Mab Peter a Mary Blackwell, Ponterwyl, yr Wyddgrug. Ni chafodd ddim addysg ffurfiol yn blentyn, ac yn 11 oed prentisiwyd ef yn grydd gyda William Kirkham, gwr a ymddiddorai mewn barddoniaeth. Darllenodd lawer yn Gymraeg a Saesneg, a dechreuodd ddilyn cymdeithasau Cymreigyddion a chystadlu mewn eisteddfodau. Enillodd mewn eisteddfod yn yr Wyddgrug yn 1823 am awdl ar ' Maes Garmon,' ac yn Rhuthyn yr un flwyddyn ar awdl ar ' Genedigaeth Iorwerth II.' Enillodd hefyd ar draethodau, a thua'r un adeg ysgrifennodd rai llythyrau i'r Gwyliedydd. Dug hyn ef i sylw boneddigion ac offeiriaid, a chodwyd arian i dalu am addysg iddo.
Yn Ionawr 1824 aeth i Aberriw at Thomas Richards i'w baratoi at fyned i brifysgol, ac ym mis Rhagfyr yr un flwyddyn aeth i Goleg Iesu Rhydychen; graddiodd yn 1828. Yn ystod ei gyfnod yn Rhydychen daliodd i gystadlu rhywfaint - gwobrwywyd ei farwnad i'r esgob Heber yn eisteddfod Dinbych yn 1828, a darllenodd bopeth y medrai gael gafael arno yn llyfrgell Bodley a llyfrgell ei goleg ar hanes Cymru a'i llenyddiaeth. Yn 1829 urddwyd ef yn gurad Holywell, ac yn 1833 fe'i penodwyd yn rheithor Maenordeifi. Bu'n olygydd Y Cylchgrawn, a gyhoeddid o dan nawdd y Gymdeithas er Taenu Gwybodaeth Gristionogol, am y flwyddyn a hanner y bu'r cyhoeddiad hwnnw byw, 1834-1835.
Yn 1839 priododd Matilda Dear, Pistyll, ger Holywell. Bu farw 19 Mai 1840, ac y mae tabled marmor er cof amdano ar fur eglwys Maenordeifi.
Ei weithiau mwyaf arbennig fel bardd yw ei gerddi rhydd, ' Rhywun,' ' Cerdd Hela,' ' Cathl i'r Eos,' ' Cân Gwraig y Pysgotwr,' ac ' Abaty Tintern ' (cyfaddasiad o gân Saesneg, oll ond y pedair llinell olaf). Yn y rhain gwelir blaenffrwyth y canu telynegol a gynhyrchwyd gan y mudiad rhamantaidd.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/