Canlyniadau chwilio

1 - 12 of 67 for "Gwen"

1 - 12 of 67 for "Gwen"

  • FFRANGCON-DAVIES, GWEN LUCY (1891 - 1992), actores Ganwyd Gwen Ffrangcon-Davies ar 25 Ionawr 1891 yng ngogledd Llundain, yr hynaf o dri o blant David Ffrangcon-Davies, mab i oruchwyliwr ffowndri ym Methesda, Sir Gaernarfon, a'i wraig Annie 'Nan' Ffrangcon-Davies (g. Raynor), merch i feddyg o Fanceinion oedd â bwthyn gwyliau yng Nghonwy. Roedd ganddi chwaer, Marjorie (1893-1964), a ddaeth yn gantores, a brawd, Geoffrey (1895-1915), a laddwyd yn y
  • ROBERTS, GWEN REES (1916 - 2002), cenhades ac athrawes Ganwyd Gwen Rees Roberts ar 2 Mawrth 1916 ym Morfa Nefyn, Llŷn, yn ferch i Hugh Griffith Roberts (bu farw tua 1940) a'i wraig Gwen Rees Roberts. Bu farw ei mam yn 31 mlwydd oed o fewn ychydig ddyddiau i'w genedigaeth, a thua thair blynedd yn ddiweddarach, ailbriododd ei thad â gwraig weddw a chanddi ferch, Emily, wyth mlynedd yn hŷn na Gwen. Ychwanegwyd ymhellach at y teulu drwy enedigaeth mab
  • HODGES, JOHN (1700? - 1777), rheithor Gwenfo, Sir Forgannwg, o 1725 hyd 1777; Dywed nodiad yn Cardiff MS. 4877 mai yn 1700 y ganwyd ef, eithr ceir y dyfyniad a ganlyn yn yr Alumni Oxonienses: 'Hodges, John, s. Thomas, of Abbey, co. Monmouth, pleb. Jesus Coll., matric. 6 April 1720, aged 18; B.A. 1723, M.A. 1726.' Y tebygolrwydd yw mai John Hodges y dyfyniad uchod yw'r gŵr a wnaed wedi hynny yn rheithor Gwen-fo. Os felly, rhaid mai
  • JONES, EZZELINA GWENHWYFAR (1921 - 2012), artist a cherflunydd Ganwyd Ezzelina Jones ym Mhontarddulais ar 28 Mehefin 1921, yr ail o dair merch Godfrey Hugh Beddoe Williams, dwblwr yng ngwaith tun Clayton, a'i wraig Elizabeth Mary Williams. Roedd ganddi ddwy chwaer, Elizabeth Jane (Betty) a Rita. Yn y blynyddoedd cynnar Gwen neu Gwenhwyfar oedd hi i'r teulu. Mae'n debyg iddi gael yr enw anghyffredin Ezzelina ar ôl Ezzelina Samuel, merch i gydweithiwr i'w thad
  • DAVIES, GWENDOLINE ELIZABETH (1882 - 1951), casglydd celfyddydwaith a chymwynasydd Ganwyd yn Llandinam, Trefaldwyn, 11 Chwefror 1882; ei thad Edward oedd unig fab David Davies, ' Top Sawyer '. Bu farw ei mam, Mary unig ferch Evan Jones, Trewythen, gweinidog (MC) yn 1888 ac ymhen tair blynedd fe briododd Edward ei chwaer Elizabeth (bu farw 1942). Addysgwyd Gwen Davies a'i chwaer Margaret yn ysgol Highfield, Hendon, a thrwy deithio tramor, yn enwedig yn Ffrainc. Eu bwriad wrth
  • DAFYDD NANMOR (fl. 15fed ganrif), bardd Cafodd ei enw o Nanmor ger Beddgelert, sef Nanmor Deudraeth. Canodd gywyddau yn null Dafydd ap Gwilym i wraig briod, Gwen o'r Ddôl (Dolfrïog), yn yr ardal, ac o'u hachos deolwyd ef o Wynedd trwy ddedfryd deuddeg o reithwyr. Digwyddodd hyn, meddai ef, pan oedd Dafydd ab Ifan ab Einion yn Ffrainc, sef y gŵr a enillodd glod wedyn fel cwnstabl castell Harlech, am wrthsefyll yn ddygn ymosodiad Herbert
