BEVAN, LLYWELYN (1661 - 1723), gweinidog Annibynnol

Enw: Llywelyn Bevan
Dyddiad geni: 1661
Dyddiad marw: 1723
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog Annibynnol
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: John Dyfnallt Owen

Ganwyd yn Cwmllynfell, 1661. Etholwyd ef yn ' teaching elder ' ac i wasanaeth y weinidogaeth yng Nghilfwnwr 28 Medi 1697. Gŵr deheulaw Lewis Davies am amryw flynyddoedd. Ordeiniwyd ef yn weinidog Cwmllynfell a Gellionnen 17 Tachwedd 1697. Rhoddwyd gollyngdod iddo o Dirdwncyn i ofalu am y ddwy eglwys 14 Ionawr 1701. Adeiladodd eglwys Annibynnol gref yng Nghwmllynfell, a gwasanaethai i gylch eang. Calfin cymedrol ydoedd yn ei ddiwinyddiaeth, efengylaidd yn ei bregethu, a gwerinwr yn ei syniad am natur a threfn eglwys. Arwyddodd ei ewyllys 7 Chwefror 1722/3.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.