Canlyniadau chwilio

1 - 12 of 18 for "Hopcyn"

1 - 12 of 18 for "Hopcyn"

  • HOPCYN ap TOMAS (c. 1330 - wedi 1403), uchelwr a drigai yn Ynysdawy ym mhlwyf Llangyfelach, mab Tomas ab Einion, sef yr Einion hwnnw y mynnai ' Iolo Morganwg ' mai Einion Offeiriad ydoedd. Lluniodd ' Iolo ' bob math o straeon am y teulu hwn, a throes Hopcyn yn fardd, yn awdur rhamantau a damhegion a gramadegau, etc. Ymgais a geir yma i egluro'r cyfeiriadau a geir ato yng nghanu beirdd y 14eg ganrif. Ceir yn ' Llyfr Coch Hergest ' bump o
  • HOPCYN, WILIAM (1700 - 1741), bardd peth, sef i ŵr o'r enw ' Will Hopkin ' ganu sen i'r prydyddion yn eisteddfod y Cymer yn 1735. Yn ôl ' Iolo,' yr oedd yn enwog fel bardd serch, ac ef a ddywedodd mai Wil Hopcyn ydoedd awdur y gân ' Bugeilio'r Gwenith Gwyn.' Y mae'n bosibl fod yma gnewyllyn o hen ganu, ond gellir tybied mai ' Iolo ' ei hun piau hi fel cân orffenedig. Tua 1845, dechreuodd ' Taliesin ab Iolo ' adrodd y stori am helyntion
  • MEURUG ab IORWERTH (fl. c. 1320-70), un o'r olaf o'r Gogynfeirdd Cadwyd enghraifft o'i waith, sef awdl i Hopcyn ap Tomas o Ynys Dawy, Morgannwg, yn Llyfr Coch Hergest a rhai llawysgrifau eraill.
  • IEUAN LLWYD ab Y GARGAM (fl. 14eg ganrif), un o'r olaf o'r Gogynfeirdd Nid erys unrhyw wybodaeth amdano, ond cadwyd awdl o'i waith, sef un i Hopcyn ap Tomas o Ynys Dawy ym Morgannwg, yn 'Llyfr Coch Hergest' a rhai llawysgrifau eraill. Argraffwyd hi yn The Myvyrian Archaiology of Wales, ond rhoddwyd enw Iorwerth Llwyd ab y Gargam wrthi yno.
  • MADOG DWYGRAIG (fl. c. 1370), un o'r olaf o'r Gogynfeirdd Cadwyd llawer o'i farddoniaeth yn Llyfr Coch Hergest a rhai llawysgrifau eraill. Yn ei phlith ceir awdlau crefyddol a dychan, a hefyd awdlau i Hopcyn ap Tomas ab Einion o Ynys Dawy, Gruffudd ap Madog o Lechwedd Ystrad, a Morgan Dafydd ap Llywarch o Ystrad Tywi. Casglwyd rhai ohonynt yn y Myvyrian Archaiology of Wales.
  • EVAN(S), EDWARD (1716 - 1798), gweinidog Presbyteraidd, a bardd Ganwyd yn y Llwydcoed, Aberdâr, ym Mawrth 1716 (efallai 1717), yn fab i Ifan ap Shôn ap Rhys, tyddynnwr a gwehydd. Wedi dilyn crefft ei dad am ysbaid, aeth yn brentis saer coed at Lewys Hopcyn (Lewis Hopkin), a dysgodd ganddo hefyd brydyddu ar y mesurau caethion. Yn 1749 aeth i fyw i'r Ton Coch uwchben plas Dyffryn Aberdâr. Tua 1748, yr oedd wedi ymuno â chynulleidfa Ymneilltuol Cwm-y-glo, a phan
