Yr oedd yn un o'r peirianwyr hynaf a mwyaf medrus yng Ngwent a Morgannwg, a'i waith arbennig oedd cynllunio a gosod i fyny bob math o beiriant a weithid gan dân a dwfr. Bu'n un o gynorthwywyr Watkin George, y peiriannydd yng Nghyfarthfa, lle y cynlluniwyd ac yr adeiladwyd y peiriant dwfr mwyaf yn Ewrob y pryd hynny. Bu am dros ddeugain mlynedd yng ngwasanaeth Samuel Homfray, yr haearnydd, mewn mwy nag un o'i weithiau. Perchid ef yn fawr am ei gywirdeb a'i gymeriad personol yn ogystal â'i allu a'i fedr fel crefftwr. Yr oedd yn un o ddinasyddion amlycaf ei dref. Bu farw 22 Gorffennaf 1827.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/