BRERETON, JANE (1685 - 1740), bardd

Enw: Jane Brereton
Dyddiad geni: 1685
Dyddiad marw: 1740
Priod: Thomas Brereton
Rhiant: Anne Hughes
Rhiant: Thomas Hughes
Rhyw: Benyw
Galwedigaeth: bardd
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth
Awdur: Griffith Milwyn Griffiths

Merch Thomas ac Anne Hughes, Bryn Griffith, gerllaw'r Wyddgrug. Yn 1711 priododd Thomas Brereton (1691 - 1722), un o fân ddramawyr ei gyfnod. Ar farwolaeth ei gŵr yn 1722 dywedir iddi ymsefydlu yn Wrecsam, lle y bu farw fis Awst 1740 gan adael dwy ferch.

Dangosodd ddeheurwydd mewn cyfansoddi barddoniaeth Saesneg a dechreuodd gyfrannu i'r Gentleman's Magazine dan y ffugenw ' Melissa.' Ar ôl ei marw cyhoeddwyd cyfrol a'i gwaith dan y teitl Poems on several occasions, with letters to her friends and an account of her life (London, 1744).

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.