Canlyniadau chwilio

1 - 12 of 31 for "Sian"

1 - 12 of 31 for "Sian"

  • DAFYDD LLWYD (bu farw 1619) HENBLAS,, bardd ac ysgolhaig O deulu bonheddig yr Henblas, (Llangristiolus, Môn) y dywedir iddo raddio yn B.A. o S. Edmund Hall, Rhydychen. Priododd Catrin ferch Rhisiart Owen o Benmynydd a bu iddynt tuag wyth o blant, a thri o'r meibion yn glerigwyr. Yn ôl Lewys Dwnn a J. E. Griffith bu'n briod hefyd gyda Siân ferch Llywelyn ap Dafydd o Landyfrydog (a honno'n wraig gyntaf iddo yn ôl Dwnn), Soniwyd am ei ysgolheictod a
  • JONES, REES CRIBIN (1841 - 1927), gweinidog (U) ac athro Ganwyd ym Melin Talgarreg, Ceredigion, 9 Medi 1841, yn un o bedwar o blant; mab y Rhandir, Talgarreg, oedd David Jones, ei dad, a merch Caer foel, Ystrad, oedd ei fam. Bu'n fugail a chafodd ei addysg yn ysgol Dewi Hefin, Cribyn, ysgol John Davies, Three Horse Shoes, Cribyn, ysgol Pont-siân (1860-63), a'r Coleg Presbyteraidd, Caerfyrddin (1863-67). Gwasanaethodd yn achlysurol yn eglwys Undodaidd
  • RICHARD ap JOHN, (fl. 1578-1611) Sgorlegan,, gŵr bonheddig, prydydd, noddwr bardd, a chopïydd llawysgrifau ôl Robert Vaughan priododd Richard ap John eilwaith, â Sian ferch James, a bu iddo blant ohoni hithau. Priodolir i Richard ap John drosiad mydryddol Cymraeg yn 1586 o The Boke of John Maundeville. Ceir copïau ohono yn llawysgrifau NLW MS 1553A a Peniarth MS 218. Y mae carol o'i waith yn B.M. Add. MS. 9817. Yr oedd traddodiad prydyddu yn y teulu, ac yr oedd ei ewythr, Edward Wyn, un o aldramyn
  • WILLIAMS, WILLIAM (Crwys; 1875 - 1968), bardd, pregethwr ac archdderwydd fe'i cofir yn bennaf fel awdur telynegion adnabyddus fel ' Dysgub y dail ', ' Melin Trefin ', ' Siôn a Siân ', ' Y border bach ', a ' Y sipsi '. Y mae'n un o'r beirdd a lwyddodd i ymryddhau o gaethiwed arddull y 'Bardd Newydd'. Cyhoeddodd hefyd A brief history of Rehoboth Congregational Church, Bryn-mawr, from 1643 to 1927 (1927), a dwy gyfrol o atgofion, Mynd a dod (1941) a Pedair pennod (1950
  • teulu THOMAS Coed Alun, Aber, Yn Sir Gaerfyrddin yr oedd gwreiddiau'r teulu, a threiglid eu disgyniad o Lywelyn Foethus. Yn nechrau'r 16eg ganrif pennaeth y teulu ydoedd Syr WILLIAM THOMAS, Llangathen. Dechreuwyd y cysylltiad ag Arfon pan briododd RHYS, mab Syr William, â Sian, merch Syr John Puleston, Caernarfon. Rhys Thomas oedd siryf Sir Gaernarfon yn 1573-4, a siryf Môn 10 mlynedd cyn hynny. Dygwyd ei fab WILLIAM THOMAS
  • WILLIAMS, OWEN (Owain Gwyrfai; 1790 - 1874), hynafiaethydd Ganwyd mewn bwthyn o'r enw Bryn-beddau ar dir Plas Glan'rafon, Waun Fawr, a bedyddiwyd ef yn Betws Garmon ar 10 Ionawr 1790. Ei rieni oedd William Pritchard, Pant Ifan Fawr, Llanrug, a Sian Marc, Plas Mawr, Llandwrog. Priododd Owen Williams yn ieuanc gyda Margaret Lloyd, merch Pen-y-bryn, Llanwnda, ac aethant i fyw i Tu-ucha'r-ffordd, Waun Fawr. Dyn byr, ysgafn o gorff, gydag wyneb crwn a phryd
