Ganwyd yn Llundain, mab Thomas Barrett - ei fam yn Gymraes (Mary Lewis) o Ddinas Mawddwy, lle dygwyd y teulu i fyny. Yr oedd y tad yn chwaraewr medrus ar y ffidil, a'i frawd Thomas yn gerddor ac arweinydd corawl llwyddiannus. Cafodd William wersi ar y feiolin yn blentyn a dysgodd ganu'r ffliwt. Prentisiwyd ef yn fasnachwr yn yr Old Change, S. Paul's, Llundain.
Rhoddodd ei hunan dan hyfforddiant Rockstro ar y ffliwt, a daeth i sylw yn fuan. Yn 1868 penodwyd ef yn ffliwtydd i'r Opera Italaidd, Lutz; am ddeuddeng mlynedd chwaraeodd dan Syr Michael Costa ym mherfformiadau y Sacred Harmonic Society. Bu gyda'r Carl Rosa Company am saith mlynedd, a chymerai ran ym mherfformiadau Cymdeithas y Philharmonic a'r ' Bach Choir.' Efe a fu yn brif ganwr ffliwt gwyliau cerddorol ' Y Tri Chôr ' yn Birmingham a Leeds, a chyngherddau Herschell a Richter, a bu'n canu i'r frenhines Victoria yn Balmoral a Windsor. Bu ar daith gerddorol yn Canada a'r Unol Daleithiau gyda Madame Albani. Yn 1883 penodwyd ef yn athro ar y ffliwt yn y Coleg Cerddorol Brenhinol, a daliodd y swydd hyd 1910. Ystyrid ef yn artist o fri ac yn brif ganwr ffliwt y deyrnas. Bu farw 10 Ionawr 1927 yn y Savage Club, Llundain, a'i gladdu yn Kensal Rise.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.