Canlyniadau chwilio

1801 - 1812 of 1877 for "Mai"

1801 - 1812 of 1877 for "Mai"

  • WILLIAMS, MOSES (1685 - 1742), clerigwr, hynafiaethydd, ysgolhaig guradiaeth Chiddingstone, Caint. Wedi blwyddyn yn gaplan i'r arglwyddes Dinbych, ordeiniwyd ef 31 Mai 1714 yn offeiriad yn Fulham. Estynnwyd iddo fywoliaeth Llanwenog yn 1715 a ficeriaeth Defynnog. Yn eglwys Defynnog, 10 Tachwedd 1718, priododd â Margaret Davies o Gwm Wysg; yr oedd wedi colli ei wraig a'i unig ferch ac wedi priodi'r eilwaith erbyn 1730. Yn 1719 etholwyd ef yn F.R.S., a bu'n gweithredu yn
  • WILLIAMS, MOSES (bu farw 1819), gweinidog gyda'r Bedyddwyr Cyffredinol Trindodaidd, a gof Ramoth) mai crediniaeth noeth yw 'ffydd.' Yn 1797, urddwyd ef yn weinidog Llandyfan, ac yn 1798 plannodd eglwys arall ym Mhontbren-araeth ym mhlwyf Llangadog. Pan ddaeth rhwyg 1799, aeth ef a'i ddwy eglwys allan o gymanfa'r Bedyddwyr Neilltuol, eto gan barhau'n Drindodwyr; croesawodd Williams ddyfodiad y genhadaeth Wesleaidd Gymraeg i'r ardaloedd hynny, a gwelir ef yn 1806 (A History of Carmarthenshire
  • WILLIAMS, NATHANIEL (1742 - 1826), gweinidog gyda'r Bedyddwyr (Neilltuol a Chyffredinol), dadleuydd diwinyddol, emynydd, a meddyg gwlad chydweddai â Thrindodiaeth Athanasius, eithr a awgryma'n hytrach mai tair agwedd weithredol (neu 'oeconomaidd') ar yr un hanfod dwyfol, ac nid tri 'pherson,' ydyw'r Drindod - golygiad a bwysleisir ymhellach yn yr 'Anerchiad' ar flaen ei Ychydig o Hymnau Newyddion, 1787, gyda datganiad er hynny ei fod yn credu yn Nuwdod a Mabolaeth Grist. Datganodd cymanfa'r Bedyddwyr (Glynceiriog, 1779) ei
  • WILLIAMS, NATHANIEL (1656/1657 - c. 1679), awdur mab Thomas Williams, Abertawe. Ymaelododd yng Ngholeg Iesu, Rhydychen, 29 Tachwedd 1672 a graddiodd yn B.A. 27 Mai 1676. Cyhoeddodd (1) A Pindaric Elegy on the Famous Physician Dr. Willis (Oxford, 1675); (2) Image Saeculi: or the Image of the Age represented in four Characters, viz. the ambitious Statesman, insatiable Miser, atheistical Gallant, and factious Schismatic (Oxford, 1676). Bu farw c
  • WILLIAMS, OWEN (1774 - ar ôl 1827), cerddor Wynn, A.S., gael swydd yn ' His Majesty Stamp and Tax Office January 1827 which was to him then as life from the dead.' Syrthiodd i dlodi mawr yn niwedd ei oes. Bu farw yn Llundain 23 Mai 1839, ac ni wyddys ym mhle y claddwyd ef.
  • WILLIAMS, PETER (Pedr Hir; 1847 - 1922), llenor, eisteddfodwr, a gweinidog gyda'r Bedyddwyr Ganwyd 1 Mai 1847 yn y Byrdir, plwyf Llanynys, Dyffryn Clwyd. Yr oedd ei dad, Thomas Williams (Byrdir), yn gefnder i Syr Charles James Watkin Williams. Bu'n ddisgybl ysgol i J. D. Jones y cerddor; yn 1868 wele ef yn eisteddfod Rhuthyn yn mwynhau cwmni pobl gymysgryw fel ' Nefydd,' ' Talhaiarn,' a ' Llew Llwyfo.' Bu'n treio ei law ar amryw orchwylion cyn dod yn un o blismyn sir Ddinbych yn 1870
