Ganwyd yn swydd Essex, yn fab i John a Christian Barlow. Bu'n ganon Awstinaidd yn S. Osyth, Essex, ac yn Rhydychen, lle y dywedir iddo raddio'n ddoethur mewn diwinyddiaeth. Ar ôl bod yn brior tri thy bychan, Blackmore, Tiptree, a Lees, daeth yn brior Bromehill yn 1524, hyd ddiddymiad y ty hwnnw gan Wolsey yn 1528. Y mae cwrs ei yrfa, 1528-1534, yn dywyll. Hwyrach ei fod yn gennad diplomatig dros y brenin, neu y mae'n bosibl mai ef oedd y brawd Jerome Barlow, awdur The Burial of the Mass, A Dialogue between a Gentleman and a Husbandman, a phamffledi gwrthbabyddol eraill, er iddo ddatgyffesu, a chyhoeddi yn 1531 y Dialogue … of These Lutheran Factions (ailargraffwyd yn 1553) yn erbyn y Lutheriaid.
Trwy ffafr Anne Boleyn, daeth yn brior Hwlffordd yn 1534, ac oddi yno cwynai'n arw wrth Cromwell rhag gelyniaeth leol yn erbyn diwygiad. Symudwyd ef i Bisham yn 1535 a'i anfon i'r Alban yn gennad dros y brenin. Etholwyd ef yn esgob Llanelwy, Ionawr 1536, ond symudwyd ef i Dyddewi yn ddioed. Nid oes cofnod o'i gysegriad. Bu cynnen frwd rhyngddo a'i gabidwl ar bynciau ffydd a disgyblaeth. Ni allodd fynd â'i eglwys gadeiriol i Gaerfyrddin na sefydlu ysgol ramadeg yno, ond llwyddodd i sefydlu Coleg Crist, Aberhonddu, yn 1542. Trosglwyddodd faenor werthfawr Llantyfai (Lamphey) i'r brenin, a'i cyflwynodd yn ei dro i Sir Richard Devereux, bu farw Awst 1568.
Symudwyd Barlow i esgobaeth Caerfaddon yn 1548, ac 'ymddiswyddodd' yn 1553. Ar ôl cael ei garcharu ddwywaith am geisio dianc, ffôdd i'r Cyfandir yn gynnar yn 1555, a thariodd yn yr Almaen a Phwyl hyd 1558. Bu iddo ran yng nghysegriad Parker, a daeth yn esgob Chichester, lle y bu farw yn 1568. Gadawodd ddau fab ar ei ôl, a phum merch, â phob yr un o'r merched yn briod ag esgob.
Ei frawd, a seiliodd deulu enwog Slebech. Yr oedd yn farsiandiwr ac yn forwr o fri. Yn 1546 prynodd ef a'i frawd THOMAS BARLOW, rheithor Catfield yn Norfolk, diroedd ysbyty Slebech, a thiroedd priordy Hwlffordd, a thy'r Brodyr Duon yno. Bu Roger Barlow wedyn yn ustus heddwch ac yn 'vice-admiral' yn y sir.
Brawd arall, a raddiodd yn M.A. o Rydychen yn 1521, ac a fu ar ôl hynny'n ddiplomat. Penodwyd ef yn archddiacon Westbury-on-Trym, ac yn ddiweddarach yn ddeon Caerwrangon. Bu'n effro iawn yn y Deheudir, yn enwedig pan oedd William Barlow yn esgob Tyddewi.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.