Canlyniadau chwilio

1 - 12 of 15 for "Caeo"

1 - 12 of 15 for "Caeo"

  • THOMAS, ZACHARIAS (1727 - 1816), gweinidog gyda'r Bedyddwyr Ganwyd yn Esgair-ithri, Caeo, 13 (neu 24?) Awst 1727, yn blentyn olaf o bump i Thomas Morgan Thomas a'i wraig Jane, gynt o'r Tŷ-hen, Caeo, ac yn frawd i Joshua Thomas, Llanllieni, a Timothy Thomas, Aberduar. Ym Maes-y-berllan y bedyddiwyd ef yn 1748, yn ystod ei brentisiaeth yn y Gelli, ond dychwelodd i ymaelodi yn y Pant Teg ar achlysur ei briodas yn 1754 â Jane (bu farw 3 Rhagfyr 1781 yn 54 oed
  • DAFYDD, JOHN (fl. 1747), emynwyr Meibion David John (1698 - 1775) a Margared Richard, ei briod (1692 - 1774); ganwyd John Dafydd yn 1727 ac yr oedd yn fyw yn 1771. Dywedir mai cryddion oeddynt a thrigent yn y Bedw-gleision, Caeo, Sir Gaerfyrddin; cyfarfyddai seiat Fethodistaidd Caeo yn eu cartref. Enwir John yng nghofnodion Trefeca; yr oedd yn gynghorwr ym mlynyddoedd cyntaf y diwygiad Methodistaidd. Disgynnydd o Richard, eu
  • PRYTHERCH, WILLIAM (1804 - 1888), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd Ganwyd 25 Ebrill 1804 yn Nhŷ'n-yr-heol, plwyf Cynwyl Gaeo, yn fab i Thomas William Rytherch. Bu dan addysg yn nhref Caerfyrddin, a chynorthwyai David Charles yn y cyfarfodydd cyhoeddus. Dechreuodd bregethu yn eglwys Caeo yn 1825. Yn 1831 priododd Joyce, merch Thomas Evans Pumsaint. Wedi gadael ardal Caeo preswyliodd mewn amryw fannau yn Sir Gaerfyrddin - Llanegwad, Llanfynydd, Betws, Nantgaredig
  • PARRY, DAVID (1760 - 1821), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd Ganwyd 13 Chwefror 1760 yn Llwyndiriad, Caeo, Sir Gaerfyrddin, mab Dafydd Parry. Ymunodd â'r Methodistiaid yn ieuanc a dechreuodd bregethu yn 1778. Bu'n efrydydd am dymor byr yn Nhrefeca. Priododd â Margaret Evans, Llofft-wen, Llanwrtyd, yn 1784, a symudodd i fyw i'r Gilfach, Llanwrtyd, c. 1797-8. Yr oedd yn un o'r fintai a neilltuwyd yn ordeiniad cyntaf y Methodistiaid yn Llandeilo Fawr, 1811
  • THOMAS, ARTHUR SIMON (Anellydd; 1865 - 1935), clerigwr a llenor Ganwyd 5 Medi 1865 yng Nghrug-y-bar, Caeo, yn fab i D. Simon Thomas. Graddiodd (1897) yng Ngholeg Dewi Sant, ac urddwyd yn 1894 a 1895. Bu'n gurad yn Llanwynno, Llandeilo Fawr, Llan-gors, a S. Nicholas yn nhref Penfro, cyn cael bywiolaethau S. Michaels (tref Penfro), 1907-10; Maesmynus a phlwyfi eraill cyfagos, 1910-21; S. Nicholas a Granston yn Sir Benfro, 1921-8; a Threfilan, 1928. Bu farw 3
  • LLOYD, WILLIAM (1741 - 1808), cynghorwr gyda'r Methodistiaid Calfinaidd bregethu yn 1763, a daeth yn fuan yn un o'r pregethwyr mwyaf dylanwadol a thanllyd yng Nghymru. Teithiodd y wlad benbwygilydd am 40 mlynedd. Priododd Margaret Jones, merch y 'Black Lion,' Llansawel, ac aeth i fyw i Henllan Gaeo. Canodd 'Pantycelyn' gân nodedig ar achlysur marw'i fab ieuanc yn 1783. Bu farw 17 Ebrill 1808 a chladdwyd ef ym mynwent Caeo. 'Y Llwyd ddoeth' y geilw 'Pantycelyn' ef yn ei
