Ganwyd yn Beaufort, sir Frycheiniog, 1 Mai 1821, mab William Hibbs Bevan, uchel siryf Brycheiniog. Addysgwyd ef yn Ysgol Rugby a Choleg Balliol, Rhydychen; symudodd i Goleg Hertford ar ei ethol yn ysgolor. Graddiodd yn 1842 yn y clasuron (dosbarth II) a'i urddo'n ddiacon gan esgob Llundain yn 1844. Ar ôl blwyddyn yn gurad S. Philip, Stepney, urddwyd ef yn offeiriad yn 1845 a'i benodi'n ficer y Gelli (Hay). Bu yno am 56 mlynedd. Bu'n brebendari Llanddewi Aberarth yn eglwys gadeiriol Tyddewi 1876-9 ac yn ganon 1879-1903. Codwyd ef yn archddiacon Brycheiniog yn 1895 a bu'n gaplan arholi i esgob Tyddewi 1881-1897. Priododd Louisa, merch T. Dew, Whitney Court, ger y Gelli, a bu farw 24 Awst 1908, a'i gladdu yn y Gelli. Ymhlith pethau eraill ysgrifennodd hanes esgobaeth Tyddewi (1888) ynghyd â phamffledi er amddiffyn yr Eglwys a chyfraniadau i eiriadur Beiblaidd Smith, llawlyfrau daearyddol, a (gyda'r Canon H. W. Phillott) hanes y ' Mappa Mundi ' ym mhrifeglwys Henffordd.
Pedwerydd mab William Latham Bevan, ac esgob cyntaf Abertawe ac Aberhonddu. Ganwyd yn Weymouth, 27 Hydref 1861. Addysgwyd ef gartref ac yng Ngholeg Hertford, Rhydychen, lle y graddiodd yn B.A. yn 1884. Wedi ei urddo'n ddiacon yn 1886 ac yn offeiriad yn 1887, bu'n gurad yn Weymouth, ac yna aeth yn gaplan i'r Gordon Boys' Home yn Woking yn 1891. Daeth yn ficer Aberhonddu yn 1897, a dilyn ei dad yn archddiacon yn 1907. Daliodd y swydd hon, a bu'n brebendari Llanfaes yn eglwys gadeiriol Tyddewi, hyd 1923; cysegrwyd ef yn esgob (cynorthwyol) Abertawe yn 1915 a'i benodi'n esgob cyntaf yr esgobaeth newydd yn 1923. Rhoddodd lawer o'i amser a'i eiddo er cyfoethogi ei gadeirlan yn Aberhonddu a'i harddu (yr oedd yn ddeon yn ogystal ag yn esgob), a chofir ef yn arbennig am ei waith dros ddynion a bechgyn. Bu farw yn Weymouth, 2 Chwefror 1934, a'i gladdu dan gysgod yr eglwys gadeiriol yn Aberhonddu.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.