BARNWELL, EDWARD LOWRY (1813 - 1887), hynafiaethydd ac ysgolfeistr

Enw: Edward Lowry Barnwell
Dyddiad geni: 1813
Dyddiad marw: 1887
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: hynafiaethydd ac ysgolfeistr
Maes gweithgaredd: Addysg; Hanes a Diwylliant
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd yn Bath. Graddiodd o Goleg Iesu Rhydychen yn 1843, gydag anrhydedd (dosbarth blaenaf) mewn mathemateg; ordeiniwyd ef; ac yn 1839 etholwyd ef yn brifathro ysgol Rhuthyn.

Yr oedd yn aelod blaenllaw o Gymdeithas Hynafiaethol Cymru o'i chychwyn, yn ysgrifennydd iddi o 1854 hyd 1875, ac yn olygydd ei chylchgrawn o bryd i bryd - cyhoeddodd ynddo gyfres faith o ysgrifau (rhestr yn Archæologia Cambrensis, Hydref 1887 , a hefyd yn Williams, Llyfryddiaeth Sir Ddinbych, Rhan 3). Ymneilltuodd o Ruthyn yn 1865, ac aeth i fyw i Melksham House, Wiltshire, lle y bu farw ar y 9fed Awst 1887 yn 77 oed. Yr oedd yn briod, a chanddo fab a merch.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.