Canlyniadau chwilio

1 - 12 of 71 for "Cadwaladr"

1 - 12 of 71 for "Cadwaladr"

  • CADWALADR (bu farw 664), tywysog Mab Cadwallon ap Cadfan. Pan fu farw tad Cadwaladr yn 633 syrthiodd Gwynedd i ddwylo anturiaethwr, Cadafael ap Cynfedw, a deyrnasodd hyd nes iddo orfod cilio'n ôl mewn gwaradwydd o frwydr Winwedfeld yn 654. Daeth Cadwaladr i'w etifeddiaeth yr adeg hon, ond daeth pla mawr 664 a chollodd ei fywyd. Er mai teyrnasiad di-ddigwyddiad a gafodd, daeth Cadwaladr yn ŵr pwysig yng ngolwg beirdd a barddas
  • teulu WYNNE Voelas, gwasnaethu'r cardinal Wolsey fel caplan; ef oedd tad Ellis ap Rhys, sef Dr. Ellis Price.) Gweler hefyd deulu Vaughan, Pant Glas. Mab hynaf Rhys ap Meredydd a Lowry oedd MAURICE GETHIN, stiward abaty Aberconwy. Priododd ef Ann, ferch David Myddelton ' Hen,' Gwaynynog, ' Receiver-General ' Gogledd Cymru yn adeg y brenin Edward IV, a chael ohoni deulu mawr. Aer Maurice oedd CADWALADR WYNNE I, siryf sir Ddinbych
  • HYWEL ab OWAIN GWYNEDD (bu farw 1170), milwr a bardd Mab gordderch Owain a Gwyddeles o'r enw Pyfog. Cymerodd Hywel ran amlwg yn y gwaith o reoli Ceredigion, a feddiannwyd gan dŷ Gwynedd yn 1137. Rhoddodd ei dad dde Ceredigion yn ei ofal yn 1139. Yr oedd ymrafael byth a beunydd rhyngddo ef a'i ewythr Cadwaladr a feddiannai ogledd Ceredigion a Meirionnydd. Yn 1143 gyrrodd Hywel ei ewythr allan o Geredigion. Yn 1144 cymodwyd y ddau, ac adferwyd
  • CADWALADR (bu farw 1172), tywysog garsiwn Aberteifi, a bu'n orfod ar Gadwaladr fodloni ar gael gogledd Ceredigion fel ei gyfran ef o'r ysglyfaeth. Ychydig yn ddiweddarach fe'i ceir, yn rhyfedd iawn, yn ymuno â'r iarll Randolph yr ail o Gaer yn y cyrch ar dref Lincoln, 2 Chwefror 1141, pan anrheithiwyd y ddinas a chymryd y brenin Stephen yn garcharor. Eithr nid cyrch direswm oedd hwn; rhaid ei gysylltu â phriodas Cadwaladr ag Alice de
  • DAVIES, CADWALADR (1704), bardd, baledwr, a chasglwr cerddi ' Piser Sioned ' (Bangor MS. 3212 (564)); ganwyd yn Llanycil, mab Dafydd Thomas a Lowry Cadwaladr. Athro ysgol yn ymyl y Ddwyryd ger Corwen, ac yn Nhre'rddol (hyn yn 1740). Casglwyd y ' Piser ' o gwmpas y blynyddoedd 1733-45; cerddi a charolau plygain yw'r corffmawr, ffrwyth canu beirdd Penllyn ac Edeirnion, gwlad Cerrig-y-drudion, a rhannau uchaf Hiraethog. Heblaw'r cerddi, ymhoffai Cadwaladr
  • JONES, CADWALADR (1783 - 1867), gweinidog gyda'r Annibynwyr a golygydd cyntaf Y Dysgedydd Ganwyd Mai 1783 yn y Deildre Uchaf, Llanuwchllyn, unig blentyn John a Dorothy Cadwaladr. Ni bu ei rieni erioed yn perthyn i'r Ymneilltuwyr ac nis cyfrifid yn grefyddwyr amlwg - at yr Eglwys Sefydledig y gogwyddent. Yr oedd ef yn 11 oed pan ddaeth Dr. George Lewis yn weinidog i Lanuwchllyn, ac ef a'i derbyniodd yn aelod yn yr Hen Gapel yn 1803. Dechreuodd bregethu yn 1806, a derbyniwyd ef yr un
  • teulu PRICE Rhiwlas, ddiddymwyd y mynachlogydd daeth i feddu llawer o dir (o fewn Dôl Gynwal) yn Ysbyty Ifan. Yn ôl llythyrau ganddo at Harri VIII daliai lawer o dir ym mhlwyf Llanfor hefyd. Mared (Margaret), merch Rhys (Rhydderch ?) Llwyd, o'r Gydros, Llanfor, oedd ei wraig, a bu iddynt lawer o blant - CADWALADR yr aer, Dr. Ellis Prys, Plas Iolyn (sir Ddinbych), Thomas Vaughan, Pant Glas, a dau fab arall a fu'n abadwyr
  • CADWALADR, DAFYDD (1752 - 1834), cynghorwr gyda'r M.C. Ail fab Cadwaladr a Chatrin Dafydd o Erw Ddinmael, Llangwm, teulu a fu'n byw ar y tyddyn hwnnw am genedlaethau ac a oedd yn nodweddiadol o'r fro - yn dilyn anterliwtiau a chymhorthau gwau. Rhigymai Dafydd yntau pan yn llanc; ond ni ddysgodd ddarllen ond trwy graffu ar y llythrennau ar gefnau'r defaid a phigo ei ffordd wedyn drwy'r Llyfr Gweddi. Daeth yn ddarllenwr mawr, a chan fod ganddo gof
  • WILLIAMS, JOHN (1801 - 1859), meddyg a naturiaethwr Ganwyd yn 1801 ym Mhentre'r Felin, Llansantffraid Glan Conwy, yn ail fab i Cadwaladr Williams, melinydd; yr oedd Cadwaladr Williams yn gefnder i John Jones, Talsarn - eu tadau'n frodyr. Addysgwyd John Williams yn Lerpwl; gymaint oedd ei awydd am dyfu'n naturiaethwr fel y bwriodd gryn amser yn Ashridge ac yng ngerddi Kew. Prentisiwyd ef i'w frawd hŷn, William, a oedd yn feddyg ac apothecari yn
  • RHODRI MOLWYNOG (bu farw 754), brenin Gwynedd mab Idwal ap Cadwaladr Fendigaid o linach Cunedda Wledig Dilynwyd ef gan ddau fab - Hywel a Chynan.
  • DAVIS, ELIZABETH (1789 - 1860), nyrs a theithwraig Ganwyd Betsi Cadwaladr ar fferm ei thad, Penrhiw ger y Bala, Sir Feirionnydd, ar 24 Mai 1789, y trydydd plentyn ar ddeg o un ar bymtheg (fe ymddengys), i Dafydd Cadwaladr (1752-1834) a'i wraig Judith (née Humphreys neu 'Erasmus', bu farw 1800). Fe'i bedyddiwyd yn Llanycil ar 26 Mai 1789. Yn ôl ei Autobiography, newidiodd Betsi ei chyfenw o 'Cadwaladr' i 'Davis' pan oedd yn byw ymhlith y di
  • CADWALADR, EDWARD (fl. 16eg ganrif), bardd Y mae dau ddarn o'i waith ar gael - englyn yn ateb i un gan Dafydd Cadwaladr (Peniarth MS 93, t. 204) a cherdd yn y mesur rhydd, sef 'Cyffes ostyngedig o bechode gidag erfynion o drugaredd' (NLW MS 11990A, t. 153).