Canlyniadau chwilio

1 - 12 of 13 for "Brân"

1 - 12 of 13 for "Brân"

  • MORGAN, GRIFFITH (Guto Nyth-brân; 1700 - 1737), rhedegydd enwog ym mhlwyf Llanwynno, Morgannwg. Y mae'r mymryn o ffeithiau a wyddys amdano i'w weld yn y llyfr diddan Plwy Llanwynno, gan ' Glanffrwd ' (William Glanffrwd Thomas), a chyda'r ffeithiau gryn swm o chwedloniaeth y fro ynghylch Guto. Ganed ef, meddir, yn 1700, yn Llwyncelyn, ar gyrion deheuol y plwyf ac uwchlaw'r Hafod (ger Pontypridd), ond symudodd ei rieni'n fuan wedyn i dyddyn cyfagos Nyth-brân
  • HYWEL ab EINION LLYGLIW (fl. c. 1330-70), bardd Ewythr i'r bardd Gruffudd Llwyd ap Dafydd ab Einion Llygliw. Ni wyddys dim o'i hanes, ond cadwyd ei awdl serch i Myfanwy Fychan o gastell Dinas Bran, Llangollen, yn NLW MS 1553A (275), NLW MS 4973B (369b), NLW MS 6209E (216); argraffwyd hi yn The Myvyrian Archaiology of Wales, a cheir cyfieithiad Saesneg ohoni hefyd yn Pennant, Tours in Wales. Hywel ab Einion o Faelor y gelwir y bardd yn y cyntaf
  • LLOYD, RICHARD (1595 - 1659), diwinydd (yn perthyn i blaid y brenin Siarl I) ac ysgol-feistr Pumed mab ydoedd i Ddafydd Llwyd o'r Henblas, Llangristiolus, bardd ac ysgrifennwr cynnar ar fydryddiaeth Gymraeg, ac yn disgyn ar yr ochr wrywol o Llywarch ap Bran ac ar yr ochr fenywol o Fleddyn ap Cynfyn - dywedir i'r tad gael ei addysg yn Rhydychen; merch Richard Owen Theodor o Benmynydd (siryf Môn yn 1565 a 1573) ac yn perthyn o bell i'r teulu brenhinol, oedd mam Richard. Ymaelododd yng
  • GRIFFITH, DAVID (1726 - 1816), clerigwr ac ysgolfeistr - curadiaeth gyfunol Llandeilo'r Fan a Llanfihangel Nant Bran (1759-1816), curadiaeth Dyffryn Honddu (1765-96), canoniaeth Llandegle yng Ngholeg Crist (1776-95), a rheithoraeth Llanbadarnfawr, Maesyfed (1804-5). Curadiaid a weinyddai'r plwyfi gwledig yn ei le, oherwydd yn Aberhonddu y treuliodd ef y rhan fwyaf o'i oes. O'r High Street, Inferior Ward, yno, y claddwyd ef ym mynwent S. Ioan, 14 Medi 1816. O'r
  • DAGGAR, GEORGE (1879 - 1950), undebwr llafur ac aelod seneddol Ganwyd 6 Tachwedd 1879, yng Nghwm-brân, Mynwy, mab Jesse Daggar, glöwr, a'i wraig, Elizabeth. Yn ei blentyndod symudodd y teulu i Abertyleri ac addysgwyd ef yno yn yr ysgol Frytanaidd. Dechreuodd weithio pan oedd yn ddeuddeg oed ym mhwll Arael Griffin, Six Bells, ger Abertyleri. Taflodd ei hun i waith undebaeth llafur ac yn ei ddauddegau fe'i hetholwyd yn is-gadeirydd Cyfrinfa Rhif 5, Arael
  • LLYWARCH ap BRAN (fl. c. 1137), 'sylfaenydd' un o 'Bymtheg Llwyth Gwynedd