  • SAUNDERS, EVAN (bu farw 1742), diacon a'i ordeinio'n gyd-weinidog â Zecharias Thomas a David Davies yng ngwanwyn 1771. Ond gweinidogaeth drafferthus a gafodd yno. Sonnir am yr aelodau ym Methel, Caeo, yn diflasu arno ac yntau'n cytuno i wasnaethu'r canghennau eraill, a dywedir iddo ymuno â'r Bedyddwyr Cyffredinol, er nad oes sôn iddo gymryd gofal eglwys. Bu farw yng nghartref ei frawd Thomas Saunders yn Undergrove, Llanbedr-Pont-Steffan
  • JONES, DAFYDD (1711 - 1777), emynydd Ganwyd 1711 yng Nghwm Gogerddan, Caeo, Sir Gaerfyrddin, mab Daniel John, porthmon. Porthmon oedd yntau hefyd, a chafodd dröedigaeth yng nghapel Troed-rhiw-dalar wrth ddychwelyd adref o borthmona. Ymunodd ag eglwys Annibynnol Crug-y-bar, a bu'n aelod blaenllaw yno ar hyd ei oes. Priododd, (1), Ann Jones, Llanddewi-brefi, (2) - Price, Hafod Dafolog, Llanwrda. Aeth i fyw i'r Hafod c. 1763; bu farw
  • RICHARD, TIMOTHY (1845 - 1919), cenhadwr yn China Ganwyd yn Ffaldybrenin 10 Hydref 1845, mab Timothy ac Eleanor Richard. Bedyddiwyd ef yn 1859 a daeth yn aelod o eglwys y Bedyddwyr, Caeo. Wedi iddo fod am gyfnod yn athro ysgol aeth i Goleg y Bedyddwyr, Hwlffordd, yn 1865, ac yn 1869 anfonwyd ef i China gan Gymdeithas Genhadol y Bedyddwyr. Llafuriodd yn China, gydag ysbeidiau anaml ym Mhrydain, o 1870 hyd 1915 - ar y cyntaf yn Chafoo, wedyn yn
  • GRUFFYDD ap RHYS (c. 1090 - 1137), tywysog Deheubarth Rhys i delerau â Harri a rhoddwyd iddo dir yng nghymwd Caeo. Oddigerth am gyfnod byr yn 1127 pryd y bu'n alltud yn Iwerddon am yr eiltro, ymddengys i Gruffydd dreulio bywyd tawel yn y Deheubarth hyd ar ôl marw Harri. Yno, y mae'n ddiau, y ganed Maredudd a Rhys, ei feibion o Gwenllian, merch Gruffydd ap Cynan; y mae'n debyg mai meibion o uniad cynharach oedd Anarawd a Chadell. Cymerth ran flaenllaw yn
  • PEULIN (fl. niwedd y 5ed ganrif), sant manylion sydd ganddo am fywyd cynnar ei sant yn ardal Llanymddyfri o'r traddodiad am Beulin. Y mae'n amheus ai'r un yw Paul Aurelian a Pheulin Sir Gaerfyrddin. Ar garreg a ddarganfuwyd ym mhlwyf Caeo, i'r gogledd-orllewin o Lanymddyfri, digwydd y geiriau ' HIC PAULINUS IACIT ' fel rhan o'r arysgrif. Y mae'r arysgrif fydryddol, dull yr arysgrifen, a'r ardal y cafwyd y gofgolofn ynddi i gyd yn awgrymu
  • IOLO GOCH (c. 1320 - c. 1398), bardd ceir digon o olion hynafiaeth o ran geirfa a chystrawen. Fel Dafydd ap Gwilym cwerylodd yn bur gas gyda'r Brodyr Llwyd. Mewn un cywydd, ar ddull ymddiddan rhwng yr enaid a'r corff (hen thema lenyddol), disgrifia daith glera drwy Geri, y Drenewydd, Maelienydd, Elfael, Buallt, Blaenau Taf, Caeo, Cydweli, Ystrad Tywi, yr Hen Dygwyn-ar-Daf, Ceredigion hyd Ystrad Fflur, a hynny efallai tua 1387. Un o'i