  • DAFYDD y COED (fl. 1380), un o'r Gogynfeirdd diweddar Cadwyd pedair awdl sylweddol o'i waith a mân bethau o natur dychan yn ' Llyfr Coch Hergest.' Canodd i Rydderch ab Ieuan Llwyd o Lyn Aeron (fl. 1386-97), Hopcyn ap Thomas o Ynys Dawe (fl. 1360-90), a Gruffudd ap Llywelyn o Uwch Aeron. Cadarnheir amcan Moses Williams, yn ei Repertorium Poeticum, mai tua 1380 y blodeuai. Gwr o Ddeheubarth ydoedd fel y dengys yr awdlau uchod a'r mân ddarnau, sy'n
  • LLYWELYN GOCH ap MEURIG HEN (fl. c. 1360-90) Un o'r olaf o'r Gogynfeirdd, a brodor o Feirionnydd. Cadwyd llawer o'i farddoniaeth mewn llawysgrifau, e.e. awdl grefyddol, awdlau i Dafydd ap Cadwaladr o Fachelldref a Goronwy ap Tudur o Benmynydd, ac i'r Deheuwyr, Hopcyn ap Tomas o Ynys Dawy, Llywelyn Fychan a Rhydderch ei frawd, a Rhys ap Gruffudd ab Ednyfed. Cadwyd hefyd ei gywydd marwnad enwog i Leucu Llwyd o Bennal, a phriodolir nifer o
  • HOPKIN, LEWIS (c. 1708 - 1771), bardd Mab Lewis Hopkin o Lanbedr-ar-fynydd ym Morgannwg, un o ddisgynyddion y cwndidwr, Hopcyn Tomas Phylip o Gelli'r-fid. Dysgodd grefft saer coed, ac yr oedd yn feistr ar lawer o grefftau eraill. Pan oedd yn wr ifanc, symudodd i blwyf Llandyfodwg, ac yno, yn Hendre Ifan Goch, y bu ei gartref hyd ei farw yn 1771. Troes yn Anghydffurfiwr, ac yr oedd yn aelod (ac yn ddiacon, yn ôl rhai) yng nghapel y
  • POWEL, WATCYN (c. 1600 - 1655) Ben-y-fai, Nhir Iarll, gŵr bonheddig, bardd, ac achydd mab Hopcyn Powel, a nai i Antoni Powel o Lwydarth. Fe'i hyfforddwyd yng nghelfyddyd cerdd dafod, a cheir chwech o'i gywyddau yn llaw Tomas ab Ieuan o Dre'r-bryn yn llawysgrif Llanover B 1. Ychydig a wyddom amdano, ond dengys y marwnadau a ganwyd iddo gan Edward Dafydd a David Williams ('Dafydd o'r Nant') ei fod yntau, fel ei ewythr, yn achydd ac yn ŵr cyfarwydd â chelfyddyd herodraeth. Ond cyn
  • EINION OFFEIRIAD (fl. c. 1320), y gwr y cysylltir ei enw â'r gramadeg neu'r 'llyfr cerddwriaeth' cynharaf sydd gennym yn y copïau cynharaf o'r gramadeg ond yn unig fel gwr a luniodd dri mesur. Ar wahân i hyn, ni wyddom ddim amdano. Ceisiodd ' Iolo Morganwg ' ddangos mai ef oedd tadcu Hopcyn ap Tomas ab Einion o Ynys Dawy, uchelwr llengar a flodeuai yn ail hanner y 14eg ganrif, ond nid oes dim sail i hynny.
  • MADDOCKS, ANN (y Ferch o Gefn Ydfa; 1704 - 1727) carwriaeth rhwng Ann a'r bardd ' Wil Hopcyn '), iddo ganu iddi'r gân enwog ' Bugeilio'r Gwenith Gwyn,' ac iddi hithau farw o dor calon. Ymdriniwyd yn drwyadl â'r chwedl hon yn Y Llenor, 1927 a 1928, gan G. J. Williams - gweler hefyd ei lyfr, Traddodiad Llenyddol Morgannwg, 251-9.