Canlyniadau chwilio

1 - 12 of 44 for "Tawe"

1 - 12 of 44 for "Tawe"

  • JONES, DAVID TAWE (1885 - 1949), cerddor
  • REES, EBENEZER (1848 - 1908), argraffydd a chyhoeddwr Rachel James (bu hi farw 18 Medi 1916). Gwelwyd twf mewn undebaeth lafur yng nghymoedd Morgannwg yn ystod y cyfnod hwn a bu Ebenezer Rees yn flaenllaw gyda'r mudiad ym mlaenau cwm Tawe. Fe'i diswyddwyd ac erlidiwyd ef oherwydd ei ddaliadau, ac ymfudodd i Carbondale, Pennsylvania, yn 1869. Dychwelodd i Gymru yn 1872, bu'n cadw siop lyfrau am gyfnod ac yn 1877 agorodd swyddfa argraffu yn Ystalyfera
  • JAMES, WILLIAM (1761 - 1845), gweinidog gyda'r Annibynwyr Ganwyd yn Abersŵn, Llanllwni, ar Sul y Blodau, 1761. Ymaelododd yn Rhyd-y-bont, a dechreuodd bregethu 'n ifanc. Bu'n cadw ysgol yng Nglyn Tawe, yna (1785-9) aeth i academi 'Caerfyrddin,' a drigai ar y pryd yn Abertawe. Yna urddwyd ef yn weinidog eglwysi Watford a Chaerdydd (Trinity); yn ffermdy Ysguborwen yr oedd yn byw. Tua 1826 perswadiwyd ef i symud i'r dre, gan roi Watford (a'r fferm) i fyny
  • EVANS, TOM VALENTINE (1861 - 1935), gweinidog y Bedyddwyr Ganwyd yn Llandybie, 14 Chwefror 1861, mab William a Mary Evans, a brawd i Frederick Evans. Dechreuodd bregethu yn 1877 gyda'r Methodistiaid Calfinaidd; aeth i ysgol Caerfyrddin, ac oddi yno i Goleg Trefeca yn 1879. Troes at y Bedyddwyr, ac aeth i Goleg Pontypŵl yn 1880. Ordeiniwyd ef yn weinidog ar eglwys Calfaria, Clydach, Cwm Tawe, yn 1882, ac yno y bu ar hyd ei yrfa nes ymddiswyddo yn 1927
  • EVANS, GRUFFYDD (1866 - 1930), clerigwr a hynafiaethydd Ganwyd 18 Medi 1866 ym Mhontardawe, yn fab i John Gruffydd, goruchwyliwr gwaith, a’i wraig Elizabeth (g. Griffiths). Wedi bod am gyfnod byr yn ddisgybl-athro yng Nghlydach (Cwm Tawe), aeth i Goleg Dewi Sant, a graddio yn 1891 (B.D. 1902). Cafodd urddau yn 1892 a 1894; bu'n gurad yn Abertawe, Llansadwrn, a Llandingad (Llanymddyfri). Cafodd ficeriaeth Cydweli yn 1908; yn 1913 symudodd i ficeriaeth
  • GRIFFITHS, WILLIAM (Ifander; 1830 - 1910), arweinydd a beirniad cerddorol Ganwyd yn Aberafan, Morgannwg, 1830, yn fab i Manuel Griffiths. Symudodd i Gwmtawe pan yn 20 oed ynglŷn â'r diwydiant alcam, gan ymsefydlu ym Mhontardawe, a daeth i'r amlwg yn gynnar yn ei gartref newydd fel athro cerddorol ac arweinydd corawl. Ei brif orchestwaith ym myd y gân, efallai, oedd sefydlu ' Undeb Corawl Dirwestol Dyffryn Tawe ' yn 1861 - cymdeithas a ddaeth yn enwog yn y sir a'r
  • JONES, DAVID (1772 - 1854), gweinidog gyda'r Bedyddwyr Cyffredinol Ganwyd yn nyffryn Ceidrych, Llangadog. Cafodd beth addysg, ac'aeth yn saer maen. Bedyddiwyd ef, yn 27 oed, gan Moses Williams, gweinidog Bedyddwyr Cyffredinol Pontbren-Araeth, yn 1799. Yn y rhwyg a ddaeth ar Fedyddwyr y de-orllewin yn y flwyddyn honno, meddiannodd y blaid Arminaidd yn Salem Llangyfelach dŷ cwrdd bychan yng Nghlydach (Cwm Tawe) o'r enw ' Capel-y-Cwar,' a godwyd gan Salem yn 1795
