Ganwyd mewn tŷ o'r enw Oleuddu, ger Trefeglwys, Trefaldwyn, yn 1830. Cyfarfu â damwain a'i hanalluogodd i ddilyn ei alwedigaeth ac ymunodd â'r heddlu. Cyfansoddodd lawer o donau, a cheir hwy yn Llyfr Tonau Cynulleidfaol, Caniadau y Cysegr a'r Teulu, â Cerddor yr Ysgol Sabothol. Ceir canu mynych ar ei dôn 'Trefeglwys,' a gyfansoddodd yn 1857. Ym Miwsig y Miloedd ceir cân a chytgan, 'Melys cofio'r amser gynt,' a chanig, 'Mehefin fwyn.'
Yn 1874 ymfudodd i New Zealand, a bu farw yno Nadolig 1896.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.