Ceir son amdano yn ' Liber Landavensis ' yn unig. Dywedir yno iddo gael ei ddewis yn 983 gan feibion Morgan Hen (bu farw 974) a thywysogion eraill, gyda chlerigwyr a phobl yr esgobaeth yn cydsynio, a chael (yn ddiweddarach, y mae'n ddiau) gadarnhad Elfric, archesgob Caergaint. Un digwyddiad a groniclir yn ystod yr holl amser maith y bu'n esgob - mewn ymgyrch rhwng ei wyr ef a gwyr Edwin, brenin Gwent, fe'i clwyfwyd pan oedd yn ceisio cyfamodi rhwng y ddwy blaid; ysgymunwyd y brenin a'i filwyr ar unwaith gan synod a gosodwyd y tir o dan waharddiad. Cafwyd heddwch o'r diwedd ar delerau a gynhwysai roddi i Landaf dref fechan frenhinol y tybir mai Undy ydoedd.
Yn ' Brut Gwent ' rhydd Edward Williams ('Iolo Morganwg') glod fel ysgolhaig iddo a'i alw 'Y Doeth'; rhydd hefyd hanes gorchmynion Bledri ynglyn a sefydlu ysgolion ym mhob plwyf yn yr esgobaeth, a bu i fywgraffwyr diweddarach gopïo heb betruster yr holl ffugiadau hyn.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.