Canlyniadau chwilio

1 - 5 of 5 for "Caron"

1 - 5 of 5 for "Caron"

  • DAVIES, RICHARD (Isgarn; 1887 - 1947), bugail a bardd Ganwyd yn y Trawscoed, plwyf Caron-is-clawdd, Ceredigion, 29 Awst 1887, ac yn y fro fynyddig ac anghysbell honno o dan y Garn Gron ym Mlaencaron y treuliodd ei oes; yno hefyd y bu farw 8 Mehefin 1947. Claddwyd ef yn ôl ei ddymuniad ym mynwent Ystrad Fflur. Yn ei ewyllys gadawodd i Lyfrgell Genedlaethol Cymru lu o lawysgrifau gwreiddiol ei farddoniaeth, a hefyd swm o arian ar yr amod bod y
  • DAVIES, ANNIE (1910 - 1970), cynhyrchydd radio, a theledu'n ddiweddarach Ganwyd 16 Mehefin 1910, yn Llwyngwinau House, Tregaron, yn drydydd (o chwech) plentyn David ac Elizabeth Davies. Pan anwyd hi cadwai'r teulu siop cigydd yn Nhregaron, ond pan oedd hi tua blwydd oed symudasant i ffermio Cefngwyddyl ym mhlwy Llanbadarn Odwyn, a thrachefn yn 1919 i fferm Pontargamddwr ym mhlwy Caron-is-clawdd. Cafodd ei haddysg yn ysgol gynradd Castell Fflemish o 1915 i 1923 pryd yr
  • DAVIES, JAMES KITCHENER (1902 - 1952), bardd, dramodydd a chenedlaetholwr Ganwyd 16 Mehefin 1902, yn fab i Thomas Davies o deulu Pant-glas, Blaencaron, a Martha (ganwyd Davies), merch Pantfallen, Tregaron, Ceredigion. Ym Mhantfallen y ganwyd eu meibion, Thomas, John ac yna James; ymhen tua blwyddyn symudodd y teulu i'r Llain, Llwynpïod, tyddyn ar gyrion Cors Caron, lle y ganwyd eu merch Letitia. Cafodd James ei addysg gynradd yn ysgol yr eglwys, Tregaron. Pan oedd yn
  • GRUFFUDD ap NICOLAS (fl. 1415 - 1460), uchelwr, a phrif ffigur llywodraeth leol deheubarth tywysogaeth Cymru yng nghanol y 15fed ganrif Sir Aberteifi. Yn 1442-3, daeth drachefn i sylw'r awdurdodau yn Llundain, pan wysiwyd ef ac abad y Tŷ Gwyn i'r brifddinas, ac y gorchmynnodd y Cyngor Cyfrin ddal a charcharu ei fab OWAIN. Yr oedd o dan nawdd Humphrey, dug Caerloew, a chafodd, ar 24 Gorffennaf 1443, ofal arglwyddiaeth Caron a chwmwd Pennardd hyd oni ddeuai Mawd, etifeddes Wiliam Clement, i' w hoed. Cynhaliai sesiynau ar ran y dug
  • teulu JONES Llwynrhys, ychwanegwyd darn croes at y tŷ i fod yn dŷ cwrdd, meddir. Parhaodd pregethu yno hyd 19 Hydref 1735. Syrthiodd y tŷ yn furddyn tua 1918. Olrheiniai JOHN JONES (1640? - 1722) ei achau, ar ochr ei dad, John ab Ieuan Lloyd, o deulu Clement, arglwyddi Caron, ac ar ochr ei fam, Angharad ferch Ieuan ap Tomas, o Rydderch Glyn Aeron (Llyfr Golden Grove, copi Castell Gorfod yn Ll.G.C., xiv, L1671). Yr oedd ei frawd