BARKER, THOMAS WILLIAM (1861 - 1912), cofrestrydd esgobaeth Tyddewi

Enw: Thomas William Barker
Dyddiad geni: 1861
Dyddiad marw: 1912
Rhiant: J.H. Barker
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cofrestrydd esgobaeth Tyddewi
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Griffith Milwyn Griffiths

Ganwyd 12 Mai 1861 yng Nghaerfyrddin, mab J. H. Barker, cyfreithiwr lleol a fu ei hun yn glerc bwrdeisdref Caerfyrddin a chofrestrydd esgobaeth Tyddewi. Addysgwyd ef yn Ysgol Ramadeg y Frenhines Elisabeth yng Nghaerfyrddin ac yn Harrow. Ymsefydlodd fel cyfreithiwr, a daeth yn aelod o gwmni Barker, Morris, a Barker gyda'i dad fel prif aelod.

Apwyntiwyd ef yn ysgrifennydd i esgob Tyddewi ym Mehefin 1897 ac yn gofrestrydd yr esgobaeth yn Chwefror 1899, swydd a lanwodd hyd ei farw. Yn wleidyddol yr oedd yn Geidwadwr. Ymddiddorai ym myd natur a hynafiaethau. Cymerai ran flaenllaw mewn mudiadau lleol - milwrol, ieuenctid, etc. Crynhodd lawlyfr Saesneg, A Handbook to the Natural History of Carmarthenshire, a gyhoeddwyd yn 1905, a hefyd Particulars relating to the endowments, etc., of livings in the diocese of S. Davids, a gyhoeddwyd yn 1907 mewn pedair cyfrol, un am bob archddiaconaeth yn yr esgobaeth. Ynghyd a Francis Green crynhodd restrau o offeiriadon Sir Benfro - rhestrau a gyhoeddwyd yn ddiweddarach yn West Wales Historical Records. i-vi, 1912-6. Bu farw 7 Gorffennaf 1912.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.