cytuno i ddywedyd iddo briodi Tudo (neu Dudo), merch ac aeres Ieuan Goch, Trawsgoed. Gor-or-wyr i Adda a Tudo oedd MORYS FYCHAN ap IEUAN; efe, meddir, a ddechreuodd gyfrif y Fychan (Vaughan wedi hynny) yn gyfenw. Ymysg dogfennau'r teulu (yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru) y mae
  • teulu OWEN Peniarth, , Heraldic Visitations, a (b) yn J. E. Griffith, Pedigrees, 323. Braslun yn unig a roir yma. Hawliai'r teulu ddisgyn o Ednowain ap Bradwen. Ceir LLEWELYN a dalodd warogaeth am ei diroedd i'r brenin Edward I. Mab i Lewelyn oedd EDNYFED, a briododd Gwenllian, merch a chydaeres Gruffydd ab Adda ap Gruffydd, Dôl Goch, rhaglod cwmwd Ystumaner am beth amser yn ystod amser Edward III - ceir beddrod Gruffydd ab
  • JONES, LEWIS DAVIES (Llew Tegid; 1851 - 1928), eisteddfodwr gasglu tuag at adeiladau newydd Coleg Prifysgol Gogledd Cymru ym Mangor, a bu'n gwneuthur hynny hyd 1916. Priododd, 1881, Elisabeth, merch John Thomas o Blas Madog, y Parc, ger y Bala, a chyfnither T. E. Ellis; bu iddynt ddau fab a thair merch. Bu farw ym Mangor, 4 Awst 1928, a'i gladdu ym mynwent Glan Adda. Cynhyrchodd ' Llew Tegid ' gryn dipyn o waith llenyddol; cydweithiodd â John Lloyd Williams yng
  • EVANS, BENJAMIN (1740 - 1821), gweinidog Annibynnol Ganwyd 23 Chwefror 1740 yn Ffynnon Adda, plwyf Meline, Sir Benfro. Ymadawodd â'r ysgol yn Hwlffordd am fferm ei dad yn 15 oed. Yr oedd ei dad yn ddiacon gyda'r Bedyddwyr, ond aeth ef gyda'i fam yn aelod at yr Annibynwyr yn Nhrewyddel yn 24 oed. Dechreuodd bregethu yno, ac urddwyd ef yn weinidog yn Llanuwchllyn yn 1769. Lledodd derfynau ei enwad yn y Gogledd yn wyneb gwrthwynebiad ac erlid, a
  • EVANS, JOHN (I. D. Ffraid, Adda Jones; 1814 - 1875), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd Crefydd. Ef oedd awdur 'Llythyrau Adda Jones' a ymddangosodd yn Baner ac Amserau Cymru o Ionawr 1869 hyd Rhagfyr 1874 - cyfres o 483. Gwnaed tysteb genedlaethol iddo yn 1869. Bu farw 4 Mawrth 1875.