BELL, RICHARD (1859 - 1930), aelod seneddol ac arweinydd undebau llafur

Enw: Richard Bell
Dyddiad geni: 1859
Dyddiad marw: 1930
Rhiant: Mary Bell
Rhiant: Charles Bell
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: aelod seneddol ac arweinydd undebau llafur
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes; Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol
Awdur: Huw Morris-Jones

Ganwyd 29 Tachwedd 1859 ym Mhenderyn, sir Frycheiniog, mab Charles a Mary Bell. Sgotiaid oedd ei daid a'i nain ar ochr ei dad, a ddaeth o Lincoln i'r Pantmawr yn Ystradfellte; tua'r flwyddyn 1860 gadawodd ei dad y chwarel ac ymunodd a heddlu Morgannwg. Symudodd i Ferthyr Tydfil ac yno y cafodd Richard Bell ei addysg gynnar a phrin. Am dymor cafodd waith yn swyddfa gwaith dur Cyfarthfa, ond yn 1876 aeth i weithio gyda chwmni'r rheilffordd yn Pontypool Road, ac yno yr ymunodd a Chymdeithas Unedig Gweision y Rheilffyrdd. Yn 1886 symudwyd ef i Abertawe; ffurfiodd yno gangen o'r gymdeithas ac yn 1897 penodwyd ef yn ysgrifennydd cyffredinol.

Digwyddodd dau beth o gryn bwysigrwydd yn ystod ei ysgrifenyddiaeth. Y cyntaf oedd streic y Taff Vale yn 1900. Daeth y cwmni ag achos cyfreithiol yn erbyn yr undeb a chafodd iawndal o £23,000. Canlyniad hyn fu newid cyfraith y wlad ynglŷn ag undebau llafur, fel na byddent mwyach yn gyfrifol am weithredoedd eu haelodau. Yr ail oedd achos cyfreithiol enwog ynglŷn a gŵr o'r enw Osborne. Yr oedd hwn yn ysgrifennydd cangen o'r undeb, a gwadodd hawl yr undeb i godi tâl ar yr aelodau at bwrpas politicaidd. Aethpwyd â'r achos i Dŷ'r Arglwyddi a'i benderfynu yn erbyn yr undeb. Canlyniad hyn eto oedd newid y gyfraith yn 1913 a chaniatáu i'r undebau godi toll wleidyddol.

Prif bwysigrwydd Bell oedd ei wrthwynebiad i'r rhai a geisiai sefydlu Plaid Lafur annibynnol. Yn 1900 etholwyd ef yn aelod seneddol dros Fwrdeisdref Derby - y gweithiwr rheilffordd cyntaf i'w ethol i'r Senedd. Yr oedd yn un o'r pedwar cynrychiolydd undebol ar y pwyllgor a dynnodd allan gyfansoddiad i'r 'Labour Representation Committee.' Pan sefydlwyd hwnnw yn 1901 daeth Bell yn drysorydd iddo, a'i gadeirydd yn 1902-3. Serch hyn i gyd, gwrthwynebodd fabwysiadu gwelliant i'r cyfansoddiad yng nghynhadledd Newcastle, yn 1903, a geisiodd sefydlu Plaid Lafur annibynnol.

Yn 1904 penodwyd Bell yn llywydd Cynhadledd yr Undebau Llafur. Yn 1906 ailetholwyd ef fel aelod Llafur-Rhyddfrydol dros Derby, ond yn 1910 ymddiswyddodd a rhoes ei swydd gyda'r undeb i fyny ar yr un pryd. Cymerodd swydd weinyddol o dan y Bwrdd Masnach i drefnu swyddfeydd llafur yn gysylltiol â'r ddeddf; trosglwyddwyd hyn i'r Weinyddiaeth Lafur yn ddiweddarach. Yn 1907 gwnaed ef yn ustus heddwch yn sir Middlesex. Gweithredodd hefyd fel ysgrifennydd bwrdd Llundain o'r Cwmni Argraffu Cydweithredol. Yn 1922 etholwyd ef i gyngor dosbarth Southgate, a bu'n llywydd yn 1925-6.

Yr oedd yn Gymro trwyadl ac yn medru Cymraeg yn rhugl. Bu'n briod dair gwaith ac yn dad i wyth o blant. Bu farw 1 Mai 1930.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.