  • HUGHES, WILLIAM BULKELEY (1797 - 1882), Aelod Seneddol Ganwyd ym Mhlas Coch, Llanidan, Môn; ganwyd 26 Gorffennaf 1797 yn fab hynaf i Syr William Bulkeley Hughes, Plas Coch a'r Brynddu, ac Elizabeth, merch a chyd-etifeddes Rhys Thomas, Coed Alun, Caernarfon. Honnai teulu Plas Coch ei fod o gyff Llywarch ap Brân, arglwydd Menai, ac er canol y 15fed ganrif buasai iddo ran amlwg yng ngweinyddiaeth y sir. Cafodd Hugh Hughes (bu farw 1609), a adeiladodd
  • WILIAM LLŶN (1534 neu 1535 - 1580) Lŷn, 'bardd , Penmynydd ym Môn, Madryn a Bodwrdda yn Llŷn, y Gelli Aur ac Abermarlais yn nyffryn Tywi, ac Aber-brân yn sir Frycheiniog. Canodd foliant i amryw glerigwyr hefyd, yn eu plith Wiliam Hughes, esgob Llanelwy, a Richard Davies, esgob Tyddewi, y dywed iddo ymweld â'i blas yn Abergwili. Yn ei farwnad i'w gyfaill Owain ap Gwilym, y bardd a'r clerigwr o Dal-y-llyn ym Meirion, y mae'n sôn am gyd-deithio, ill dau
  • LOVELAND, KENNETH (1915 - 1998), newyddiadurwr a beirniad cerddoriaeth swydd ar unrhyw bapur newydd cenedlaethol. Er gwaethaf ei wrbaniaeth ac yn groes i bob ymddangosiad, ymgartrefodd yn llwyr yng Nghymru yn ystod pedwar degawd olaf ei fywyd. Byddai ef a'i wraig Anne yn croesawu aelodau o Gorws Opera Genedlaethol Cymru yn rheolaidd yn eu fflat dirodres yng Nghwm-brân. Cynhaliwyd cyngerdd gan Gerddorfa Simffoni Llundain dan arweiniad Colin Davis i nodi ei ben-blwydd yn
  • teulu HOLLAND BERW, Tua chanol y 15fed ganrif yr oedd stad Berw, sir Fôn, yn nwylo ITHEL AP HOWELL AP LLEWELYN, un o ddisgynyddion Llywarch ap Bran, arglwydd Menai yn niwedd y 12fed ganrif. Yr oedd gan Ithel ferch a elwid ELINOR, a mab a elwid OWEN. Daeth teulu Holland i gysylltiad â Berw pan briodwyd ELINOR, merch Ithel, a JOHN HOLLAND, a ddisgrifir fel un o wasanaethwyr Harri VI. Credir iddynt briodi rywbryd rhwng
  • HOPKINS, GERARD MANLEY (1844 - 1889), bardd ac offeiriad jiwbilî arian Esgob yr Amwythig, a luniwyd yn 1876 dan yr enw barddol 'Brân Maenefa' (mynydd uwchben Coleg Beuno Sant oedd Maenefa), lle mae'n gresynu bod tir a dŵr yn tystiolaethu i hen ffydd Gwynedd yn gryfach na phobl y fro, defnyddiodd fesur caeth y cywydd gyda'i odlau acennog a diacen am yn ail, ond dwy yn unig o'r deunaw llinell sy'n cynnwys cynganeddion cywir. Gwelai Hopkins fod cyfatebiaethau
  • EDNYFED FYCHAN ochr wrywol yna ar yr ochr fenywol. Nodyn golygyddol 2020: Bu gan Ednyfed Fychan ddwy wraig: 1) Tangwystl ferch Llywarch ap Brân, (mam i chwech o blant, gan gynnwys Tudur a Hywel); 2) Gwenllian ferch yr Arglwydd Rhys o Ddeheubarth (bu farw 1236), mam Goronwy, Gruffydd, Gwladus a Gwenllian. P. C. Bartrum, Welsh Genealogies AD 300-1400 (1974), 'Marchudd 4'