  • WILLIAMS, PETER (1756 - 1837), clerigwr ac awdur bedyddiwyd 9 Hydref 1756, mab Edward Williams o dreflan Leprog Fawr, Llaneurgain, Sir y Fflint, ac Ann ei wraig. Ymaelododd ym Mhrifysgol Rhydychen o Goleg Eglwys Crist 23 Mai 1776, a graddio yn 1780; cymerodd ei M.A. yn 1783. Ar ôl ei ordeinio, bu am beth amser yn gaplan Coleg Eglwys Crist, ond dychwelodd i Gymru yn 1790, pryd y sefydlwyd ef yn ficer Bangor. Bu hefyd yn athro ysgol Friars, 1789
  • WILLIAMS, PETER BAILEY (1763 - 1836), cherigwr a llenor , 1832, ar hanes Môn, ac yn nhrafodion y Cymmrodorion (1843), ar fynachdai ac abatai Cymru. Cyfieithodd ddau o lyfrau Baxter yn Gymraeg : Traguyddol Orphwysfa'r Saint, 1825, a Galwad i'r Annychweledig, 1825. Er nad oes lawer o wreiddioldeb yn ei waith, haedda glod am wrthod cymryd ei ddenu gan orgraff William Owen Pughe ac am weled mai ffug a thwyll oedd honiadau ' Iolo Morganwg ' am orsedd y beirdd
  • WILLIAMS, RAYMOND HENRY (1921 - 1988), darlithydd, llenor a beirniad diwylliannol magwyd ef ynddi, a'u dylanwad ar natur gwleidyddiaeth ddosbarth gweithiol yn y cyfnod wedi'r rhyfel. Gelwir y cymeriad canolog yn Will gan ei rieni, er mai Matthew yw'r enw ar ei dystysgrif geni. Fel Matthew y mae'n cael ei adnabod yn ei fywyd fel academydd yn Lloegr hefyd, a hyn yn adlewyrchu profiad Raymond Williams ei hun a adwaenid fel 'Jim' yn ystod ei fagwraeth ar y ffin. Ar ôl cael ei addysg yn
  • WILLIAMS, RICHARD (bu farw 1724), gweinidog gyda'r Bedyddwyr Codwyd ef i bregethu yn Rhydwilym, ac er nad oes gofnod o'i fedyddio yn llyfr yr eglwys, mae'n debyg mai ef yw'r gŵr a enwir gyda Mary, ei wraig, dan blwyf Llanglydwen, yn y rhestr aelodau yn y flwyddyn 1689. Y mae sôn amdano'n bedyddio yno ym mlynyddoedd olaf y ganrif, ond tua diwedd 1700 ymunodd Olchon, Llaneigon, a'r eglwys newydd yn y Trosgoed (Maes-y-berllan) i'w sefydlu'n weinidog arnynt
  • WILLIAMS, RICHARD (fl. 1790?-1862?), baledwr, a chantwr pen ffair
  • WILLIAMS, ROBERT (Robert ap Gwilym Ddu; 1766 - 1850), bardd Ganwyd 6 Rhagfyr 1766, unig blentyn William Williams a Jane (Parry) o'r Betws Fawr, ffermdy ym mhlwyf Llanystumdwy. Tebyg mai yn un o ysgolion y gymdogaeth y cafodd addysg gyffredinol, ac mai gan rai o feirdd Eifionydd y dysgodd gelfyddyd barddoniaeth. Treuliodd y rhan fwyaf o'i oes yn amaethwr cyfrifol, ond cafodd hamdden i ddilyn diddordebau megis llenyddiaeth Gymraeg, diwinyddiaeth