Canlyniadau chwilio

1 - 5 of 5 for "Sulien"

1 - 5 of 5 for "Sulien"

  • RHYGYFARCH (1056/7 - 1099) yr hynaf o bedwar mab Sulien 'Ddoeth', a oedd yn frodor o Llanbadarn Fawr ac a fu ddwywaith yn esgob Tyddewi. Ar wahân i'r ffaith ei fod yn perthyn i deulu o glerigwyr ac o dras uchel, ychydig, os dim, a wyddys am ei fywyd. Dywedir mai ei dad fu ei unig athro. Y mae'n fwy na thebyg ei fod yn offeiriad yn Nhyddewi (eithr nid yn esgob fel y dywed 'Annales Cambriac,' MS. C). Ymysg ei weithiau a
  • ABRAHAM (bu farw 1080), esgob Dewi Olynydd Sulien a ymddiswyddodd yn 1078 ('euream' yn Peniarth MS 20). Yn ôl llawysgrif C yr ' Annales Kambriae ' fe'i llofruddiwyd gan y 'cenedl-ddynion' a anrheithiodd Tyddewi yn 1080. Darganfuwyd croes goffa arysgrifenedig ei feibion Hedd ac Isaac yn yr eglwys gadeiriol yn 1891.
  • SULIEN (1011 - 1091) ef yn esgob Tyddewi o 1072/3 hyd 1078 ac eilwaith o 1080 hyd 1085; dilynwyd ef gan Wilfre, esgob annibynnol olaf Tyddewi. Bu farw yn 1091, yn 80 mlwydd oed, ac yn enwog am ei ddoethineb a'i gyraeddiadau fel ysgolhaig. Ef ei hunan a fu'n arwain cwrs addysg ei bedwar mab - Rhygyfarch, ARTHEN, DANIEL, a IEUAN; y mae pwysigrwydd llenyddol a dylanwad yr hyn y gellir ei alw yn ' Ysgol Sulien ' yn hawdd
  • WILFRE, esgob Esgob Dewi o 1085 (wedi marw Sulien) hyd 1115, a'r olaf o esgobion annibynnol Dewi; Cymro, ar waethaf y ffurfiau Normanaidd ar ei enw. Bwriodd ei goelbren gyda'r Cymry yn y gwrthryfel yn 1096 yn erbyn Normaniaid Dyfed, ac yn ddial am hynny diffeithiodd Gerallt o Benfro ei diroedd ym Mhebidiog yn 1097 - yn ôl Gerallt Gymro, carcharwyd Wilfre ei hunan am ddeugain niwrnod gan Arnulf Montgomery. Mewn
  • DEWI SANT, sefydlydd ac abad-esgob cyntaf Tyddewi a nawddsant Cymru efengyleiddio mewn mannau y tu allan i gylchoedd gweithgarwch ei ragflaenwyr. Cyfeirir ato yn ' Arymes Prydein Vawr' (Facsimile and Text of the Book of Taliesin, 13) yn gynnar yn y 10fed ganrif fel arweinydd ysbrydol y Cymry yn erbyn y Saeson. Ysgrifennwyd ei Fuchedd gan Rygyfarch ap Sulien, esgob Tyddewi (bu farw 1099), c. 1090, a hi yw ffynhonnell pob 'hanes' am ei fywyd. Dywed Rhygyfarch iddo ddefnyddio