ABRAHAM (bu farw 1232), esgob Llanelwy
Enw: Abraham
Dyddiad marw: 1232
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: esgob Llanelwy
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: John Edward Lloyd
Cysegrwyd ef 29 Mehefin 1225 yn Westminster gan Stephen Langton. Ni wyddys ddim am ei yrfa cyn hynny, ond y mae'n debyg ei fod yn Gymro. Disgrifia Pen. MS. 20 ef yn 'euream.' Yn 1227 rhoes ail 'hanner' eglwys Wrecsam i abaty Valle Crucis, a thrachefn, yn 1232, 'gyfran' o eglwys Llangollen.
Awdur
- Syr John Edward Lloyd, (1861 - 1947)
Ffynonellau
-
A History of Wales: from the Earliest Times to the Edwardian Conquest (London 1912), 689, n. 204
-
Archaeologia Cambrensis, 1868, 162, 163
Dolenni Ychwanegol
- Wikidata: Q19817111
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/