Canlyniadau chwilio

1 - 12 of 115 for "Iorwerth"

1 - 12 of 115 for "Iorwerth"

  • IORWERTH ap MADOG (fl. 1240?-68), gŵr cyfraith a enwir yn fynych mewn amryw lawysgrifau o 'Ddull Gwynedd' y cyfreithiau Cymreig Mewn un llawysgrif gelwir ef yn fwy pendant yn ' Iorwerth ap Madog ap Rhahawd ', a gwnai hyn ef yn frawd i'r bardd Einion ap Madog (fl. c. 1237), perthynas a dderbynir gan Syr John Lloyd, A History of Wales, 355. Byddai felly yn un o ddisgynyddion Cilmin Droed-ddu (9ed ganrif), ac yn perthyn i'r teulu y daethpwyd i'w adnabod yn ddiweddarach fel teulu Glyn, Glynllifon, Sir Gaernarfon, teulu a
  • DAFYDD BENWYN (fl. ail hanner yr 16eg ganrif), un o feirdd Morgannwg Dywed ei gyfoeswr, Sils ap Siôn, mai gwr o Langeinwyr ydoedd. Ei athro barddol ydoedd Rhisiart Iorwerth o Langynwyd, mab Iorwerth Fynglwyd. Ceir peth o'i waith yn ei law ef ei hun yn Llsgr. Caerdydd 10 ac yn Llanstephan MS 164, ac y mae gennym ddau gasgliad mawr o'i awdlau a'i gywyddau, y naill yn Llsgr. Caerdydd 2 (277), a'r llall yn Llsgr. Coleg Iesu 13. Ef yw'r mwyaf toreithiog o feirdd
  • IORWERTH FYCHAN ap IORWERTH ap ROTPERT (fl. c. 1300), bardd
  • MORGAN ap HYWEL (fl. 1210-48), arglwydd Cymreig arglwyddiaeth Gwynllwg neu Gaerlleon-ar-Wysg Harri II yn arglwydd Caerleon. Hwn oedd y Morgan a laddwyd gan Ifor Bach yn 1158. Dilynwyd ef gan ei frawd IORWERTH ab OWAIN. Yn 1171 syrthiodd Iorwerth rywsut dan wg y brenin, a chollodd Gaerlleon. Pan oeddid ar fin cymodi rhyngddynt (1172), lladdwyd OWAIN, mab Iorwerth, gan wŷr iarll Caerloyw. Ffyrnigodd Iorwerth, a'i fab arall HYWEL, yn erbyn y brenin a'r Normaniaid, a chan fanteisio ar 'wrthryfel
  • SEISYLL BRYFFWRCH (fl. 1155-75), bardd Seisyll awdl-farwnad i Owain Gwynedd, ac un arall i Iorwerth Drwyndwn ei fab (sef tad Llywelyn Fawr). Yr ail farwnad hon yw un o ffynonellau pwysicaf ein gwybodaeth brin am Iorwerth (Lloyd, A History of Wales, 549-50). Ceir canu hefyd i'r arglwydd Rhys gan y bardd hwn lle y mae'n cyfeirio at yr ymladd yn 1159 yn erbyn y pum iarll Normanaidd, ac at ddigwyddiadau eraill yng ngyrfa Rhys mor ddiweddar â'r
  • RHISIART FYNGLWYD (fl. 1510-70), bardd Mab Iorwerth Fynglwyd, ac athro cerdd i Ddafydd Benwyn. Fe'i gelwir hefyd wrth yr enw Rhisiart Iorwerth. Er bod cartref ei dad yn Saint-y-Brid, yr oedd Rhisiart yn byw yn Nhir Iarll. Canodd gywyddau serch yn ei ieuenctid, ac yna gerddi caeth o fawl ar yr hen fesurau i uchelwyr Morgannwg, Sir Gaerfyrddin, a sir Frycheiniog, yn bennaf. Ymhlith y cerddi hyn fe geir amryw i'r Dwniaid, ac yn arbennig
  • IORWERTH, abad Talyllychau ac esgob Tyddewi Yr oedd ei ethol ef yn esgob - fe'i cysegrwyd yn Staines ar 21 Mehefin 1215, ychydig ddyddiau wedi i Magna Carta gael ei selio - yn fuddugoliaeth i ymdeimlad cenedlaethol y Cymry yn y frwydr hir ynglŷn â statws esgobion ac esgobaeth Tyddewi ac yn oruchafiaeth i bolisi Llywelyn Fawr. Yr oedd Iorwerth yn ŵr o gymeriad da ac yn Gymro pur o ran gwaed (ni wyddys ddim am ei dras) ac eto nid oedd yn
  • IORWERTH ap BLEDDYN (bu farw 1111)
  • THOMAS, IORWERTH RHYS (1895 - 1966), gwleidydd
  • GWGON BRYDYDD (fl. c. 1240), bardd Ni wyddys dim amdano, ond cadwyd ei englynion marwnad i'r tywysog Llywelyn ab Iorwerth Drwyndwn yn Cwrtmawr MS 454B (554); NLW MS 4973B (47); Peniarth MS 240 (13); The Myvyrian Archaiology of Wales 1890 (235).
  • IEUAN LLWYD ab Y GARGAM (fl. 14eg ganrif), un o'r olaf o'r Gogynfeirdd Nid erys unrhyw wybodaeth amdano, ond cadwyd awdl o'i waith, sef un i Hopcyn ap Tomas o Ynys Dawy ym Morgannwg, yn 'Llyfr Coch Hergest' a rhai llawysgrifau eraill. Argraffwyd hi yn The Myvyrian Archaiology of Wales, ond rhoddwyd enw Iorwerth Llwyd ab y Gargam wrthi yno.
  • SEFNYN (fl. ail hanner y 14eg ganrif), bardd Canodd awdl foliant i Dudur ap Goronwy o Drecastell a Phenmynydd (bu farw 1367), ac awdl farwnad i Iorwerth Gyriawg, bardd o Fôn a flodeuai o gwmpas 1360. Canai hefyd foliant gwragedd, megis rhyw Angharad 'gymar Dafydd '; yn gymysg annhrefnus y ceir ei waith yn y llawysgrifau. Y mae'n dra thebyg mai ef oedd tad y bardd Gwilym ap Sefnyn.