BRERETON, ANDREW (neu HENRY) JONES (' Andreas o Fôn '; 1827 - 1885), llenor
Enw: Andrew (neu Henry) Jones Brereton
Ffugenw: Andreas o Fôn
Dyddiad geni: 1827
Dyddiad marw: 1885
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: llenor
Maes gweithgaredd: Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Robert Thomas Jenkins
Ganed 11 Medi 1827 yn Lerpwl, a bu mewn busnes yno ac wedyn yn yr Wyddgrug fel bragwr. Sgrifennai i'r cylchgronau, dilynai'r eisteddfod, ac efo a olygodd gyfrol cyfansoddiadau eisteddfod Cymreigyddion yr Wyddgrug (1851). Yn 1878 cynigiwyd tysteb genedlaethol iddo, eithr mynnodd yn hytrach i'r arian gael eu rhoi i Goleg Aberystwyth at ysgoloriaeth.
Awdur
- Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, (1881 - 1969)
Ffynonellau
-
Eminent Welshmen: a short biographical dictionary of Welshmen... from the earliest times to the present (1908), a'r cyfeiriadau yno
Darllen Pellach
- Erthygl Wicipedia: Andrew Jones Brereton
Dolenni Ychwanegol
- Wikidata: Q20561073
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/