  • JONES, FRANCES MÔN (1919 - 2000), telynores ac athrawes ym Mangor. Wedi rhoi heibio cystadlu, ymroes i hyfforddi eraill, a chyfrifai'r gantores werin Siân James, ac Ieuan Jones, Athro'r Delyn yn y Coleg Cerdd Brenhinol yn Llundain, ymhlith ei disgyblion. Bu hefyd yn hyfforddi llawer mewn ysgolion, yn enwedig yng nghylch Llanfair Caereinion, a ffurfiodd gôr telynau. Fe'i derbyniwyd i Orsedd y Beirdd yn 1953 dan yr enw 'Telynores Brython', ond newidiodd
  • DAVIES, JOHN (c. 1567 - 1644), un o ysgolheigion mwyaf Cymru . Rywbryd tua 1609 priododd Siân Prys o'r Llwyn Ynn ym mhlwyf Llanfair Dyffryn Clwyd, wyres o du ei mam i'r barwn Lewis Owen o Ddolgellau, a chwaer i wraig yr esgob Richard Parry, olynydd William Morgan yn Llanelwy. Ddechrau 1614 cafodd reithoriaeth Llanymawddwy gerllaw Mallwyd a segurswydd Darowen yn Sir Drefaldwyn, ond rhoddodd yr olaf i fyny yn 1621 pan gafodd segurswydd Llanfor ym Mhenllyn. Yn 1617
  • THOMAS, MANSEL TREHARNE (1909 - 1986), cyfansoddwr, arweinydd, Pennaeth Cerdd BBC Cymru ganeuon gwreiddiol a threfniannau o alawon traddodiadol i leisiau unigol; ymhlith y caneuon adnabyddus mae “Y Bardd”, “Coeden afalau”, “A Hymn to God the Father”, “Eifionydd” a'r ddwy set o ddeuddeg cân “Caneuon Grace a Siân” a “Caneuon y Misoedd”. Mae'r gweithiau corawl yn darparu ar gyfer amrywiaeth o grwpiau - meibion, cymysg, merched ac ieuenctid/plant. Yn ychwanegol at “Cennin aur” (TTBB a SATB
  • teulu LANGFORD Drefalun, Thomas, George, Owen, Jane, Elen, Sian, ac Alis. JOHN LANGFORD Priododd Catherine ferch John ap Harri Jervis o Ruthyn. Bu ef farw 27 Mawrth 1606. Ei etifedd oedd RICHARD LANGFORD (bu farw 1643), uchel siryf sir Ddinbych, 1640. O'i wraig Elizabeth (bu farw 1657), ferch Thomas Wyn ap John ap Harri, bu iddo saith o feibion a naw o ferched, heblaw pedwar plentyn a fu farw yn fabanod. Dylid enwi'r aer JOHN
  • REES, THOMAS (1862 - 1951), bridiwr y cob Cymreig , gyda'i ŵyr a'i ŵyres, y gorffennodd ei yrfa, 15 Ionawr 1951. Claddesid ei briod, 31 Mawrth 1936, ychydig wedi iddynt ddathlu eu priodas aur. Gorwedd gweddillion y ddau ym mynwent Capel Gwynfil, Llangeitho. Yn 1880, yn 18 oed, dechreuodd gadw march, sef 'Bold Buck', mab i 'Cardigan Driver' a oedd yn eiddo i bregethwr Undodaidd ym Maesymeillion, Llanybydder. Yna, ac yntau'n was ym Mhant-moch, Pont-siân
  • OWEN, GORONWY (1723 - 1769), clerigwr a bardd Ganwyd ar Galan Ionawr 1723 mewn bwthyn ar y Rhosfawr ym mhlwyf Llanfair Mathafarn Eithaf yn sir Fôn. Yr oedd ei daid, Goronwy Owen yr eurych, a'i dad, Owen Gronw, yn rhigymwyr ac achyddion, a'i fam, Siân Parri, yn Gymraes ddiwylliedig. Pan oedd yn 10 oed aeth i ysgol a gynhelid yn Llanallgo; yn 1734 neu 1735 i ysgol rad ym Mhwllheli, ac oddi yno yn 1741 i Ysgol y Friars, Bangor. Tan y prifathro