Canlyniadau chwilio

1 - 12 of 27 for "Maelgwn"

1 - 12 of 27 for "Maelgwn"

  • MAELGWN ap RHYS (fl. 1294), gwrthryfelwr mab Rhys Fychan, arglwydd olaf Genau'r Glyn yng ngogledd sir Aberteifi, a disgynnydd Maelgwn ap Rhys ap Gruffydd. Yn 1294, pan dorrodd gwrthryfel (o dan arweiniad Madog ap Llywelyn yng Ngogledd Cymru a Morgan ap Rhys ym Morgannwg) yn erbyn llywodraeth estron, fe'i gwnaeth Maelgwn ei hun yn arweinydd y gwrthryfelwyr yn Sir Aberteifi. Yn ystod yr ymgyrch yng ngorllewin Cymru bu gwarchae caled
  • DEINIOL (bu farw 584), sant, sylfaenydd Bangor ac esgob cyntaf Gwynedd Mab Dunawd fab Pabo Post Prydyn, o'r un llinach frenhinol ag Urien Rheged - nid Dwyai ferch Gwallog ab Lleenog oedd ei fam, merch cyfyrder iddo ydoedd. Gan fod Deiniol a Maelgwn Gwynedd o gydoedran, felly hefyd yr oedd Pabo ei daid a meibion Cunedda Wledig; rhaid mai gyda hwy y daeth Pabo i Gymru, nid oherwydd colli meddiannau ond er ennill mwy: yn ôl yr enwau lleol, trigai ei dylwyth ym Môn
  • CYNAN ap HYWEL (bu farw 1242?), tywysog a sefydlwyd gan ei dad Hywel Sais (bu farw 1204) yn St Clears ac a gydunai fel rheol â Maelgwn ap Rhys yn y cwerylon teuluol. Ceir sôn amdano gyntaf yng ngosgorddlu Maelgwn pan gymerwyd ef yn garcharor yn 1210 gan ei gefndyr Rhys ac Owain yr amser yr ymosodwyd ganddynt ar wersyll eu hewythr yn Cilcennin. Daw i'r golwg yn nesaf yn 1223, pryd y'i ceir yn erbyn Llywelyn, tywysog y Gogledd, ac yn
  • MAELGWN GWYNEDD (bu farw c. 547) teyrn y mae Gildas yn galw sylw at eu drwg-weithredoedd; geilw Gildas ef yn ' Maglocunus, draig yr ynys,' yn deyrn milwrol a orchfygasai lawer o frenhinoedd eraill. Yr oedd yn dal o gorff - cf. ei enw ' Maelgwn Hir ' - ac yn fwy ei allu na neb bron o'i gyfoeswyr; yr oedd hefyd yn arweinydd medrus mewn rhyfel, braidd yn fyrbwyll ond yn garedig ei natur; eithr yr oedd iddo lawer o ffaeleddau ac yr oedd
  • MAELGWN ap RHYS (c. 1170 - 1230), arglwydd Ceredigion tir hwn wedi iddo helpu John i ennill buddugoliaeth ar Lywelyn yn 1211 a barodd iddo, y mae'n fwy na thebyg, fynd drosodd ac ymuno â phlaid Llywelyn. Gwelir, fodd bynnag, nad oedd cred Llywelyn ynddo ddim yn ddiysgog oblegid pan aethpwyd i rannu tiroedd yr arglwydd Rhys o dan nawdd Llywelyn yn 1216 cadwyd Maelgwn allan o'r holl diroedd uwchlaw afon Aeron. Bu farw yn Llannerch Aeron yn 1230; claddwyd
  • SEIRIOL (c. 500 - c. 550), abad cyntaf a sylfaenydd eglwys Penmon mab Owain Danwyn ab Einion Yrth ap Cunedda Wledig, ac felly'n gyfyrder i'r brenin Maelgwn Gwynedd ac o gydoedran ag ef. Yn ôl traddodiadau Môn, yr oedd yn gyfaill agos i Gybi Sant. Seiriol ydoedd prif sant ardal Dindaethwy ym Môn, a hefyd Penmaenmawr yn Arfon; 1 Chwefror ydoedd ei ddydd gŵyl yn ôl y calendrau cynharaf.
