Ganwyd yn Llangynwyd, Sir Forgannwg, mab William a Gwenllian Bevan. Gan ei fod o deulu tlawd a heb ddysgu unrhyw grefft arbennig, dechreuodd weithio fel llafurwr achlysurol ar ffermydd. Pan tua 22-4 oed symudodd i Ystradfellte, sir Frycheiniog, lle y priododd Ann, merch Thomas Dafydd Ifan, cigydd. Symudodd drachefn i Bont Nedd Fechan, lle y bu farw Hydref 1866.
Dan yr enw barddonol ' Ianto'r Castell ' daeth yn adnabyddus yn ei gylch ei hun fel cyfansoddwr barddoniaeth o deip digrif neu ddychanol gan amlaf. Lleol ac achlysurol oedd ei destunau gan mwyaf. Ceir casgliad o'i waith yn N.L.W. MS. 1127.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/