  • OWEN, DAVID (Dafydd y Garreg Wen; 1711 - 1741), telynor Bedyddiwyd 27 Ionawr 1711 (cofnod yn Llyfrgell Coleg y Gogledd), mab Owen Humphreys, Ynyscynhaearn, Sir Gaernarfon, a Gwen (Roberts), Isallt Fawr, Llanfihangel-y-pennant (Eifionydd) - gweler J. E. Griffith, Pedigrees, 353. Fe'i dygwyd i fyny'n delynor, ac y mae llawer o draddodiadau amdano; priodolir iddo'r alawon ' Dafydd y Garreg Wen,' ' Codiad yr Ehedydd,' a ' Difyrrwch Gwyr Cricieth.' Bu farw
  • JOHN, AUGUSTUS EDWIN (1878 - 1961), arlunydd . Yn fuan gwnaeth enw iddo'i hun fel arlunydd ac fel cymeriad bohemaidd. Trwy ei chwaer Gwen, a'i dilynodd i'r Slade yn 1895, daeth i adnabod grŵp o ferched disglair y coleg, gan gynnwys Ursula Tyrwhitt, y bu mewn cariad â hi am gyfnod, ac Ida Nettleship, a briododd yn 1901. Yn fuan wedyn penodwyd ef i ddysgu arlunio ym Mhrifysgol Lerpwl, ac yno y ganed eu mab cyntaf, David, yn 1902. Yno hefyd y
  • EVANS, HUGH (1790 - 1853), milfeddyg a cherddor Ganwyd yn 1790, mab Evan a Gwen Evans, Pencraig Fawr, Betws Gwerfyl Goch, Sir Feirionnydd. Yr oedd yn gerddor da, ac yn chwaraewr medrus ar y sielo. Ef hefyd oedd arweinydd y canu yn eglwys Betws Gwerfyl Goch. Yn 1837 sefydlwyd ' Cymdeithas Gantorawl Cerrig-y-drudion ' ac o dan ei nawdd cyhoeddodd Hugh Evans Holwyddoreg ar Egwyddorion Peroriaeth, yn rhannau dau swllt yr un, ar gyfer cyfarfodydd
  • DAVIES, DAVID THOMAS FFRANGCON (1855 - 1918), datganwr Ganwyd ym Mount Pleasant, Bethesda, Arfon, 11 Rhagfyr 1855, mab i Dafydd a Gwen Davies. Derbyniodd ei addysg yn Ysgol Genedlaethol Pontur, Bethesda, yn Ysgol y Friars, Bangor, ac yng Ngholeg Iesu, Rhydychen (graddiodd yn 1881). Yn Chwefror 1883 urddwyd ef yn ddiacon yn eglwys Llantysilio; aeth yn gurad i Lanaelhaiarn yn 1884, a Chonwy yn 1885. Cafodd wersi ar ganu'r organ gan y Dr. Roland Rogers
  • DAVIES, MARGARET SIDNEY (1884 - 1963), casglydd celfyddydwaith a chymwynasydd chwaer Gwendoline Elizabeth Davies Ganwyd yn Llandinam, Trefaldwyn, 14 Rhagfyr 1884. Er mai ar y cyd â'i chwaer y cyflawnwyd y rhan fwyaf o'i gweithgarwch, yr oedd hi ei hun yn arlunydd amatur eithaf derbyniol. Yr oedd ' Miss Daisy ' fel y gelwid hi fynychaf, yn fwy confensiynol ei chwaeth na'i chwaer, ond ar ôl marwolaeth Gwen fe helaethodd ei chasgliad o beintiadau i gynnwys Bonnard, Kokoschka
  • THOMAS, HENRY (1712 - 1802), cynghorwr Methodistaidd a gweinidog Annibynnol brodor o Dalacharn, Sir Gaerfyrddin. Daw i'r golwg gyntaf fel ysgolfeistr cylchynol ym Morgannwg a chynghorai'n achlysurol yn seiadau'r Methodistiaid. Priododd, c. 1747, Gwen, merch Jenkin David, Gelli Dochlaethe, ger y Crynant, a chafodd dŷ ar dir y Gelli i gynnal cyfarfodydd ynddo. Yno, ond odid, yr oedd man cyfarfod seiat fore'r ardal. Ymwelai Howel Harris yn aml â'r Gelli, a chynhaliwyd rhai