BRYAN, ROBERT (1858 - 1920), bardd a cherddor

Enw: Robert Bryan
Dyddiad geni: 1858
Dyddiad marw: 1920
Rhiant: Elinor Bryan
Rhiant: Edward Bryan
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd a cherddor
Maes gweithgaredd: Cerddoriaeth; Barddoniaeth
Awduron: Edward Morgan Humphreys, Robert Thomas Jenkins

Ganwyd 6 Medi 1858 yn Camddwr, Llanarmon yn Ial, sir Ddinbych, mab Edward ac Elinor Bryan. Bu'n ddisgybl ac yn ddisgybl-athro yn Ysgol Frutanaidd Wrecsam. Aeth i Goleg Normal Bangor ac oddi yno yn athro i'r Tŷ-gwyn-ar-Daf, Corwen, a Thalsarn, Sir Gaernarfon. Bu am dymor yng Ngholeg Aberystwyth ac aeth oddi yno i Rydychen, ond cyn cymryd ei arholiadau terfynol am raddau B.A. a Mus. Bac. yn 1893 torrodd ei iechyd a bu'n rhaid iddo ymneilltuo i Wrecsam a Marchwiel, lle bu'n byw hyd 1903. Yn y flwyddyn honno symudodd i Gaernarfon i fyw ond byddai fel rheol yn treulio ei aeafau yn yr Aifft lle'r oedd ei frodyr, Edward a Joseph, mewn masnach. Cyhoeddodd gyfrol o'i farddoniaeth, Odlau Cân, yn 1901, a chyhoeddwyd cyfrol arall, Tua'r Wawr yn 1921, flwyddyn ar ol ei farwolaeth. Cyfansoddodd gryn lawer o gerddoriaeth; efallai mai ei rangan i gorau meibion, ' Y Teithiwr Blin,' yw y darn mwyaf adnabyddus o'i waith. Golygodd Alawon y Celt (d.d.), dau ddetholiad o geinciau'r cenhedloedd Celtaidd. Bu farw yn Cairo 5 Mai 1920, a chladdwyd ef yno. Ni bu yn briod.

Haedda eraill o'r teulu hwn sylw. Yr hynaf o'r brodyr oedd JOHN DAVIES BRYAN (bu farw 13 Tachwedd 1888), a agorodd siop fechan yng Nghairo yn 1886; ymunwyd ag ef yn bur fuan gan yr ail frawd Joseph Davies Bryan, ac yn 1888 gan y trydydd, EDWARD DAVIES BRYAN (bu farw 1929). Llwyddasant yn hynod; agorasant siopau mawrion yng Nghairo ac Alexandria, a changhennau yn Port Said a Khartoum, a chymaint oedd ffydd y brodorion ynddynt fel y rhoddai'r Arabiaid symiau dirfawr o aur yn eu gofal, heb unrhyw sicrwydd mewn ysgrifen, yn hytrach na'u hymddiried i'r banciau. Caewyd y fusnes yn 1934.

Daeth JOSEPH DAVIES BRYAN (bu farw 1 Mawrth 1935 yn Alexandria yn 71 oed) yn aelod blaenllaw o Brydeinwyr yr Aifft; efô yn 1923-4 oedd llywydd y ' British Chamber of Commerce ' yno, a llywydd Prydeinwyr Alexandria yn yr un cyfnod. Bu'n fyfyriwr yng Ngholeg Aberystwyth, a daeth yn un o noddwyr haelaf y coleg - yn 1929 cyflwynodd iddo tua 85 erw o dir ar fryn uwchlaw'r dref, ar draul o bron £15,000, at godi adeiladau newyddion. Cafodd radd LL.D. gan Brifysgol Cymru yn 1933.

Cyhoeddwyd llythyrau John D. Bryan i'r Genedl Gymreig (1887) yn gyfrol, gan ei frawd Robert (O'r Aifft, Wrecsam, 1908), gyda byrgofiant. Cyhoeddodd Joseph ysgrifau yn The Bible in the World (1931).

Awduron

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.