Yr awdurdod hynaf am ei hanes yw 'buchedd' a ysgrifennwyd yn yr 11eg ganrif - traethawd y perthyn iddo werth llenyddol nid bychan. Dywedir yno mai'r ffurf wreiddiol ar enw'r sant oedd Briomaglus a'i fod yn frodor o Corotica - sef Ceredigion. Dywedir hefyd i'w dad, Cerp, a'i fam, Eldruda, adael eu crefydd baganaidd a chofleidio Cristnogaeth mewn canlyniad i weledigaeth a ddatguddiwyd iddynt gan angel cyn geni eu plentyn.
Danfonodd ei rieni ef pan oedd yn ddyn ieuanc i Baris, lle y meithrinwyd ac yr addysgwyd ef gan yr esgob Garmon. Yno cyflawnodd lawer o wyrthiau, ac ordeiniwyd ef yn offeiriad. Pan yn 25 oed dychwelodd Briog i'w fro enedigol yng Ngheredigion gan gynorthwyo i droi'r bobl yn ôl at Gristnogaeth. Pan ymadawodd â Chymru ymhen rhai blynyddoedd, aeth Briog dros y môr i Lydaw lle y sefydlodd fynachlog mewn lle o'r enw Tréguier. Ni ddaeth i Gymru eto ond unwaith, a hynny mewn ateb i gais a wnaed iddo i waredu ei hen fro o dwymyn. Wedi dychwelyd i Lydaw, sefydlodd ei brif fynachdy a ddaeth wedi hynny yn gadair esgobaeth St. Brieuc. Y mae'r manylion a geir ym 'muchedd' Briog Sant yn tystio i'r duedd eglur a oedd yn y seintiau Celtig i deithio oddi amgylch, ac yn darlunio mor agos oedd y berthynas rhwng y rhanbarthau Celtig a'i gilydd.
Briog yw nawddsant Llandyfriog yn ne sir Aberteifi, a chlywir adlais o'i enw hefyd mewn enwau lleoedd yn sir Gaerloyw, Cernyw, a Llydaw. Dethlir gŵyl y sant hwn yn gyffredin ar galan Mai.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.