Ganwyd 5 Ionawr 1847 yn Llanelli, mab John Allen o Gastellnedd, a'i wraig o Gilrhedyn, Castellnewydd Emlyn, ond ym Morgannwg y'i magwyd ac y gwersyllodd. Ym Mlaenycwm y'i bedyddiwyd, yng Nghwmafon y dechreuodd bregethu, ym Mryntroedgam, 17 a 18 Hydref 1880, yr urddwyd ef. Bu yno saith mlynedd, yna Pontrhydyfen, 1887-1890, Capel Rhondda, 1890-2, Calfaria, Maesteg, 1892-1908, a Philadelphia, Cwm Ogwr, am ychydig. Bu farw 13 Mawrth 1927 yn Nantyffyllon, Maesteg.
Meddai ar athrylith gartrefol a dawn ymadrodd anghyffredin, a byddai'n cyfareddu cynulleidfaoedd â'i bregethau pert a'i actio pertach. Bu ganddo lofa fechan a fferm fechan, eithr ni chafodd fawr hwyl gyda'r naill na'r llall; llwyddai'n well gyda'i ddarlithiau ar ' Abraham ', ' Dyn ar dramp ', ' Gwersi teuluaidd ', a'i bregethau ar yr ' Iâr a'r cywion ' a'r ' Pydew erchyll '.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.