BARKER (TEULU), Pontypwl a Bath, arlunwyr

BENJAMIN BARKER (bu farw 1774?), paentiwr mewn enamel yng ngwaith 'japan' Pontypwl

Yn ôl cofrestr eglwys Trevethin (yn cael ei dyfynnu gan Syr Joseph A. Bradney) talwyd iddo chwe gini am baentio peisarfau'r brenin. Y mae enghreifftiau o'i waith ar 'japan' yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru. Daeth dau o'i feibion - THOMAS BARKER, Bath, a BENJAMIN BARKER II - yn arlunwyr pur enwog; yr oedd ei wyrion THOMAS JONES BARKER a JOHN JONES BARKER, meibion ei fab Thomas Barker, Bath, yn baentwyr hefyd.

THOMAS BARKER (1769 - 1847), arlunydd

Mab Benjamin Barker, Pontypwl; ganwyd yn Trosnant, Pontypwl, yn 1769. Dangosodd dalent arlunydd yn gynnar yn ei oes, ac ymsefydlodd yn Sion Hill House, Bath, lle y daeth yn boblogaidd. Aeth i Rufain yn 1790 ac aros yno dair blynedd. Ceir enghreifftiau o'i waith, ' Woodman and his dog in a storm ' a ' Landscape ' yn y National Gallery, Llundain. Bu'n dangos ei waith yn y Royal Academy - yr oedd yn R.A. - ac mewn orielau eraill yn Llundain. Bu farw 11 Rhagfyr 1847.

Brawd iddo oedd

BENJAMIN BARKER II (1776 - 1838), arlunydd

Mab Benjamin Barker I. Ganwyd yn Pontypwl. Ymysg ei weithiau y mae 'Brecon Town and Bridge' a 'Road leading to Pont Aberglaslyn.' Cyhoeddwyd 48 o'i weithiau wedi eu hysgythru gan Thales Fielding mewn aquatint. Bu'n dangos ei waith yn y Royal Academy ac orielau eraill yn Llundain. Bu farw 2 Mawrth 1838 yn Totnes.

Mab i Thomas Barker 'o Bath ' oedd

THOMAS JONES BARKER (1815 - 1882), arlunydd

(yr oedd ei fam yn Jones, o sir Fynwy). Yn 19 oed aeth i stiwdio Horace Vernet, Paris; bu'n cydweithio â'r arlunydd hwnnw'n ddiweddarach ar amryw ddarluniau. Dyma rai o'i weithiau - darluniau o Benjamin Disraeli, y Cadfridog Nelson, 'General Williams and staff leaving Kass,' 'Napoleon at Bassano' (yn Manchester), 'Lord Clyde's relief of Lucknow' (yn Glasgow), 'The intellect and valour of Great Britain' (yn y British Museum), 'The Allied Generals before Sebastopol.' Bu'n arddangos yn y Royal Academy ac orielau eraill. Bu farw 27 Mawrth 1882.

Awdur

Ffynonellau

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.