BOWEN, D. E. (fl. 1840-1880), golygydd, awdur, a gweinidog gyda'r Bedyddwyr yn U.D.A.

Enw: D. E. Bowen
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: golygydd, awdur, a gweinidog gyda'r Bedyddwyr yn U.D.A.
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Argraffu a Chyhoeddi
Awdur: Robert (Bob) Owen

Ganwyd yn sir Forgannwg, eithr ymfudodd i U.D.A. pan oedd yn ieuanc. Bu'n weinidog gyda'r Bedyddwyr Cymreig yn Carbondale, Pennsylvania, am gyfnod. Daeth i amlygrwydd fel golygydd Y Gwyliedydd (1843), cylchgrawn cyntaf Bedyddwyr Cymraeg U.D.A., a'i olynydd Y Seren Orllewinol (1844). Y mae'n bosibl mai efe hefyd a oedd yn gyfrifol am Y Beread (1841), cylchgrawn pythefnosol at wasanaeth y Bedyddwyr. Cyhoeddodd The Berean; or Miscellaneous Writings of the Reverend D. E. Bowen, Carbondale, Pa. (Carbondale, d.d.), a Lecture on the Life and Genius of the Reverend John Williams, Senior Pastor of the Oliver Street Baptist Church, New York (New York, d.d.).

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.