Fe'i disgrifir fel mab Cedig ap Ceredig ap Cunedda Wledig ac fe'i cysylltir, o dan yr enw ' Afan Buellt,' â chantref Buellt yng nghanolbarth Cymru. Yma ceir dwy o'i eglwysi, sef Llanafan Fawr a Llanafan Fach; ceir y drydedd Llanafan yn nyffryn Ystwyth. Ceir arysgrif yn perthyn tua'r flwyddyn 1300 yn Llanafan Fawr yn darllen fel hyn: 'Hic iacet sanctus Avanus Episcopus.' Barnwyd oddi wrth hon ei fod yn ben ar esgobaeth yn y parthau hyn, eithr yn ei oes ef golygai'r teitl safle neu radd yn hytrach na thiriogaeth. Hydref 16 (neu 17) ydyw ei ddydd gŵyl, ac o'r Lladin ' Amandus ' y deillia ei enw.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.