Ganwyd yn Onllwyn, ger Castell Nedd, ar yr 11 Tachwedd 1848. Prin oedd ei fanteision bore oes. Dechreuodd bregethu yn Onllwyn. Bu'n fyfyriwr yn athrofa ogleddol yr Annibynwyr, Bala, 1866-9. Urddwyd ef yn Rhosymedre, sir Ddinbych, 24 Hydref 1870. Symudodd i Bantycrwys, Cwmtawe, yn 1872, a bugeilio'r praidd yn Felindre, a Bethel, Llantwrch, am dymor. Symudodd i Fethel, Aberdâr, 1878.
Ymroes yn ifanc i'w ddiwyllio'i hun. Rhoddes sylw mawr i arddull goeth yn ei bregethau. Daeth yn amlwg fel bardd eisteddfodol llwyddiannus. Rhagorodd yn arbennig yn ei ddawn i ganu marwnadau, nes ennill yr enw 'prif farwnadwr ei gyfnod.' Cyhoeddodd Cerddi Onllwyn, 1888, a rhieingerdd, Rachel, yn 1890. Bu farw 28 Mehefin 1891.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.