Canlyniadau chwilio

1825 - 1836 of 1867 for "Mai"

1825 - 1836 of 1867 for "Mai"

  • WILLIAMS, WILLIAM (1738 - 1817) Llandygái, llenor, hynafiaethydd, a swyddog pwysig ar gloddfa lechi Cae-braich-y-cafn berchenogion stadau fel Gwaenynog yn sir Ddinbych a Meillionydd yn Llŷn. Nid anaml ychwaith y ceisid ganddo weithredu fel athrywynnwr a chanolwr rhwng meistr a ffermwr, rhwng ffermwr a ffermwr. Pwynt pwysig arall yn ei yrfa oedd argyhoeddiad Richard Pennant, yr arglwydd Penrhyn cyntaf, mai William Williams oedd yr union ddyn i lywio codi, cludo, a gwerthi'r llechi; parhaodd yr oruchwyliaeth hon o 1782 i 1802
  • WILLIAMS, WILLIAM (1748 - 1820), clerigwr, ac un o ragredegwyr mudiad yr ysgol Sul yng Nghymru wneuthur cais (oddeutu 1781) i sefydlu ysgolion Sul yn Aberystwyth, Aberdyfi, a Machynlleth. Bu yn ei fryd sefydlu yng Nghymru gymdeithas ar gynllun S.P.C.K. Bu farw 12 Mai 1820, a gorffwys ei weddillion yng Nghil-y-cwm.
  • WILLIAMS, WILLIAM (fl. 1853), cyfieithydd Uncle Tom's Cabin. yn 1853. Gweler bellach nodyn E. Wyn James yn Canu Gwerin, 27 (2004), t.46 (n.27), lle dangosir mai Thomas Levi oedd awdur y ddwy gyfrol a gyhoeddwyd dan y ffugenw 'Y Lefiad'. Cyfrannodd y gweinidog Methodist William Williams (1817-1900) ragymadrodd i gyfieithiad Thomas Levi, Crynodeb o Gaban 'Newyrth Tom (1853).
  • WILLIAMS, WILLIAM (Creuddynfab; 1814 - 1869), llenor a bardd adeg yma hefyd daeth yn gyfeillgar a J. Ceiriog Hughes.Ymddiswyddodd yn 1860 a symudodd i Landudno er mwyn cymeryd swydd fel ysgrifennydd yr Eisteddfod Genedlaethol - ysgrifennydd cyflogedig cyntaf y Gymdeithas, mae'n debyg. Gwnaeth waith mawr iawn ynglŷn â'r Eisteddfod, ond methodd a chyflawni'r dyledswyddau yn hwy na phum mlynedd (dwy yn ôl un hanesydd) oherwydd afiechyd. Er mai un llyfr a
  • WILLIAMS, WILLIAM EMYR (1889 - 1958), cyfreithiwr ac eisteddfodwr Ganwyd 24 Mai 1889 yn Llanffestiniog, Meirionnydd, yr hynaf o blant John Williams, gweinidog Engedi (MC), ac, wedi hynny, capten llong a blaenor yn y Tabernacl, Aberystwyth. Pan benodwyd John Williams yn ysgrifennydd cenhadaeth gartref y MC, symudodd y teulu i Wrecsam, ac o ysgol ramadeg Grove Park yn y dref honno yr aeth William Emyr i Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, lle'r enillodd radd LL.B
  • WILLIAMS, WILLIAM JONES (1863 - 1949), swyddog yn y gwasanaeth gwladol, Ysgrifennydd Cwmni Kodak, Trysorydd Coleg Harlech ac Urdd Gobaith Cymru Ganwyd 21 Mai 1863 yn Salford, sir Gaerhirfryn, yr hynaf o 7 plentyn John Williams (1828 - 1877), ' warehouseman ' (gynt o Dyn-y-graig, Garthgarmon, gerllaw Llanrwst) a'i wraig (gyntaf), Ellen Williams (1838 - 1874), brodor o Fethel, gerllaw Llandderfel, Sir Feirionnydd. Wedi cyfnod byr yn Ysgol Ramadeg Manceinion (Ionawr 1875 hyd Rhagfyr 1876) dechreuodd weithio (21 Rhagfyr 1876) ym masnach ' Mr
