BRYDGES, Syr HARFORD JONES (1764 - 1847), llysgennad cyntaf Prydain yn Persia, ac awdur

Enw: Harford Jones Brydges
Dyddiad geni: 1764
Dyddiad marw: 1847
Priod: Sarah Brydges (née Gott)
Rhiant: Winifred Jones (née Hooper)
Rhiant: Harford Jones
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: llysgennad cyntaf Prydain yn Persia, ac awdur
Maes gweithgaredd: Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol; Gwasanaethau Cyhoeddus a Chymdeithasol, Gweinyddiaeth Sifil
Awdur: William Llewelyn Davies

Ganwyd 12 Ionawr 1764, mab Harford Jones, Llanandras, sir Faesyfed, a'i wraig Winifred, merch Richard Hooper, The Whittern, sir Henffordd. Cymerodd y mab y cyfenw ychwanegol Brydges, trwy ganiatad swyddogol, 4 Mai 1826.

Gan y ceir hanes Harford Jones Brydges yn y D.N.B. nid oes eisiau ond cyfeirio'n fyr ato yma. Yn gynnar yn ei oes aeth i wasanaethu yr East India Company. Daeth yn hyddysg yn rhai o'r ieithoedd dwyreiniol ac fe'i dewiswyd yn 1807 (y flwyddyn y crewyd ef yn farwnig) yn llysgennad cyntaf ('envoy extraordinary and minister plenipotentiary') Prydain i Persia; daliodd y swydd honno hyd 1811.

Cyhoeddodd The Dynasty of the Kajars, translated from the original Persian manuscript (1833), An Account of His Majesty's Mission to Persia in the years 1807-11, to which is added a brief history of the Wahanby (1834), Letter on the Present State of British Interests and Affairs in Persia (1838), etc. Chwig ydoedd yn wleidyddol ac yr oedd iddo gryn ddiddordeb yn etholiadau seneddol sir Faesyfed; yn y sir honno ffurfiwyd ganddo ' The Grey Coat Club,' math o gymdeithas wleidyddol. Dewiswyd ef yn ddirprwy-raglaw sir Faesyfed yn 1841. Cafodd radd D.C.L. ('er anrhydedd') gan Brifysgol Rhydychen yn 1831, ac yn 1832 fe'i hetholwyd yn aelod o'r Cyfrin Gyngor.

Priododd Sarah, merch Syr Henry Gott, Newland Park, sir Buckingham. Bu farw 17 Mawrth 1847 yn Boultibrook, gerllaw Llanandras, plasty y daeth ohono (yn 1923) rai o lawysgrifau'r teulu i'r Llyfrgell Genedlaethol (NLW MSS 4901-12 ), blaenffrwyth casgliad helaethach a ddaeth i'r Llyfrgell (yn 1943) o Kentchurch Court, sir Henffordd. Cynnwys casgliadau Boultibrook a Kentchurch Court (a) ddogfennau ystad a maenorau Harford Jones, a (b) papurau personol a swyddogol Harford Jones Brydges - nodiadau a llythyrau llysgenhadol, papurau'r East India Company, ac yn arbennig bapurau ynglŷn â'i gyfnod yn Persia - y cwbl yn Saesneg, Ffrangeg, iaith Persia, etc.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.