  • LLEWELYN, WILLIAM CRAVEN (1892 - 1966), perchennog glofeydd, cyfarwyddwr cwmnïau, arbenigwr mewn amaethyddiaeth ac mewn coedwigaeth Ganwyd 4 Mehefin 1892 yn fab i T. David Llewelyn, Clydach, Cwm Tawe, Morgannwg. Priododd â Doris Mary Bell yn 1932 ond ni chawsant blant. Addysgwyd ef yng Ngholeg Arnold, Abertawe a Choleg Technegol Abertawe cyn graddio yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor. Yn gynnar cymerodd ddiddordeb arbennig mewn gyrfa yn y gwaith glo ac i'r perwyl hwnnw cafodd hyfforddiant preifat gan J. Henry Davies
  • THOMAS, WILLIAM (1749 - 1809), gweinidog gyda'r Annibynwyr a chyhoeddwr llyfrau adfywiad crefyddol i'r fro ac mewn oedfa dan weinidogaeth Isaac Price yng Nghrugybar cafodd dröedigaeth. Yn fuan aeth i Dyn-y-coed, Cwm Tawe, i gadw ysgol, gan ymaelodi yno a dechrau pregethu. Yn 1779 derbyniwyd ef i athrofa'r Fenni ac urddwyd ef 2 Hydref 1782 yn weinidog eglwys Hanover, Llanofer, sir Fynwy. Ni bu'n gysurus yno ac yn 1787 derbyniodd alwad i eglwys y Bala, ac yno y bu weddill ei oes; bu
  • MORGAN ap CARADOG ap IESTYN (bu farw c. 1208), arglwydd barwniaeth Gymreig Afan Wallia (neu Nedd-Afan) yn arglwyddiaeth ('honour') Morgannwg trydydd mab, Morgan Gam, a'i dilynodd. Ymddengys i ferch iddo, sef Sybil, briodi ag aelod o deulu Turberville, Coety. Edrydd Gerallt Gymro (Itin., i, cap. 8) mai Morgan ap Caradog a dywysodd yr archesgob Baldwin yn 1188 ar draws y sugndraethau rhwng aberoedd Afan a Tawe. O bedwar mab Morgan y gwyddom eu henwau, LLEISION oedd yr hynaf; yn y siartrau a roes Morgan i abaty Margam, enwir Lleision ac OWAIN
  • ELLIS, ELLIS OWEN (Ellis Bryncoch; 1813 - 1861), arlunydd talodd William, Morris ('Gwilym Tawe') 100 gini amdano, a (b) darlun ' Siôn Wyn o Eifion ' o dan y teitl ' Y Bardd yn ei Wely,' a geir yn argraffiadau 1861 a 1910 Gwaith barddonol Siôn Wyn o Eifion; y mae gwreiddiol (b) yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Y mae hefyd yn y Llyfrgell ddau o'i lyfrau yn cynnwys darluniau gwreiddiol: (a) ' The Book of Welsh Ballads illustrated in outline. By Ellis Bryn-coch
  • BEYNON, ROBERT (1881 - 1953), gweinidog (MC), bardd ac ysgrifwr Ganwyd 8 Hydref 1881 yn yr Offis, Pontyberem, Sir Gaerfyrddin, mab Thomas ac Anne Beynon. Dechreuodd bregethu yn eglwys Soar, ac addysgwyd ef ar gyfer y weinidogaeth yn ysgol Watcyn Wyn yn Rhydaman, ysgol Pontypridd, Coleg y Brifysgol, Caerdydd (lle graddiodd yn B.A.), a'r Coleg Diwinyddol, Aberystwyth. Ordeinwyd ef yn 1911, a bu'n bugeilio eglwys Carmel, Aber-craf, ym mhen uchaf dyffryn Tawe ar