Enwyd ef yn un o'r 25 profwyr o dan Ddeddf Taenu'r Efengyl yng Nghymru (1649-52); erys profion cyfoes iddo dderbyn £138 am y gwaith hwn yn 1650 (a rhan o 1649), £75 am 1651, a dau daliad o £50 yn 1652; y mae prawf hefyd iddo ddangos cryn ddiddordeb yn yr ysgol Biwritanaidd a sefydlwyd yn Abertawe. Gan nad adnewyddwyd y Ddeddf honno yn 1653, penodwyd ef yn weinidog sefydlog ar gynulleidfa Eglwys Fair yn yr un dref. Yno yn 1658 y digwyddodd yr ymgiprys hyll rhyngddo ef a John ap John y Crynwr; pan ofynnodd y Crynwr yn gecrus oni chydnabyddai Bidwell ei fod ef (ap John) yn wir bregethwr y Gair, cafodd fel ateb ergyd chwyrn yn ei wyneb. Bu Bidwell farw cyn 1660, ac yr oedd y fath wrthwynebiad gan frenhinwr o'r enw Richard Seys i'w gorff orwedd yng nghangell yr Eglwys Fair fel y meiddiodd geisio rhwystro hynny gyda'r cleddyf, ond, medd yr hanes, trowyd ef ymaith gan y 'penboethiaid' a'i daflu i garchar.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.