Mab hynaf Joseph (neu John) Bailey, Wakefield, swydd Efrog, a Susannah, chwaer Richard Crawshay, Cyfarthfa. Yn fachgen ieuanc aeth o swydd Efrog i Ferthyr Tydfil i chwilio am ei ewythr cyfoethog. Trwy weithio'n galed llwyddodd i ddyfod i wybod llawer am y diwydiant haearn a glo. Daeth ei frawd iau, CRAWSHAY BAILEY, ato, a bu i'r ddeufrawd ennill ffafr eu hewythr, a adawodd gyfran chwarter yng ngwaith Cyfarthfa i Joseph. Chwiliodd hwnnw am ardal lle y gallai sefydlu gwaith haearn drosto'i hun gan fod ei gefnder, William Crawshay I, yn awyddus i gael Cyfarthfa iddo'i hun yn gyfan gwbl ac wedi dewis ei fab, William Crawshay II, yn bennaeth ar y gwaith.
Yn Ionawr 1813 gwerthodd Joseph Bailey ei gyfran yng ngwaith Cyfarthfa am £20,000, a phrynodd, gyda Matthew Wayne, waith Nantyglo, lle ag iddo lawer o fanteision naturiol. Adnewyddwyd y gwaith ac mewn ychydig bach o amser yr oeddid yn llwytho haearn ar gychod mawr ar y Monmouthshire Canal. Aeth cynnyrch y gwaith ar gynnydd o flwyddyn i flwyddyn a hyd yn oed yn 1816, wedi i'r rhyfel Napoleonaidd ddod i ben, a phan oedd llai o alw am haearn, gwaith Nantyglo yn unig a lwyddodd i gynyddu ei allforion. Ni wyddys a oedd Crawshay Bailey yn helpu ei frawd ai peidio, ond fe wyddys i Wayne drosglwyddo ei gyfran ef i'r brawd ieuengaf yn 1820. Cyn bo hir yr oedd y brodyr wedi llwyddo i wneud gwaith Nantyglo yn un o'r rhai pwysicaf yn y deyrnas. Yn 1823 yr oedd ganddynt bum ffwrnais ar waith, ac yn 1826-7 ychwanegwyd dwy arall. Llwyddasant hefyd i brynu gwaith haearn Beaufort, a oedd gerllaw, gan y Mri. Kendall and Co. (17 Ionawr 1833) am £45,000.
Ar 27 Mai 1827 collodd Joseph ei wraig gyntaf, sef Maria, merch Joseph Latham, Llangattock, sir Frycheiniog.
Ac yntau wedi gwneud arian mawr, rhoes Joseph ei fryd ar brynu ystadau yn siroedd Brycheiniog, Maesyfed, Henffordd, a Morgannwg; yn eu plith yr oedd Glanusk Park, sir Frycheiniog, lle y bu'n byw am weddill ei oes. O 1830 ymlaen ei frawd Crawshay Bailey oedd yn gofalu am y gwaith.
Ar 19 Awst 1830 priododd ei ail wraig, Mary Ann, merch J. T. H. Hopper, Wilton Castle, swydd Durham. Bu'n siryf sir Fynwy (1823), ac yn 1835 (8 Ionawr) fe'i dewiswyd yn aelod seneddol dros ddinas Worcester, a gynrychiolodd hyd 1847 (2 Awst), pryd yr etholwyd ef dros sir Frycheiniog. Cafodd ei wneud yn farwnig yn 1852.
Dewiswyd ef yn 1837 (12 Rhagfyr) yn aelod seneddol dros Sudbury, swydd Suffolk. Fe'i dewiswyd i gynrychioli swydd Henffordd yn 1841, a pharhaodd yn aelod hyd ei farw yn 1850 (sef o flaen ei dad).
Dilynwyd Joseph Bailey I fel barwnig ac yn ystad Glanusk gan ei wyr, Syr JOSEPH RUSSELL BAILEY (1840 - 1906), yr ail farwnig; gwnaethpwyd ef yn farwn Glanusk yn 1899. Gwnaeth ychwanegiadau pwysig at Hist. of Brecknocks (Theophilus Jones). Dilynwyd yntau gan ei fab, Syr JOSEPH HENRY RUSSELL BAILEY (1864 - 1928), ail farwn Glanusk.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.