Hanoedd o blwyf Llandinam a dechreuodd ei yrfa trwy gadw ysgol yn y Dolau, Maesyfed, lle hefyd y'i bedyddiwyd (1793). Symudodd i gadw ysgol ym Mhenrhyncoch, ger Aberystwyth, 1794, a dechreuodd bregethu yn 1795. Urddwyd ef 12 Mehefin 1803 i fod yn un o ddau i ofalu am Fedyddwyr cylch Aberystwyth, ond symudodd i Gastellnewydd Emlyn fis Mawrth 1812. Bu farw 28 Medi 1812, a chladdwyd ef yng Nghilfowyr.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.