Ganwyd ym Mhenybont-ar-Ogwr, mab J. Bowen Jones, gweinidog eglwys Annibynnol yn Aberhonddu. Ar ôl gadael yr ysgol bu am dymor mewn banc yn Llundain; o fis Medi 1883 ymlaen dewisodd gael ei gyfenwi'n Bowen. Derbyniwyd ef gan Gray's Inn yn efrydydd y gyfraith (3 Tachwedd 1886); fe'i galwyd i'r Bar (3 Gorffennaf 1889), ac am rai blynyddoedd bu'n gwasanaethu fel bargyfreithiwr yng Nghaerdydd yng nghylchdaith De Cymru, lle y daliai'r swydd (1905-12) o fargyfreithiwr yn prisio. Fe'i gwnaethpwyd yn K.C. yn 1912 ac fe'i dewiswyd yn ' Bencher ' yn Gray's Inn. Bu'n gofiadur Merthyr Tydfil (1914-5) ac Abertawe (1915-8); fe'i gwnaethpwyd yn ynad cyflog y llys sirol (eto yng nghylchdaith y De), a daeth yn drysorydd Gray's Inn yn 1923.
Enillodd wobr yn eisteddfod Aberhonddu, 1889, am draethawd yn ymwneud â hanes sir Frycheiniog. Cyhoeddodd The Statutes of Wales, 1908, The Great Enclosures of Common Lands in Wales, 1914, ' John Williams of Gloddaeth, Lord Keeper of the Great Seal of England ' (yn 00579Trans. Cymm. , 1927-8), a ' Justices of the Peace and Quarter Sessions in Wales ' (yn 00579Trans. Cymm. , 1933-4). Ysgrifennodd hefyd, eithr heb ei gyhoeddi, ' The King's Court of Great Sessions.'
Yn ystod rhyfel 1914-8 bu'n helpu i godi dwy fataliwn - y 15fed a'r 18fed o'r Royal Welch Fusiliers; fe'i gwnaethpwyd yn gyrnol y 18fed, ac y mae tabled yn Gray's Inn yn coffau codi'r bataliynau. Bu farw 2 Ionawr 1934.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.