  • RHUN ap MAELGWN GWYNEDD (fl. 550) Dilynodd ei dad, Maelgwn Gwynedd, yn rheolwr gogledd-orllewin Cymru. Os gellir credu'r hanes a geir yn fersiwn Gwynedd ('Venedotian code') cyfreithiau Hywel Dda, un amgylchiad hanesyddol yn unig sydd i'w gysylltu â Rhun. Pan ddychwelodd Clydno Eiddin a Rhydderch Hael i'r 'Gogledd' ar ôl diffeithio Arfon i ddial am farw Elidyr dywedir i Rhun ad-dalu trwy arwain byddin cyn belled ag afon Forth. Nid
  • CADFAN (fl. 620), tywysog Mab Iago ap Beli (bu farw 613) o linach Maelgwn Gwynedd. Gwyddys iddo deyrnasu dros Wynedd, ond nid oes dim arall o'i hanes ar gael. Y mae ei garreg fedd (dechrau'r 7fed ganrif) yn eglwys Llangadwaladr, sir Fôn, ac arni'r arysgrif: 'Catamanus rex sapientisimus opinatisimus (“mwyaf enwog”) omnium regum.' Rhydd traddodiad le iddo ym mucheddau'r santes Gwenffrewi a'r sant Beuno; ffug gan mwyaf
  • GRUFFYDD ap RHYS (bu farw 1201), tywysog Deheubarth mab hynaf Rhys ap Gruffydd a Gwenllian, merch Madog ap Maredudd. Fel sylfaenydd llinach hynaf disgynyddion yr Arglwydd Rhys efe a nodid yn etifedd tiroedd pennaf ei dad yn Ystrad Tywi a chydnabyddid ef fel hynny gan yr awdurdodau Seisnig. Ar y cyfan rhoddwyd cyfeiriad i brif ddigwyddiadau ei yrfa fer gan uchelgeisiau ei wrthwynebwyr - ei frawd Maelgwn a Gwenwynwyn o Bowys; o'r herwydd, ansicr hyd
  • OWAIN ap GRUFFYDD (bu farw 1236), tywysog Deheubarth Cyd-aer, gyda Rhys Ieuanc, i Gruffydd, mab hynaf yr arglwydd Rhys. Matilda, merch William de Breos, oedd ei fam. Er ei fod dros dro, ar brydiau, yn gwrthwynebu Llywelyn I, eto cafodd ef a'i frawd noddwr a diffynnydd pwerus iddynt yn Llywelyn yn erbyn eu hewythredd - Rhys Gryg a Maelgwn. Yn y Cantref Bychan yr oedd y tiroedd a gafodd ef ar y cyntaf, eithr pan ailrannwyd tiroedd yr arglwydd Rhys yn
  • CURIG (fl. 550?), sant Nawddsant Llangurig, plwyf mawr yn ne Arwystli ac efallai hefyd Eglwys Fair a Churig yn Sir Gaerfyrddin a Capel Curig yn Sir Gaernarfon. Adwaenid ef wrth y cyfenwau Curig Lwyd (sef y gwynfydedig) a Curig Farchog; yn ' Buchedd Curig ' (sydd yn waith diweddar) dygir ef i gysylltiad â Maelgwn Gwynedd. Yn amser Gerallt Gymro trysorid ei bawl bugeiliol - a addurniesid ag aur ac arian ac a oedd yn
  • CUNEDDA WLEDIG (fl. 450?), tywysog Prydeinig Yn ôl ' Achau'r Saeson ' yn rhai o lawysgrifau ' Nennius ' a briodolir gan rai ysgolheigion i'r 7fed ganrif, daeth ' Cunedag,' un o hynafiaid Maelgwn Gwynedd (bu farw 547?), gyda'i wyth mab o'r Gogledd, h.y. Manaw Gododdin, 146 o flynyddoedd cyn i Faelgwn deyrnasu, ac ymlid y Sgotiaid, h.y. y Gwyddelod, o Wynedd gyda'r fath laddfa fel na ddaeth neb ohonynt yn ôl. Rhydd achau o'r 10fed ganrif y