  • WILLIAMS, WILLIAM JONES (1891 - 1945), diwygiwr, gweinidog Apostolaidd Brawd Daniel Powell Williams a'i gydymaith fel proffwyd ar ei deithiau; ganwyd yn Garn-foel 9 Mai 1891. Yn ddeg oed dechreuodd fynychu cyfarfodydd diwygiad, ac mewn cyfarfod yng nghapel (MC) Llanllian arddododd Evan Roberts a'r Dr D. M. Phillips eu dwylo arno gan ddymuno yr arweinid ef i'r weinidogaeth. Fel y gwelwyd uchod, galwyd ef i'r swydd broffwydol yn yr Eglwys Apostolaidd, a bu ar deithiau
  • WILLIAMS, WILLIAM LLEWELYN (1867 - 1922), aelod seneddol, cyfreithiwr, ac awdur dadwaddoli'r Eglwys Wladol yng Nghymru; ac yr oedd yn eiddgar dros ymreolaeth i Gymru (ac i Iwerddon, Llydaw, Fflandrys), ond ymreolaeth o fewn ffrâm y Deyrnas Gyfunol a ddymunai ef - dengys ei ysgrif ar y Deddfau Uno (Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, 1907-8, a'r bennod gyfatebol yn ei lyfr) mai mantais, i'w feddwl ef, oedd uniad Cymru â Lloegr. Ar bwnc y tir, ei feddyginiaeth ef oedd amlhau
  • WILLIAMS, WILLIAM OGWEN (1924 - 1969), archifydd, Athro prifysgol . Ond nid dyna'i gyfraniad pwysicaf o bell ffordd, oherwydd yn 1956 cyhoeddodd ei Calendar of the Caernarvonshire Quarter Sessions Records 1541-1558, sy'n cynnwys rhagymadrodd meistrolgar ar gefndir hanesyddol y dogfennau. Dichon mai dyma'r dadansoddiad gorau a gafwyd erioed o'r drefn weinyddol a chymdeithasol yng Nghymru yn Oes y Tuduriaid, ac ar ei gorn dyfarnwyd iddo radd M.A. Prifysgol Cymru yn
  • WILLIAMS, ZEPHANIAH (1795 - 1874), Siartydd iddo gyrraedd Tasmania ceisiodd ddianc yn rhydd fwy nag unwaith. Yng nghwrs amser cafodd ei ollwng yn rhydd ar 'ticket of leave.' Yna darganfu lo ar yr ynys, ac ymhen amser daeth yn bur gyfoethog. Ymunodd ei wraig, Joan, a'i ferch, Rhoda, ag ef yn Tasmania yn 1854. Bu Zephaniah Williams farw 8 Mai 1874 yn Launceston, Tasmania. LLEWELLYN WILLIAMS 'Pencerdd y De', 'Alawydd y De' (1822 - 1872), telynor
  • WILLIAMS-ELLIS, JOHN CLOUGH (1833 - 1913), ysgolhaig, clerigwr, bardd a'r Cymro cyntaf, ond odid, i esgyn un o fynyddoedd uchaf yr Alpau bod yn buddsoddi ei enillion fel tiwtor trwy ychwanegu at ystad y Glasfryn. Ymddeolodd yno yn 1888 a phenodwyd ef yn ynad heddwch yn 1890. Enillodd wobrau am farddoni yng Nghaergrawnt a barddonai yn achlysurol ar hyd ei oes. Yr oedd yn hyddysg yn y Gymraeg ond er gwaethaf ei enw barddol, 'Shon Pentyrch', ymddengys mai yn Saesneg yn unig y canai. Yr oedd yn rhwyfwr ac yn nofiwr da ac yn 1855 enillodd
  • WILLIAMSON, ROBERT (MONA) (Bardd Du Môn; 1807 - 1852) Enedigaeth Crist (Rhyl, 1854); Y Garddwr Cymreig (Caernarfon, d.d.); Pryddest ar Ddoethineb Duw (Caernarfon, d.d.); Hunan-Gyfarwyddyd i Gymro ddysgu Darllen, Ysgrifennu, a Deall yr Iaith Seisoneg (Caernarfon, tri arg. o leiaf); a Gramadeg Teirieithog, neu Ieithiadur Cymraeg-Saesonaeg-Ffrancaeg. Bu farw 20 Mai 1852 a'i gladdu ym mynwent eglwys S. Pedr, Niwbwrch. Mab iddo oedd OWEN WILLIAMSON (1840 - 1910