Canlyniadau chwilio

1 - 12 of 55 for "Caradog"

1 - 12 of 55 for "Caradog"

  • PRICHARD, CARADOG (1904 - 1980), nofelydd a bardd Ganwyd Caradog Prichard ar 3 Tachwedd 1904 ym Methesda, yr ieuengaf o dri mab i John Pritchard a Margaret Jane (ganwyd Williams), ei wraig. (Dywed Caradog mai ei 'chwiw' ef ei hun oedd sillafu ei enw yn 'Prichard'.) Chwarelwr yn Chwarel y Penrhyn oedd ei dad; buasai allan ar streic ar ddechrau anghydfod hir a chwerw 1900-3, er iddo efallai dorri'r streic yn ddiweddarach. Dim ond pum mis oed oedd
  • JONES, GRIFFITH RHYS (Caradog; 1834 - 1897), gof ac arweinydd cerddorol Ganwyd 21 Rhagfyr 1834 yn y Rose and Crown, Trecynon, Aberdâr. Peiriannydd oedd ei dad, John Jones, yng ngwaith haearn Llwydcoed, Aberdâr, a phrentisiwyd y mab yn of. Dysgodd gerddoriaeth yn ieuanc, a daeth yn chwaraewr medrus ar y ffidil. Yn 19 oed aeth â chôr i eisteddfod Aberafan, a chafodd wobr am ganu 'Haleliwia to the Father' (Beethoven); enw'r côr yn y gystadleuaeth oedd 'Côr Caradog,' ac
  • MORGAN ap CARADOG ap IESTYN (bu farw c. 1208), arglwydd barwniaeth Gymreig Afan Wallia (neu Nedd-Afan) yn arglwyddiaeth ('honour') Morgannwg mab Caradog a Gwladus, ferch Gruffydd ap Rhys ap Tewdwr. Gwas anfodlon a fu ef erioed i arglwyddi Normanaidd Morgannwg ac yr oedd yn glos ei gyswllt â pholisi ei gefnder, yr arglwydd Rhys; ef, y mae'n debygol, oedd arweinydd y gwrthryfel ym Morgannwg yn 1183 (?). Bu'n briod ddwywaith - (1), â Gwenllian, merch Ifor Bach, a (2) â Gwerfil, ferch Idnerth ap Cadwgan. Bu iddo bedwar mab o leiaf; y
  • RHYS ab OWAIN ab EDWIN (bu farw 1078), brenin Deheubarth Gorŵyr Einion ab Owain ab Howel Dda. Efe oedd cynrychiolydd diwethaf llinach hynaf disgynyddion Howel. Wedi iddo ddilyn ei frawd Maredudd yn 1072 bu iddo ran a chyfran ym marwolaeth Bleddyn ap Cynfyn yn 1075; yn 1078 gorchfygwyd yntau yn Gwdig gan Trahaearn ap Caradog. Yn ddiweddarach yn yr un flwyddyn lladdwyd ef trwy law Caradog ap Gruffydd. Dilynwyd ef gan ei gyfyrder, Rhys ap Tewdwr.
  • RHYS AP TEWDWR (bu farw 1093), brenin Deheubarth (1078-1093) Roedd Rhys yn fab i Dewdwr ap Cadell ac felly'n ddisgynnydd i'r tywysog mawr o'r ddegfed ganrif Hywel Dda, ond nid oedd neb o'i linach wryw uniongyrchol wedi dal y frenhiniaeth ers y ddegfed ganrif. Wrth ddod i rym elwodd Rhys o'r arafu a fu ar oresgyniad y Normaniaid yn ne Cymru wedi 1075 yn ogystal ag o ymdrechion ei gefnder pell Caradog ap Gruffudd (arglwydd Gwent Uch Coed ac Iscoed) i ddileu
