ASSER (bu farw 909), esgob ac ysgolhaig

Enw: Asser
Dyddiad marw: 909
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: esgob ac ysgolhaig
Maes gweithgaredd: Crefydd; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awduron: John Edward Lloyd, David Myrddin Lloyd

Ni wyddys fawr ddim o'i hanes heblaw a ddywed amdano'i hun yn ei lyfr ar fywyd y brenin Alfred. Yr oedd yn aelod o glas Tyddewi, lle'i meithrinwyd a'i addysgu, gan ei fod yn perthyn i'r esgob Nobis (bu farw 873). Yn ei dro daeth Asser yntau'n esgob Tyddewi ac ennill mawr glod am ei ddysg, ac nid o fewn i ffiniau Cymru 'n unig. Gan hynny, yn 884, neu tua'r adeg honno, fe'i derbyniwyd i wasanaeth Alfred oblegid sêl y brenin hwnnw dros ei addysgu ei hun a'i ddeiliaid. Nid hawdd oedd rhyddhau Asser o'i ddyletswyddau esgobol, ond ar ôl ysbaid a achoswyd yn rhannol gan ei hir afiechyd yng Nghaerwent ar ei ffordd adref, cytunodd i rannu ei flwyddyn rhwng y llys a Thyddewi. Bu cyflwr gwleidyddol Cymru yn un rheswm dros iddo gytuno â'r drefn hon. Yr oedd yr esgobaeth yn agored iawn i ymosodiadau'r tywysog lleol, sef Hyfaidd, brenin Dyfed (bu farw 892), a gobeithid rhoi pen ar hyn gan gyfeillgarwch yr esgob â theyrn grymus Wessex, gwr a oedd yn frenin ar Hyfaidd yntau. Cafodd Alfred ei athro newydd yn gwbl angenrheidiol iddo, a phentyrrodd ffafrau arno, gan roi arno yn y diwedd ofal esgobaeth Sherborne, a gynhwysai Ddyfnaint a Chernyw. Adroddir hyn oll yn y llyfr ar Alfred. Nid oes i'w ychwanegu ddim gwybyddus heblaw ei ddyrchafu'n ddiweddarach yn esgob Sherborne, ac iddo f. yn 909.

Cymysgfa ryfedd yw'r llyfr crybwylledig o gronicl a chofnodion personol wedi ei sgrifennu yn Lladin rhetoregol ac anystwyth y cyfnod. Amlwg yw nas gorffennwyd erioed; y dyddiad olaf a grybwyllir yw 893, ond ni pharheir y cronicl wedi 887. Gwneir astudiaeth ohono'n anodd gan i'r unig hen lawysgrif gael ei llosgi yn 1731, a chan fewnosodiadau'r golygyddion. Ymhlith y rhain y mae'r darn drwg ei glod am ddadleuon academaidd yn Rhydychen a wewyd iddo gan Camden i brofi hynafiaeth y brifysgol honno. Ymdrinir â'r holl bynciau sy'n codi, a sefydlir testun, gan W. H. Stevenson yn ei argraffiad safonol (Rhydychen, 1904).

Awduron

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/