Canlyniadau chwilio

1 - 12 of 85 for "Ifor"

1 - 12 of 85 for "Ifor"

  • IFOR HAEL Dyma'r enw a roes Dafydd ap Gwilym i'w brif noddwr Ifor ap Llywelyn o Fasaleg, sir Fynwy. Er ein bod wedi cynefino â galw'r lle yn 'Maesaleg' mae profion pendant mai 'Bassalec,' 'Basselec,' oedd yn y 12fed ganrif (gweler 'Llyfr Llandaf,' 273, 319, 329, 333) a chyn hynny. Ceir ach Ifor yn Peniarth MS 133 (R. i, 833) (180), 'tredegyr ymassalec,' 181, 'Gwern y klepa ymassalec,' sef 'ym Masaleg,' ac
  • WILLIAMS, Syr IFOR (1881 - 1965), Athro prifysgol, ysgolhaig . Bu'n orweiddiog am rai blynyddoedd. Ar ôl gwella aeth yn ddisgybl i Ysgol Clynnog yn 1901, sef ysgol dan nawdd Cyfundeb y Methodistiaid Calfinaidd i roi cychwyn i ymgeiswyr am y weinidogaeth. Y meistr ar y pryd oedd J. H. Lloyd Williams. Enillodd Ifor Williams ysgoloriaeth i Goleg y Brifysgol, Bangor, yn 1902, graddiodd gydag anrhydedd mewn Groeg yn 1905, ac anrhydedd mewn Cymraeg yn 1906. Treuliodd
  • IFOR BACH (fl. 1158), arglwydd Senghenydd
  • REES, THOMAS IFOR (1890 - 1977), llysgennad Ganed Thomas Ifor Rees ar y l6 Chwefror, 1890, ym Mronceiro, tŷ ar gyrion Bow Street a Llandre, Ceredigion. Roedd yn un o saith o blant a aned i'r cerddor a chyfansoddwr adnabyddus, J.T. Rees, a'i wraig Elizabeth (Davies). Derbyniodd ei addysg gynnar yn Ysgol Rhydypennau ac wedyn yn Ysgol Ramadeg Ardwyn, Aberystwyth, a Choleg y Brifysgol, Aberystwyth, lle y graddiodd gydag anrhydedd yn y Gymraeg
  • DAVIES, IFOR (1910 - 1982), gwleidydd Llafur fywoliaeth yn gyfrifydd gyda Chwmni I. Rowland Jones, 1931-39, yn swyddog personél gyda chwmni ICI, 1942-47, o fewn Adran Ystadegau'r Weinyddiaeth Lafur, 1947-48, ac yn ddiweddarach gyda Chwmni Aluminium, Wire and Cable, 1948-59. Dewiswyd Davies yn ysgrifennydd eglwys Bro Gŵyr yr Annibynwyr Cymraeg ym 1948. Ymunodd Ifor Davies â'r Blaid Lafur yn ŵr ifanc ym 1928; daeth yn llywydd Ffederasiwn Gorllewin
  • THOMAS, JOHN (Ifor Cwmgwys; 1813 - 1866), bardd
  • PARRY, ROBERT IFOR (1908 - 1975), gweinidog (Annibynwyr) ac athro ysgol Ganwyd Ifor Parry yn Longford Terrace, Caergybi, Ynys Môn, yn fab i Benjamin Parry a'i briod, aelodau yn Y Tabernacl, eglwys yr Annibynwyr, yn y dref lle'r oedd y Parchg. R. H. Davies yn weinidog. Roedd ei dad yn swyddog o beiriannydd ar y llongau a hwyliai o borthladd Caergybi i Iwerddon. Gadawodd Ysgol Sir Caergybi yn ddisgybl disglair iawn a mynd i Goleg Bala-Bangor a Choleg y Brifysgol
  • JENKINS, JOHN (Ifor Ceri; 1770 - 1829), clerigwr a hynafiaethydd ryfel, yr 'Agincourt,' yn y West Indies, ac o honno i long arall, 'Theseus.' Daeth adref i adfer ei iechyd, ac wedi iddo wella, gwnaed ef yn rheithor eglwys Maenor Deifi, Sir Benfro, ac, yn 1807, yn ficer plwyf Ceri, Sir Drefaldwyn, gan Thomas Burgess, esgob Tyddewi. Bu farw 20 Tachwedd 1829. Adeiladodd bersondy newydd yng Ngheri, a galwyd ef gan y beirdd yn ' Llys Ifor Hael,' canys yr wythnos gyntaf
  • THOMAS, IFOR (1877 - 1918), daearegwr ac arolygydd ysgolion Ganwyd yn Commercial Place, Glanaman, Sir Gaerfyrddin, 24 Tachwedd 1877, yn fab i Dafydd Thomas ('Trumor '; 1844 - 1916) a'i wraig Margaret. Yr oedd ei dad, a oedd y löwr yng nglofa Gelliceidrim, Cwm Aman, yn fardd a hanesydd lleol, ac yn ohebydd cyson i'r wasg newyddiadurol Gymraeg. Cyhoeddwyd ei draethawd arobryn Hen Gymeriadau Plwyf y Betws yn 1894 (ail argr., 1912). Addysgwyd Ifor Thomas yn
  • MORGAN GAM (bu farw 1241), arglwydd barwniaeth Gymreig Afan Wallia (neu Nedd-Afan) yn arglwyddiaeth ('honour') Morgannwg mab Morgan ap Caradog ap Iestyn, o Gwenllian (y mae'n debygol), merch Ifor Bach. Dilynodd ei frawd hŷn, Lleision, c. 1213, a chan fabwysiadu polisi ei dad, sef polisi o gyfeillgarwch a chyduniad â'r tywysogion cynhenid, bu o gymorth mawr i fwriadau Llywelyn I drwy beri aflonyddwch i arglwyddiaid Clare ym Morgannwg. Yn ôl yr achau priododd (1), Janet, merch Elidyr Ddu, a (2), Ellen, merch Gronw ab
  • ENOCH, SAMUEL IFOR (1914 - 2001), gweinidog (Presbyteriaid) ac athro diwinyddol Ganwyd Ifor Enoch yng Nghiliau Aeron, Ceredigion, 26 Rhagfyr 1914, yn un o dri mab y Parch. J. Aeronydd Enoch (Annibynwyr) a Jennie Enoch. Fe'i magwyd yng Nglan y Fferi, Sir Gaerfyrddin, lle mynychai'r tri brawd Ysgol Sul y Methodistiaid Calfinaidd. Graddiodd mewn Groeg yng Ngholeg y Brifysgol, Abertawe yn 1937 cyn symud i Goleg Westminster, Caergrawnt, ar ôl ennill Ysgoloriaeth Lewis a Gibson, a
  • ROBERTS, THOMAS (1884 - 1960), addysgwr ac ysgolhaig lawer o lawysgrifau, ond nid amcanwyd at lunio testun safonol na rhestru darlleniadau amrywiol. Y mae'n amlwg fod y blynyddoedd hyn yn rhai prysur iawn i Thomas Roberts, oherwydd yn 1914 hefyd y bu'n cydweithio ag Ifor Williams i gynhyrchu Cywyddau Dafydd ap Gwilym a'i gyfoeswyr. Ef oedd yn gyfrifol am y rhagymadroddion ac am destun cywyddau'r cyfoeswyr - Gruffudd ab Adda, Madog Benfras, Gruffudd Gryg