  • CARADOG o LANCARFAN (fl. 1135), llenor tri awdur hyn yn agos at ei gilydd yn dangos bod Caradog yn Gymro cyfoes yr oedd iddo eisoes beth gair da fel llenor. Ond nid oes dim i brofi iddo drin y maes llafur yr oedd Sieffre wedi ei ddethol iddo. Ni ddywedwyd hyd yr 16eg ganrif fod iddo gyfran yn ysgrifennu 'Brut y Tywysogion'; yn wir, y mae'r dystiolaeth fewnol yn gwbl gryf yn erbyn derbyn cred o'r fath. Hyd y gellir casglu mewn maes cwbl
  • ROBERTS, CARADOG (1878 - 1935), cerddor
  • CARADOG ap GRUFFYDD ap RHYDDERCH (bu farw 1081) Ŵyr Rhydderch ab Iestyn, gŵr o ddylanwad yn Ne Cymru hyd ei farw yn 1033, a mab Gruffydd ap Rhydderch, cydymgeisydd Gruffydd ap Llywelyn, gan yr hwn y'i lladdwyd yn 1055. Yng Ngwynllwg a Gwent yr oedd cartref y teulu; yn y rhanbarth hwn o Gymru y daw Caradog i'r golwg gyntaf, yn 1065, pryd y daeth ar warthaf tŷ hela'r iarll Harold yn Portskewet, gan ei ddistrywio ac anrheithio'r gymdogaeth - heb
  • CARADOG FYNACH (bu farw 1124), meudwy oedd yma'n rhy agored i ymosodiadau'r Sgandinafiaid, a rhoes esgob Tyddewi iddo gell meudwy yn eglwys Sant Ismael yn Rhos, a enwir heddiw wrth yr enw Haroldston S. Issels. Yno y treuliodd weddill ei oes, er dywedyd iddo fynd ar daith i Enlli, hynny yw os ef ydyw'r meistr Caradog, gŵr dysgedig iawn a ddaeth i'r ynys tua'r adeg hon i weled Elgar feudwy. Yn gynnar yn nheyrnasiad Harri I bu newid ym
  • CARADOG ab IESTYN (fl. 1130), sylfaenydd teulu 'Avene' ym Morgannwg Mab Iestyn ap Gwrgant. Gŵyr haneswyr amdano am fod dau gyfeiriad ato yn ' Llyfr Llandaf.' Yn y cyntaf enwir ef ymysg y gwŷr lleyg mewn siarter sydd yn tystio i Caradog ap Gruffydd (bu farw 1081) roddi tir yn Edlygion i'r esgob Herwald; yn yr ail disgrifir ef yn bennaeth a chanddo lu rhyfel y gwnaeth ef iawn i'r unrhyw esgob oblegid drwgweithredoedd y llu hwn gan roddi iddo faenor yn nyffryn afon
  • EVANS, RHYS (1835 - 1917), cerddor gyfanweithiau. Aeth i Lundain am ddwy flynedd, dychwelodd yn ôl i Rydaman, a sefydlodd yno gôr a ddaeth yn lled enwog. Wedi priodi symudodd (yn 1860) i Aberdâr a dechreuodd fasnach fel dilledydd yno. Ymaelododd yng nghapel Annibynwyr Siloa, a phenodwyd ef yn arweinydd y canu. Ffurfiodd gôr yn yr eglwys a fu'n llwyddiannus mewn amryw o eisteddfodau. Bu ganddo ran amlwg yn sefydlu ' Cor Caradog,' a phan
  • MERFYN FRYCH (bu farw 844), brenin Gwynedd mab Gwriad, pennaeth yn Ynys Manaw (y mae'n bosibl) ac yn disgyn (meddid) o Lywarch Hen, ac Ethyllt, tywysoges o Wynedd. Pan fu farw Hywel ap Rhodri Molwynog, ewythr ei fam, yn 825, daeth Merfyn Frych yn frenin ym Môn; yn ddiweddarach, pan fu Hywel ap Caradog farw, ymddengys iddo ddyfod yn frenin cantrefi yr ochr arall i afon Menai. Adunwyd felly etifeddiaethau disgynyddion uniongyrchol diwethaf